Jump to content

14 Medi 2018

Cwrdd â’r Siaradwr - Rebecca Evans AC

Cwrdd â’r Siaradwr - Rebecca Evans AC
Cafodd Rebecca Evans AC ei hethol am y tro cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Daeth yn Aelod Cynulliad Gŵyr yn 2016, a chafodd ei phenodi yn Weinidog Tai ac Adfywio ym mis Tachwedd 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n bleser i ni gael ei chwmni pan fydd yn ymuno â ni i siarad yn ein Cynhadledd Flynyddol.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Flynyddol?
Yng nghynhadledd CHC y llynedd treuliais amser yn cwrdd ac yn gwrando ar bobl ar draws y sector. Roedd yn gyfle defnyddiol iawn i glywed amrywiaeth o syniadau a sylwadau, a gobeithiaf wneud yr un fath eleni. Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle i drafod sut y gall pawb ohonom gydweithio i gyflawni'r nod a rannwn o ddarparu mwy o dai cymdeithasol ar draws Cymru mewn ffordd sy'n cynyddu ansawdd, yn cefnogi arloesedd, ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.


Pa mor bwysig yw tai fforddiadwy i bobl yng Nghymru?
Mae gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod tai gwael yn costio £67m y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ond nid yw ffigurau'n esbonio'n llawn beth yw effaith yr oerfel a lleithder, tlodi tanwydd, gorlenwi a heigiadau ar iechyd pobl ac iechyd eu plant.


Mae cartrefi dai yn hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl, a dyma pam fod tai wedi cael blaenoriaeth yn ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb, a'n bod yn buddsoddi'r swm uchaf erioed o £1.7 biliwn yn y sector.


Beth ydych chi'n feddwl yw'r dyfodol ar gyfer tai fforddiadwy?
Mae'n amlwg fod heriau y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw pan fyddwn yn meddwl am dai fforddiadwy yn y dyfodol. Rydyn ni'n gwybod fod angen mwy o dai fforddiadwy, felly mae'n rhaid i ni gynllunio am ddyfodol di-garbon ac mae angen i ni fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Wrth i'n poblogaeth heneiddio, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried sut y gall tai ein cefnogi'n well i ni fyw bywydau iach ac annibynnol. Mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n ystyried iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol pobl ar wahân. Rwyf eisiau i dai fod â rôl bwysig yn y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.


Gallwn arwain y ffordd ar y materion yma yng Nghymru, ac mae gan yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy le canolog wrth lunio ein hymateb i'r heriau mawr hyn. O gofio am y problemau, mae'r adolygiad yn hollbwysig, ac rwyf eisiau i bawb yn y sector gyfrannu."


Beth ydych chi'n fwynhau ei wneud tu allan i'r gwaith?
Rwy'n ddigon ffodus i fyw yn a chynrychioli etholaeth hyfryd Gŵyr, felly mae gennyf droeon bendigedig i'w mwynhau ar garreg fy nrws. Rwyf hefyd yn hoff iawn o ganu gwlad modern!


*nodyn y golygydd: darllenwch mwy am yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy yma


Cliciwch yma i archebu eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol.