Jump to content

26 Chwefror 2015

Corff tai yn galw am Fwrdd Rheoleiddio hollol annibynnol

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff cynrychioli cymdeithasau tai Cymru, heddiw'n galw am i bob aelod o Fwrdd Rheoleiddiol Cymru fod yn aelodau annibynnol.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraethiant CHC, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys sefydliadau amrywiol sy'n wynebu heriau nas gwelwyd eu tebyg - toriadau mewn cyllidebau, diwygio lles, toriadau ac uno awdurdodau lleol a dyfodol darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae'r amgylchedd wedi newid ers sefydlu'r bwrdd gwreiddiol. Credaf ein bod angen bwrdd mwy cynrychioladol, gyda'r holl aelodau yn rhai annibynnol, i sicrhau fod rheoleiddio'r sector tai mor gymesur ac effeithlon ag y gall fod a'i fod yn cadw hyder cymdeithasau tai, eu tenantiaid, buddsoddwyr a rhanddeiliaid eraill."

Ychwanegodd Stuart: "Dylai aelodau'r Bwrdd gael eu penodi ar eu haeddiant gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dilyn proses apwyntiadau cyhoeddus agored a, gyda'i gilydd, dylent osod y cyfeiriad strategol ar gyfer y rheoleiddiwr a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y pethau cywir.

"Byddai'r bwrdd yn helpu i roi sicrwydd, hyder a her, i'r sefydliadau hynny a gaiff eu rheoleiddio a hefyd i'r tîm rheoleiddio.

"Hoffwn weld y bwrdd newydd yn canolbwyntio ar barhau i gefnogi defnyddio dull gweithredu cyd-reoleiddio seiliedig ar risg gan gryfhau'r berthynas gyda rhanddeiliaid allweddol i adeiladu sector tai cymdeithasol cryfach byth yng Nghymru."

Daw'r galwad am y Bwrdd Rheoleiddiol Annibynnol ar yr un pryd â lansiad Cod Llywodraethiant CHC. Mae'r Cod, a gynhyrchwyd mewn ymgynghoriad gydag aelodau, yn gosod safonau ac arferion y mae'n rhaid i fyrddau a'u haelodau gydymffurfio â nhw. Fe'i cynlluniwyd i helpu cymdeithasau tai i ddatblygu strwythurau llywodraethiant da ac i gefnogi gwella gwasanaeth parhaus i denantiaid.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae'r Bwrdd Rheoleiddio annibynnol a lansiad ein Cod Llywodraethiant yn elfennau hollbwysig wrth helpu i gyflawni ein huchelgais o gydnabod cymdeithasau tai fel y cyrff a gaiff eu llywodraethu orau yng Nghymru."