Jump to content

10 Ionawr 2020

Cwrdd a'r tim: Hayley Macnamara

Cwrdd a'r tim: Hayley Macnamara
Beth yw eich enw?
Hayley Macnamara (a fydd cyn hir yn Hayley Eastment!)


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n gweithio'n rhan-amser fel Rheolydd Polisi a Materion Allanol ac yn gweithio ar hyn o bryd ar Werth am Arian, Cynllunio a rhaglen Dyfodol Tai newydd sbon CHC.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Fe wnes ryw fath o syrthio mewn i'r sector tai ar ôl ei chael yn anodd canfod swydd mewn cynllunio tref yn ystod y dirwasgiad. Dechreuais weithio mewn tîm prosiectau tai awdurdod lleol cyn symud at CHC i ddod yn Swyddog Adfywio yn Ionawr 2013


Beth yw'r peth pwysicaf i chi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Mae profiad yn dod gydag amser.


Ble fyddech chi'n gweithio, pe na fyddech chi yn y sector tai?
Mae'n debyg y byddwn yn gwneud rhywbeth hollol wahanol fel gwaith blodau neu artist colur!


Beth yw eich hoff ran o'ch swydd?
Mae pob dydd yn wahanol.


Beth sy'n eich cymell?
Gwyliau. Rydym wedi archebu 7 yn barod eleni!


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Treulio amser gyda fy mab, yn chwarae ac yn edrych ar Cbeebies! Rydyn ni'n hoff iawn o Hey Duggee!


Beth yw eich camp fwyaf?
Fy mab, Theo. Rwy'n wirioneddol lwcus ei fod yn fyw ac ef yw'r peth gorau a ddigwyddodd i fi erioed.


Beth sydd wedi achosi mwyaf o embaras i chi?
Methu agor y clo i fynd allan o doiled mewn bwyty bach yn Ibiza ac yna gael fy achub drwy ffenestr sgwâr fach. Ceisiais gropian allan i ddianc ond fe es yn sownd hanner ffordd trwodd! Roedd yn rhaid i mi weiddi ar rywun oedd yn pasio wnaeth wedyn ddweud wrth fy ffrindiau a'r bwyty i fy ngwthio trwodd.


Ble aethoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oedd eich barn amdano?
Fe aethon ni i Bluestone ychydig cyn y Nadolig ac roedd yn hyfryd a Nadoligaidd. Pe byddwn yn mynd yn ôl byddwn yn dychwelyd yn y misoedd twymach fel y gallem fanteisio i'r eithaf ar y llwybrau cerdded hyfryd a'r Serendome!