Jump to content

19 Hydref 2018

Cwrdd â'r Siaradwr - Lucy Adams

Cwrdd â'r Siaradwr - Lucy Adams
Lucy Adams yw Prif Swyddog Gweithredol Disruptive HR. Cyn sefydlu'r cwmni, bu ganddi nifer o swyddi uwch mewn adnoddau dynol mewn amrywiaeth o sectorau, yn fwyaf diweddar yn y BBC. Ym mis Tachwedd, bydd Lucy yn siarad yn ein Cynhadledd Flynyddol, gyda'r nod o ddangos ffyrdd newydd o weithio drwy ymyriad, cyfuno'r syniadau diweddaraf, cynghorion ymarferol a phrofiadau personol.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Flynyddol?
Mae bob amser yn wych mynd i ddigwyddiadau a chwrdd â phobl newydd yn y proffesiwn adnoddau dynol sydd â diddordeb mewn herio'r ffordd draddodiadol o wneud pethau a chlywed am eu profiadau.


Beth ydych chi'n feddwl yw'r dyfodol i'r sector tai os aiff Brexit yn ei flaen?
Nid wyf yn credu fod unrhyw un yn gwybod eto beth fydd gwir effaith Brexit! Yn fy sgwrs yn y gynhadledd serch hynny byddaf yn trafod pam fod heriau byd anhrefnus yn golygu y bydd yn rhaid i ni newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn arwain, ymgysylltu a datblygu ein pobl.


Sut ydych chi'n meddwl y gallai ymagwedd newydd at arweinyddiaeth fod o fudd i'r sector tai
Rwy'n credu fod y sector yn edrych am yr un pedwar peth - mwy o hyblygrwydd, mwy o gynhyrchiant, mwy o arloesi a lefelau uwch o gydweithio. Nid yw'r sector tai yn ddim gwahanol, ond ni fedrir cyflawni'r nodau hyn os nad ydyn ni'n newid ein hymagwedd at arweinyddiaeth.


Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud y tu allan i'r gwaith?
Rwyf wrth fy modd yn mynd i'r gampfa a mynd i ddosbarth yoga achlysurol. Rwyf hefyd wrth fy modd yn teithio ond ar yr un pryd, rwy'n mwynhau ymlacio ar y soffa gyda bocs set da a fy nwy gath Elizabeth Taylor ac Ava Gardner.


Cliciwch yma i archebu eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol.