Cwrdd â Georgina Shackell Green, Cymhorthydd Materion Cyhoeddus CHC
Helo! Fi yw Georgina, Cymhorthydd Materion Cyhoeddus newydd CHC. Byddaf yn cefnogi Aaron, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus gyda monitro gwleidyddol, trefnu digwyddiadau ac ymchwil (ymysg pethau eraill).
Mae materion cyhoeddus a thai yn feysydd newydd i fi, felly rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y maes hwn a gweld beth fydd y rôl yn ei gynnwys. Mae swydd Cymhorthydd Materion Cyhoeddus yn un newydd i CHC yn ogystal ag i finnau, felly bydd yn gyffrous llunio a datblygu gydag amser.
Cyn hyn, roeddwn yn gweithio fel Gweithiwr Cefnogaeth ar gyfer Gweithredu dros Blant. Fe wnaeth hyn i mi fod eisiau gweithio mewn maes sy'n gallu dylanwadu ar newidiadau i ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar fywydau pobl. Bydd y swydd yn rhoi cyfle i mi wneud hynny drwy lobio a dylanwadu dros newid cadarnhaol yn y maes tai yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at agweddau ymchwil y swydd, yn ogystal ag ysgrifennu papur gwybodaeth a blogiau. Roeddwn yn gwirioneddol fwynhau ymchwil ac ysgrifennu traethodau yn y brifysgol ac rwyf wedi gweld eu colli dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Astudiais Lenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol cyn parhau gyda Moeseg Fyd-eang. Fel rhan o fy astudiaeth gradd meistr cefais leoliad gyda Dignity in Dying, grŵp ymgyrchu sy'n lobio San Steffan am newidiadau i'r cyfreithiau ar gymorth i farw. Rhoddodd hyn beth profiad i mi o sut mae sefydliadau lobio yn gweithio, fydd yn fy helpu i ddeall rhai agweddau o sut fydd fy swydd newydd gyda CHC yn cyfrannu at y sefydliad yn ei gyfanrwydd.
Rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod pawb, yn cynnwys aelodau, rhanddeiliaid allanol a staff y Cynulliad/Senedd a gweld beth ddaw'r rôl hon i fi a CHC.