Jump to content

06 Rhagfyr 2019

Cwrdd a'r Tim: Aaron Hill

Cwrdd a'r Tim: Aaron Hill
Beth yw eich enw?
Aaron Hill


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych yn ei wneud?
Pennaeth Polisi a Materion Allanol CHC


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Treuliais ychydig flynyddoedd cyntaf fy mywyd yn byw mewn tai cymdeithasol, ond doedd gen i ddim syniad go iawn beth oedd cymdeithas tai nes i mi ddechrau gweithio yn CHC yn 2011! Roeddwn yn edrych am rôl ymgyrchu oherwydd mod i eisiau gwneud gwahaniaeth a digwydd dod ar draws y sefydliad. Fe wnaeth effaith gadarnhaol cymdeithasau tai ar fywydau llawer o bobl fynd â fy mryd yn syth. Mewn gwirionedd, gadawais yn 2014 i ymchwilio meysydd polisi eraill, ond mae tai yn mynd i'r gwaed, ac nid oedd yn hir cyn i mi ganfod fy ffordd yn ôl.


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ei ddysgu ers i chi ddechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Pwysigrwydd tai da i gynifer o feysydd eraill o bolisi. Rydym yn paratoi i fethu fel cenedl ar ganlyniadau iechyd, addysg ac amgylcheddol os nad oes ganddon ni gartrefi da.


Ble fyddech chi'n gweithio, os na fyddech yn y sector tai?
Rhywbeth yn gysylltiedig â chwaraeon a neu fwyd mae'n debyg.


Beth yw'r peth gorau gennych am y swydd?
Y bobl ddiddorol, ymroddedig ac angerddol rwy'n eu cwrdd bob un diwrnod.


Beth sy'n eich cymell?
Ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol fel bod plant o "rannau anffodus" Pen-y-bont ar Ogwr fel fi yn cael y cyfle a gefais i yn ystod fy mywyd. Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl heb dai cymdeithasol!


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Bowliwr y Flwyddyn (2004) Clwb Criced Dan 16 Rheilffordd y Great Western.


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras i chi?
Syrthio mewn afon yn llawn gelod wrth ddod lawr ochr anghywir Scafell Pike yn ystod her y Tri Chopa.


Ble aethoch chi am eich gwyliau dweithaf a beth oeddech chi'n feddwl amdano?
Krakow. O'r hyn a gofiaf, roedd yn wych ...