Jump to content

02 Rhagfyr 2016

Creu Creadigrwydd - Gwobr Pat Chown 2016

Mae dull newydd ar gyfer ymwneud gyda materion diogelu yn effeithio ar blant ac oedolion agored i niwed yn ogystal â phobl sy'n dioddef o gam-drin domestig wedi ennill Creu Creadigrwydd - Gwobr Pat Chown 2016.

Mae Achos Consyrn/Cause for Concern yn gynllun gan Gymdeithas Tai Siarter ac mae'r ffordd newydd o weithio’n golygu y gall staff ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i'r rhai sydd angen help.

Wrth ddod i'w benderfyniad, dywedodd y beirniaid: "Enillodd Achos Consyrn Tai Siarter oherwydd yr effaith wirioneddol a gafodd ar fywydau pobl drwy drin pryderon am ddiogelu mewn ffordd wahanol.

Mae'r newid "syml" mewn dull gweithredu wedi cael effaith sylweddol drwy addasu systemau presennol i weithio mewn ffordd effeithlon gyda mwy o ffocws. Mae hefyd yn gweithio ar draws y busnes a gyda sefydliadau eraill, gan helpu i gynnal tenantiaethau. Cyflawnir hyn i gyd o fewn eu hadnoddau presennol.

Hoffai'r beirniaid a finnau longyfarch Tai Siarter ar ennill gwobr eleni a diolch i bawb arall a gynigiodd am y gwahaniaethau cadarnhaol maent yn eu gwneud i fywydau pobl eraill.

Edrychwn ymlaen at weld mwy o gynigion gwych y flwyddyn nesaf!"

Mae Gwobr Pat Chown yn dathlu cynlluniau sy'n newid bywydau ac sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Dewisir yr enillydd gan banel o feirniaid a ddewisodd bedwar cynnig ar gyfer y rhestr fer eleni.

Mae Tai Siarter yn ennill £1,000 ar gyfer elusen seiliedig yng Nghymru ac mae'n cyfrannu'r arian i '1 Step at a Time'.

Cyflwynwyd y wobr a'r tlws mewn cinio yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Stephen Evans, Cyfarwyddydd Tai yn Tai Siarter: "Rydym yn falch iawn i ennill Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown ar gyfer 2016 am ein prosiect Achos Consyrn. Mae hon yn wobr bwysig iawn ac rydym yn arbennig o falch i ni gael ein cydnabod gan ein cydweithwyr yn y sector tai."

Mae sicrhau diogelwch a lles ein tenantiaid yn hollbwysig i ni yn Siarter. Mae Achos Consyrn wedi sicrhau y gall ein staff godi ac adrodd pryderon yn rhwydd, ac mae wedi ein galluogi i weithredu'n gyflym ac effeithlon. Mae'n system syml sy'n golygu ein bod wedi gallu helpu dros 550 o aelwydydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac un fydd yn parhau i ddatblygu a gwella yn y dyfodol."

Y tri chynnig arall yn y rownd derfynol oedd

United Welsh - Cartrefi Gwag Cymru - 'Les Newydd o Fywyd'

Mae'r prosiect hwn, sydd wedi ei seilio ar fodel lesu newydd a gyflwynwyd yn 2014, yn helpu perchnogion tai i ddod â'u cartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, drwy drawsnewid gofodau y medrir byw ynddynt i ddarparu cartrefi sydd eu mawr angen a helpu perchnogion tai i ddiogelu eu hasedau.

Yn eu cais dywedodd United Welsh:

Credwn y dylai Cartrefi Gwag Cymru ennill am ddau reswm.

Yn gyntaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol, a ddangosir drwy'r astudiaethau achos yn ein dogfen gefnogi.

Yn ail, credwn fod ein tîm Prosiectau Arbenigol yn haeddu canmoliaeth!

Cyn cyflwyno'r model lesu newydd yn 2014, roeddem wedi trawsnewid saith o gartrefi gwag.

