Jump to content

14 Gorffennaf 2017

Creu Creadigrwydd - Teitl gwych am wobr!




Pan gawsom ein cynnwys ar wobr Pat Chown y llynedd, safem wrth ochr nifer o brosiectau tai creadigol. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld ein cydweithwyr yn y sector tai yn meddwl yn wahanol ac yn datblygu syniadau newydd i ddatrys problemau cyffredin.


Ar y pryd, roedd ein dull diogelu 'Achos Consyrn' yn eithaf newydd. Cafodd ei sefydlu ym mis Hydref 2014 a dros y blynyddoedd dilynol dechreuodd ennill ei blwyf o ddifrif fel rhan o'n diwylliant. Gwelsom staff o bob rhan o'r cwmni, yn cynnwys gweithwyr cynnal a chadw a rheolwyr cyfrifon rhent, yn adrodd eu pryderon am ddiogelwch a llesiant tenantiaid.


Pan wnaethom ennill y wobr yn 2016, roeddwn yn falch iawn i weld cydnabyddiaeth i'n dull o ddiogelu. Cafodd Achos Consyrn ei gynllunio i sicrhau ein bod yn cadw ein tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi. Pan mae aelod o staff yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n peri pryder iddynt am lesiant tenant, maent yn hysbysu aelod profiadol o'r tîm am y consyrn ac maen nhw wedyn yn gweithredu'n gyflym. Mae'r dull gweithredu yma yn ein galluogi i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ac mae wedi profi'n syml, effeithlon a rhad.


Mae tîm Achos Consyrn wedi parhau â'u gwaith da, gan ddatblygu’r dull ac gweithio i ddiweddaru hyfforddiant ar gyfer pob un o'r 184 o staff a hyfforddwyd mewn Achos Consyrn. Fis ar ôl mis derbyniant atgyfeiriadau am bryderon yn ymwneud â diogelwch plant, diogelwch oedolion a cham-drin domestig. Mae'r nifer o achosion diogelu a adroddwyd drwy Achos Consyrn bob amser wedi bod yn uwch na'n disgwyliadau. Mae hyn yn dueddiad a barhaodd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda chyfanswm o 407 atgyfeiriad Achos Consyrn yn cael eu gwneud, cynnydd o 64% ar y llynedd.


Bu'n galonogol gweld fod y dull yn parhau i fod yn effeithlon. Ym mis Rhagfyr, gwnaeth aelod gwasanaeth cwsmeriaid atgyfeiriad dros denant oedd wedi ffonio i ddweud ei bod angen gwaith trwsio i'w chartref. Roedd yn ddagreuol ar y ffôn ac wedi dweud ei bod yn cael trafferth gydag iselder a phryder. Gwnaeth yr aelod gwasanaeth cwsmeriaid atgyfeiriad Achos Consyrn. Yn dilyn hyn, cyfarfu aelod o staff JR gyda hi i drafod ei sefyllfa a beth fyddai'n ei helpu yn y dyfodol. Mae'n awr yn cymryd rhan mewn prosiect cyflogaeth a gaiff ei redeg mewn partneriaeth gyda'r elusen iechyd meddwl Gofal.


Mae Achos Consyrn yn bodoli i ddiogelu diogelwch a llesiant ein tenantiaid ac rwy'n hyderus y bydd gwaith y tîm Achos Consyrn yn parhau i helpu cadw ein tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi. Rwy'n falch o'r dull gweithredu a gafodd ei greu gan y tîm a bod staff ym mhob rhan o'n cwmni yn rhoi lle blaenllaw i ddiogelu ein tenantiaid yn eu gwaith.
Stephen Evans
– Cyfarwyddydd Gweithrediadau, Tai Siarter