Jump to content

16 Ionawr 2018

Côr yn taro’r nodyn cywir i ddyn yn gwella o waeledd difrifol

Côr yn taro’r nodyn cywir i ddyn yn gwella o waeledd difrifol
“Mae’r clwb wedi newid fy mywyd er gwell - rwy’n teimlo fod gen i bethau i edrych ymlaen atyn nhw eto.”


Mae Colin yn aelod newydd o gôr meibion llewyrchus Cil-y-coed. Wedi i waeledd difrifol ei orfodi i ymddeol o’i waith yn ddim ond 52 oed, cafodd ei adael heb ddim o’r cylchoedd cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwaith y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.


Bum mlynedd yn ôl roedd Colin yn byw bywyd normal fel gweithredwr pont bwyso ym Mryste. Ar ôl cyfres o boenau sydyn a llym yn ei stumog cafodd ei roi mewn coma meddygol yn brwydro yn erbyn methiant yr arenau a’r afu, septisaemia a chwe ataliad y galon.


Bu’r broses wella yn un faith wrth i Colin frwydro yn erbyn cyflwr o’r enw newropatheg gofal critigol - afiechyd y nerfau perifferol sy’n digwydd o ganlyniad i drawma neu heintiad difrifol. Mae hyn wedi gadael Colin gyda phroblemau symudedd a defnydd cyfyngedig o’i freichiau a’i ddwylo.


Cafodd Colin ei atgyfeirio i wasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) trwy Dean Lannen, Swyddog Tai a Llesiant gyda MHA oedd wedi bod yn gweithio gyda Colin.


Mae’r gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl sy'n ynysig yn gymdeithasol neu’n fregus ac yn byw yn Sir Fynwy, ac nid tenantiaid MHA yn unig. Mae staff yn helpu pobl mewn nifer o ffyrdd - o gynorthwyo pobl yn eu cartrefi gyda thasgau cyffredin sy’n creu anawsterau i helpu pobl i fynd allan a chymryd rhan yn eu cymunedau lleol.


Fe wnaeth y Swyddog Cymorth Cynhwysiant Cymdeithasol, Teri Power, gyfarfod Colin gyntaf yn hwyr yn 2016. Ar ôl treulio amser yn sgwrsio gyda Colin i gael gwybod am ei hobïau a’i ddiddordebau, ac ymchwilio i’r grwpiau a gweithgareddau lleol a allai fod yn addas iddo gymryd rhan ynddynt, awgrymodd Teri iddo ymuno â chôr meibion Cil-y-coed gan fod ganddo ddiddordeb erioed mewn canu.


Gan nad yw Colin yn gallu gyrru erbyn hyn, roedd rhaid i Teri ymchwilio i’r opsiynau cludiant oedd ar gael a’r logisteg o gael Colin o’i gartref i ymarfer y côr bob wythnos. Ar ôl iddi siarad gyda gweithiwr cymorth lleol, Sue, cytunodd Sue a Terri i gydweithio i helpu Colin i fynd yn ôl a blaen i gyfarfod grŵp y côr bob wythnos gan ddefnyddio gwasanaeth bws arbenigol sy’n helpu pobl sydd â phroblemau symudedd i deithio’n ddiogel ar draws yr ardal leol.


Daeth Colin yn gartrefol yn fuan yn y grŵp ac mae’n dweud fod y cyfarfodydd wedi dod yn uchafbwynt go iawn yn ei wythnos. Mae’n esbonio: “Roedd fy nhad yn arfer chwarae mewn band glowyr ac rwy’n cofio’r gerddoriaeth y byddai’n arfer ei chwarae pan oeddwn i’n ifanc. Fe wnaeth Teri fy annog i ymuno â’r grŵp ac roeddwn i wrth fy modd yn darganfod grŵp o bobl mor groesawgar a chyfeillgar.


“Mae’n wych gallu mynd mas ar draws y sir gyda’r grŵp ac rwyf wrth fy modd yn canu! Mae gen i brawf llais bariton i ddod a gyda lwc os gwnaf i basio hwnnw fe fydda i’n cael fy nerbyn yn swyddogol.


“Mae Teri wedi bod yn gymaint o help i mi. Mae’n gyfeillgar ac yn cadw mewn cysylltiad trwy’r amser. Rwy’n ymuno â grŵp lleol hefyd ac mae’n braf cael rhywbeth i edrych ymlaen ato eto.”


Dywedodd Teri: “Mae’n bleser gweithio gyda Colin, Rwy’n falch fy mod wedi gallu ei helpu i ymuno â'r côr, gan ei fod yn mwynhau ei hun gymaint. Mae pawb yn y côr wrth eu bodd fod Colin yno ac mae wedi dod yn aelod hanfodol o’r grŵp. I mi mae wedi bod yn wych gweld y newid yn Colin ers y tro cyntaf i mi gwrdd ag e. Nawr rwy’n ei weld yn chwerthin, yn rhyngweithio ac yn canu’n braf bob wythnos.”