Jump to content

23 Rhagfyr 2019

Cwrdd a'r Tim: Bryony Haynes

Cwrdd a'r Tim: Bryony Haynes
Beth yw eich enw?
Bryony Haynes (@bryonyhaynes)


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Cartrefi Cymunedol Cymru - Cymhorthydd Polisi a Materion Allanol


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Drwy fy nghefndir mewn lobio amgylcheddol, sylweddolais y gorgyffwrdd rhwng y sector hwnnw (a llawer o rai eraill) gyda tai. Gall cartrefi ansawdd da effeithio ar gynifer o agweddau eraill o fywyd rhywun. Roeddwn eisiau gweithio mewn sector sy'n rhoi lle blaenllaw i fywoliaeth pobl eraill. Hefyd nid yw'r argyfwng tai yn dangos fawr o arwydd ei fod yn arafu ac mae angen mwy o barau o ddwylo!


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ei ddysgu ers dechrau ar eich gyrfa yn y sector tai?
Yn union pa mor eang yw'r sector mewn gwirionedd - yn arbennig yma yng Nghymru. O safbwynt rhywun o'r tu allan, fyddwn i byth wedi sylweddoli'r holl weithgaredd yn y sector cyn bod yn rhan ohono.


Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n gwneud cais am swydd yn y sector tai?
Bod â meddwl agored. Mae'n sector hyblyg iawn fydd yn eich croesawu gyda breichiau agored ac felly gwerthu eich set sgiliau yn hytrach na'ch gwybodaeth ddechreuol yw'r peth pwysicaf.


Ble fyddech chi'n gweithio, os dim yn y sector tai?
Fe wnes astudio meteoroleg, felly efallai'n rhywbeth yn gysylltiedig â'r tywydd.


Beth sy'n eich cymell?
Gwneud cymaint o wahaniaeth ag sydd modd i fywydau pobl.


Beth ydych chi'n wneud i ymlacio?
Edrych ar raglenni realiti sbwriel ar y teledu nad oes angen llawer o feddwl amdanynt.


Moment falchaf?
Rwyf wedi datblygu ofn uchder mewn blynyddoedd diweddar ond llwyddais i gyrraedd y man uchaf yn Dubrovnik ar wyliau diweddar felly roeddwn yn eitha balch o hynny.


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras?
Fe wnes unwaith faglu ar y trên tanddaearol yn Llundain a mynd yn hedfan lawr y cerbyd gyda photeli o win yn clecian ar fy ôl ...


Beth oedd y ffilm ddiwethaf y gwnaethoch ei gweld a beth yw eich barn amdani?
Two Weeks' Notice (ar Netflix). Chick-flick nodweddiadol i fynd i gysgu wrth edrych arni - 6/10.