Mae arloesedd y tîm wrth feddwl am ffyrdd newydd i sicrhau canlyniadau gyda Cartrefi Gwag Cymru wedi sicrhau cynnydd o 243% yn nifer y cartrefi gwag a gaiff eu lesu gan United Welsh ers lansio'r ffordd newydd o weithio.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Ardaloedd Gweithredu Iechyd a Thai

Mae hwn yn ddull gweithredu ar y cyd, aml-asiantaeth i fynd i’r afael a thai ac iechyd gwael drwy ganolbwyntio ar ostwng nifer y cartrefi gyda pheryglon a nifer yr eiddo gwag.

Yn eu cynnig, dywedodd CBS Rhondda Cynon Taf:

Ar adeg pan mae adnoddau dan bwysau, mae'r prosiect wedi dangos bod dull wedi ei dargedu a chronni adnoddau mewn un maes yn ddull effeithlon o sicrhau gwelliannau mewn tai ac iechyd. Mae'r prosiect wedi profi y gall gweithgaredd tai ysgogi gweithio partneriaeth ar y cyd a sicrhau buddion diriaethol i iechyd a llesiant.

Ar ôl dechrau araf oherwydd yr angen i ennill ymddiriedaeth y gymuned, mae darparwyr gwasanaeth a phreswylwyr yn awr yn annog aelodau eraill o'r gymuned i fanteisio ar y cyfleoedd i wella tai ac iechyd a alluogir drwy'r prosiect yma.

Cymdeithas Tai Newydd - Prosiect HAPI (Iechyd, Uchelgeisiol, Ffyniannus a Chynhwysol)

Nod y prosiect iechyd a llesiant dwy flynedd a gyllidir gan y Loteri Fawr yn Rhondda Cynon Taf yw grymuso pobl yn byw yn y fwrdeisdref i ennill yr wybodaeth, sgiliau a hyder i wneud dewisiadau iechyd cadarnhaol a gwella eu hiechyd a llesiant.

Yn ei gynnig, dywedodd Newydd:

Mae prosiect HAPI yn rhan bwysig o fosaig darpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer pobl agored i niwed yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwerthusiad annibynnol yn dangos yr effaith gadarnhaol ar fywydau cyfranogwyr a nododd gynnydd mewn hyder, ffitrwydd corfforol, llesiant emosiynol a chydnerthedd. Mae partneriaid allweddol yn parhau i fod â diddordeb, yn frwdfrydig ac yn gefnogol.

Mae ymagwedd hygyrch, cefnogol a brwdfrydig y tîm wedi arwain at lefelau uchel o ymgysylltu ac wedi helpu i sicrhau fod y prosiect yn parhau i fod yn boblogaidd, llwyddiannus ac effeithlon.

Mae prosiect HAPI eisoes wedi rhagori ar ei dargedau ar gyfer ymgysylltu a gweithgareddau ac yn awr yn dod yn brif ffrwd a chynaliadwy sy'n ganlyniad gwych i breswylwyr lleol.

Bu Gwobr Pat Chown yn rhedeg ers 2000. Y llynedd fe'i cyflwynwyd i'r YMCA ar gyfer ei brosiect Camau.

Dywedodd Andrea Reynolds, Uwch Weithiwr Cefnogaeth Cymdeithas Tai YMCA Caerdydd eu bod yn falch i'w ennill.

"Cafodd y prosiect flwyddyn lwyddiannus arall gan helpu llawer o unigolion gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus i gael mynediad i lety camu lawr a chefnogaeth.

Mae'r bartneriaeth gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghaerdydd a'r Fro wedi ein galluogi i ddarparu pecyn cydlynol o ofal a chefnogaeth i bob unigolyn, gan hwyluso rhyddhad diogel o ysbyty neu Ofal Iechyd Parhaus.

Rydym yn cydlynu'n rheolaidd gyda swyddogion iechyd meddwl o dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ar draws y Bwrdd Iechyd ac mae'r gweithio cydlynol yn nodwedd allweddol o'r prosiect.

Ar hyn o bryd rydym yn ansicr am ddyfodol y prosiect ar ôl mis Ebrill 2017 ond tan hynny, byddwn yn parhau i gefnogi ein holl breswylwyr i gyflawni eu nodau, ailsefydlu yn y gymuned a chael mynediad i lety addas tymor hirach."

Darllenwch flog John Chown am Wobrau Creu Creadigrwydd Pat Chown 2016 yma: