Jump to content

16 Chwefror 2018

Coffi a chyfrifiaduron y cyfuniad perffaith ar gyfer preswylwyr Rhaglan

Coffi a chyfrifiaduron y cyfuniad perffaith ar gyfer preswylwyr Rhaglan
“Mae'n codi fy nghalon bob wythnos. Rwy'n dysgu pethau newydd ond wrth gwrs yr elfen gymdeithasol, y gwmnïaeth, sy'n gwneud y grŵp yma mor arbennig."


Sylvia Meredith yw ysgrifennydd grŵp poblogaidd Coffi a Chyfrifiaduron sy'n seiliedig yn y Rhaglan. Mae Coffi a Chyfrifiaduron yn grŵp cymdeithasol wythnosol sy'n helpu pobl sy'n byw yn Rhaglan a'r cylch i fynd ar-lein a dysgu sut i ddefnyddio'r we.


Caiff y grŵp ei arwain gan diwtoriaid gwirfoddol sy'n bresennol i helpu pobl i fynd i'r afael gyda defnyddio eu gliniaduron a dyfeisiau llechen mewn gosodiad anffurfiol dros ddishgled o de neu goffi. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob wythnos yng Nghanolfan Cyfeillach Rhaglan, ac ar ôl tair blynedd o gael ei gydlynu gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy, ffurfiodd Coffi a Chyfrifiaduron ei siarter ei hun a daeth yn hunanddigonol. Mae hyn yn golygu fod y grŵp yn cyllido ei hunan drwy nawdd a grantiau ac mae ganddo ei strwythur rheoli ei hun.


Esboniodd Sylvia: "Fe wnes ymuno â Coffi a Chyfrifiaduron i ddechrau ar ôl i fy mhlant fy annog i gael llechen a chadw mewn cysylltiad gyda'r teulu ar-lein. Rwy'n defnyddio e-bost a Facebook ac yn hoff iawn o fy llechen - rwy'n ei chael yn rhwydd i ddefnyddio'r apiau. Rwy'n wirioneddol mwynhau tudalen Facebook Raglan Matters hefyd. Mae bob amser bethau newydd arni yn cynnwys lluniau hanesyddol o Rhaglan, pobl leol, newyddion a gwybodaeth. Rwy'n defnyddio Raglan Matters i gadw lan gyda beth sy'n digwydd yn lleol.


"Ond ochr gymdeithasol pethau sy'n gwneud ein grŵp mor arbennig. Rydym yn rhannu'r llon a'r lleddf. Weithiau rydyn ni'n mynd i'r dafarn ar ôl cwrdd a chawsom ginio Nadolig gyda'n gilydd. I lawer o aelodau dyma'r unig gyfle a gânt i fynd allan a chwrdd â phobl bob wythnos. Does dim llawer o grwpiau cymdeithasol ar gael yn lleol ac mae llawer o aelodau hefyd yn byw ar ben eu hunain, felly mae'r elfen cwmnïaeth yn hollbwysig. Rwyf bellach yn ysgrifennydd y grŵp ac yn mwynhau cyfrifoldeb hynny. Mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy wedi bod mor gefnogol i'r grŵp dros y blynyddoedd ac maent wedi ein grymuso i ddod yn hunanddigonol. Mae gan Coffi a Chyfrifiaduron dyfodol disglair!"