Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Adolygiad o Ofal Preswyl
Mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wedi lansio ei Hadolygiad o Ofal Preswyl yn swyddogol, sef adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru.
Mae’n galw ar bobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd, i rannu eu profiadau o ofal preswyl. Defnyddir y wybodaeth hon ynghyd ag amrywiaeth o dystiolaeth arall i ddatblygu cyfres o argymhellion i gyrff cyhoeddus a darparwyr gofal preswyl.
Dywedodd Sarah Rochira: “Mae lleisiau pobl hŷn, yn ogystal â’r rheini sy’n gofalu amdanynt ac sy’n poeni amdanynt, wrth galon fy ngwaith fel Comisiynydd. Dyna pam rwy'n dymuno clywed am eu profiadau o ofal preswyl.”
Fel rhan o’r Adolygiad hwn, bydd y Comisiynydd a’r tîm hefyd yn ymweld ag oddeutu 100 o gartrefi preswyl ledled Cymru, gan gwrdd â phobl hŷn i glywed ganddynt yn bersonol am eu profiadau, a chasglu rhagor o dystiolaeth yn uniongyrchol gan ddarparwyr gofal, staff gofal cymdeithasol a chyrff cyhoeddus.
“Drwy roi llais i bobl hŷn a'u teuluoedd, bydd fy Adolygiad a’r argymhellion yn sicrhau bod y rhai sy’n atebol am ein gwasanaethau ac yn eu rhedeg, yn deall y realiti o fyw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru a’r camau angenrheidiol i wireddu’r newid sy’n hanfodol er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yr ansawdd bywyd gorau.”
Er mwyn rhannu eich profiadau am fyw mewn cartref gofal preswyl (neu rannu profiad ffrind neu rywun annwyl i chi), llenwch ein holiadur, sydd ar gael yn www.olderpeoplewales.com