Jump to content

04 Ionawr 2019

Cwrdd â'r Siaradwr – Steve Austins

Cwrdd â'r Siaradwr – Steve Austins
Ar ôl 20 mlynedd o brofiad mewn darlledu, fe wnaeth Steve Austins gyd-sefydlu Bengo Media, cwmni cynhyrchu podlediadau a hyfforddiant. Pwy well felly i siarad yng Nghynhadledd Cyfathrebu eleni am fanteision podledu mewn oes ddigidol?


Beth ydych chi'n edrych ymlaen yn fwyaf ato yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Rwy'n cael y digwyddiadau hyn yn ddiddorol iawn - maen nhw'n ymborth gwych i'r ymennydd. Rwyf wrth fy modd gwrando ar sgyrsiau eraill fel y gallaf gasglu syniadau a safbwyntiau newydd er mwyn helpu i ddatblygu fy ngwaith fy hun.


Sut ydych chi'n meddwl mae podlediadau'n newid bywyd cyfryngau?
Mae podlediadau yn ymestyn ein chwant am gyfryngau ar-alw. Rydym wedi dod mor gyfarwydd ag edrych ar y teledu drwy Sky Q, Netflix a BBC iPlayer. Mae podlediadau'n awr yn rhoi cyfle i filiynnau ohonom i wrando ar sioeau pryd bynnag y dymunwn, nid pryd mae trefnydd amserlenni radio'n dweud wrthym y gallwn. Mae'r ffaith y gall unrhyw un gyhoeddi podlediad hefyd yn rhoi gwir amrywiaeth yn yr hyn y gallwn wrando arno.


Beth yw'r prif gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried dechrau eu podlediad eu hunain?
Canolbwyntio ar gael y syniad yn gywir cyn gwneud dim byd arall. Y dechnoleg yw'r peth mae pobl yn ffysian mwyaf amdano bob amser. Ond does dim pwynt cael y microffon cywir os nad oes gennych syniad gwych yn gyntaf.


Beth yw eich hoff beth i'w wneud pan nad ydych yn podledu?
Rwyf wrth fy modd gyda phêl-droed felly pan nad wyf yn rhwym o flaen fy meddalwedd golygu, rwy'n tueddu bod yn edrych ar Dinas Caerdydd yn chwarae, lle mae gen i docyn tymor, neu'n dal lan ar Match of the Day yr wythnos flaenorol.


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Cyfathrebu yma.