Jump to content

21 Medi 2018

Cwrdd â'r Siaradwr – Darren McGarvey

Cwrdd â'r Siaradwr – Darren McGarvey
Daw Darren McGarvey, a gaiff hefyd ei adnabod fel Loki, o'r Alban. Mae'n rapiwr a sylwedydd cymdeithasol ac enillodd ei lyfr Poverty Safari wobr Orwell. Rydym wrth ein bodd bod Darren yn ymuno â ni fel siaradwr yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Tachwedd, lle bydd yn codi cwr y llen ar ei brofiad ei hun o dlodi a tai cymdeithasol.


Beth ydych chi'n credu yw'r dyfodol ar gyfer y sector tai pan aiff Brexit yn ei flaen?
Fel pob sector arall, bydd sioc sydyn i'r economi yn rhoi pwysau sylweddol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol ar rai o'n cymunedau sy'n wynebu'r anawsterau mwyaf. Er ei bod yn sicr yn wir nad oedd llawer o'r cymunedau hyn eisoes yn gwneud yn rhy dda o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae hefyd yn wir eu bod wedi derbyn adnoddau sylweddol o bob rhan o'r cyfandir i geisio eu hadfywio.


Rwy'n pryderu y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Brexit fel cyfiawnhad am fwy o lymder. Yr eironi mawr yw mai'r rhai a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd fydd yn cael eu taro galetaf gan yr adladd.*


Ydych chi'n meddwl fod Poverty Safari yn helpu i fwrw goleuni ar y problemau sy'n wynebu teuluoedd incwm is pan ddaw i'r maes tai?
Dyna'n bendant oedd y bwriad. Mae'r llyfr yn ymgeisio gosod cyd-destun ehangach ar gyfer bywyd ar gyfer llawer mewn cymunedau sy'n wynebu anawsterau. Mae'n dechrau gyda dadansoddiad emosiynol a seicolegol sy'n anelu i ddangos sut y caiff llawer o agweddau, ffyrdd o fyw ac amgylchiadau eu llunio gan yr amgylchiadau anodd a gelyniaethus lle cawsant eu geni. Mae'r agwedd yma'n aml yn cael ei hanwybyddu.


Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud tu allan i'r gwaith?
Nid oes 'tu allan i'r gwaith' i fi ar hyn o bryd. Rwyf fel arfer yn gweithio, yn teithio i weithio, yn paratoi i deithio neu'n dod ataf fy hun ar ôl gweithio. Os wyf yn cael amser rhydd, rwyf bron bob amser yn ei dreulio gyda fy nheulu, er o gofio pa mor ifanc yw fy mhlant, ni fedrid disgrifio hyn fel 'ymlacio'. Bydd digon o gyfle i gysgu pan fyddaf wedi marw


*nodyn i'r golygydd: darllenwch sylwadau Georgina Shackell Green ar Brexit yma.


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol.