Jump to content

18 Tachwedd 2019

Cwrdd â'r tîm: Bethan Proctor

Cwrdd â'r tîm: Bethan Proctor
Beth yw eich enw?
Bethan Proctor


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n gweithio yn Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Fi yw'r Rheolydd Polisi a Materion Allanol newydd.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y maes tai?
Roeddwn yn arfer gweithio yn y trydydd sector yn ymgyrchu yn erbyn tlodi tanwydd, lle gwelais effeithiau ofnadwy byw mewn cartref oer a pheryglus. Mae cartref cynnes, diogel a pharhaol yn sylfaen ansawdd byw iach, ond yn anffodus nid oes digon ohonynt felly roeddwn eisiau ymwneud â'r sector sy'n adeiladu tai fforddiadwy, ansawdd da. Ymhellach, rwy'n wirioneddol angerddol am ofalu am yr amgylchedd ac mae cyfle go iawn i gymdeithasau tai yng Nghymru arwain y ffordd ar ddatgarboneiddio cartrefi ac roeddwn eisiau ymwneud â hyn.


Beth yw'r peth pwysicaf yr ydych wedi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa mewn tai?Mae'r sector tai yn gweithio mewn modd holistig i gefnogi anghenion iechyd, cymdeithasol ac ariannol pobl. Gyda chyfyngiadau llym ar gyllid awdurdodau lleol a gwasanaethau GIG dan bwysau, rydym yn gynyddol yn gweld swyddogion tai yn darparu cefnogaeth i denantiaid gydag anghenion cymhleth a dwys, na all gael y cymorth mewn arall.


Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n gwneud cais am swydd yn y maes tai?
Peidiwch poeni os nad ydych yn gwybod popeth am dai eto - does dim disgwyl i chi! Mae cyflogwyr yn edrych am eich sgiliau a'ch rhagoriaethau, felly dangoswch sut y gallwch roi'r rhan ar waith yn y swydd y gwnewch gais amdani. Byddwch yn onest a dangos eich angerdd.


Ble fyddech chi'n gweithio, os nad yn y sector tai?
Rwyf mewn i wleidyddiaeth, yr amgylchedd a lles anifeiliaid - felly efallai un o'r rhain!


Beth sy'n eich cymell?
Ceisio gadael y byd yn well lle.


Beth ydych chi'n ei wneud i ymlacio?
Seiclo, beicio mynydd, rhedeg, darllen, garddio, gwin!


Moment falchaf?
Fe drefnais gyfrannu 40 gwely o westy i elusen langylchu yng Nghaerdydd sy'n gweithio i drechu tlodi celfi. Rhoddodd Wales Online sylw i'r stori a roddodd gydnabyddiaeth a chyhoeddusrwydd i'r elusen. Mae'r elusen yn darparu celfi a nwyddau gwyn fforddiadwy i gwsmeriaid heb iddynt orfod dibynnu ar gytundebau credyd sydd allan o'u rheolaeth ac mae eu gwaith yn gostwng gwastraff ac effaith ar y blaned, felly roedd yn wych medru hyrwyddo eu gwaith.


Y foment achosodd fwyaf o embaras i chi?
Cymaint ohonynt! Mae'r tro y syrthiais ar fy hyd fel gweinydd o flaen llwyth o gwsmeriaid yn bendant yn un ohonynt! Y tro y gwnaeth fy nghath ddwyn darn o gig o dŷ fy nghymydog ...


Beth oedd y ffilm ddiwethaf i chi edrych arni a beth oedd eich barn amdani?
Roedd ffilm ddiweddaraf Mad Max ar y teledu y noswaith o'r blaen ac er nad ydw i mor hoff o hynny â ffilmiau cynhyrfus, fe wnes ei mwynhau yn fawr. Roedd yn dawel, nihilaidd, cyffrous, ac yn eithaf hurt mewn gwirionedd (mae Tom Hardy ynddi hefyd ...!