Jump to content

26 Ebrill 2019

Creu ardal chwarae newydd i ysgol yng Ngwynedd

Creu ardal chwarae newydd i ysgol yng Ngwynedd
Bydd disgyblion Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth nawr yn gallu mwynhau chwarae rhywle sy'n addas i gadeiriau olwyn, ynghyd â phwll tywod, gardd synhwyrol, ac ardal i wneud tân, diolch i Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) a datblygwr lleol, Brenig Construction.


Fe wnaeth gweithwyr o Brenig Construction a gwirfoddolwyr o CCG gweithio trwy’r hanner tymor ym mis Mawrth er mwyn creu ardal fforest a chwarae wrth ochr yr ysgol, gyda’r deunyddiau i gyd yn cael eu rhoi am ddim gan Brenig.


Dywedodd Pennaeth Ysgol Hafod Lon, Mrs Donna Roberts: “Mae’r ardal ysgol fforest sydd wedi cael ei adeiladu yn wych. Cafodd y gwaith ei wneud yn gwbl ddidrafferth dros hanner tymor ac mae’r plant yn barod yn cael budd ohono. Maent wrth eu boddau yn cael cyfle i fynd allan i'r fforest a chael profi’r holl elfennau synhwyrol sydd o'u cwmpas. Maent yn edrych ymlaen at gael tostio marshmallows a chael BBQ dros dymor yr haf. Mae'n adnodd hynod werthfawr i'r ysgol a gydag ychwanegiad y ramp mae'r ardal nawr yn hygyrch i bob unigolyn yma.


“Rydym yn ddiolchgar iawn i Brenig Construction a Cartrefi Cymunedol Gwynedd am y buddsoddiad ariannol a’r amser maent wedi rhoi o’u gwirfodd i’w adeiladau.”


Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd: “Mae’n grêt gweld ein contractwyr yn rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned, rydym bob amser yn ceisio sicrhau trwy ein prosesau caffael bod cymunedau yn gweld buddion ehangach na darparu tai i’n gwaith.


“Ar yr achlysur yma mae Brenig wedi mynd tu hwnt i’n gofynion ac wedi cyfrannu oriau o lafur a gwerth miloedd o ddeunydd i greu ardal braf i blant Ysgol Hafod Lon. Dw i’n ei llongyfarch ar hyn ac yn falch iawn o beth maent wedi’i gyflawni.”


Ychwanegodd Steve Walker, Rheolwr Gweithrediadau Brenig Construction: “Rydym yn falch iawn o fedru rhoi rywbeth nôl i’r cymunedau rydym yn byw a gweithio. Mae Brenig yn gwmni sy’n integreiddio ac arloesi er mwyn ychwanegu gwerth i gadwynau cyflenwi tra hefyd yn sicrhau ein bod yn cyflawni’n prosiectau’n llwyddiannus.


“Hoffwn ddiolch hefyd i gwmni T D Plant Hire am roi menthyg y peiriannau yn rhad am ddim i ni gael cyflawni’r gwaith.”


Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth nid yn unig i adeiladu cartrefi fforddiadwy, ond hefyd i greu’r sylfeini ar gyfer cymuned gref. Dysgwch fwy am weledigaeth y sector yma.