Jump to content

16 Tachwedd 2018

Codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Arch Noa i Gymru

Codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Arch Noa i Gymru
Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn codi arian ar gyfer Apêl Bywydau Bach Ysbyty Plant Arch Noa i Gymru.


Mae tîm meddygol rhyfeddol yr ysbyty yn gofalu am fabanod sy’n wael a’u helpu nhw a’u rhieni trwy amseroedd heriol iawn. Sefydlwyd yr apêl ddwy flynedd yn ôl i godi £1 miliwn ar gyfer yr uned gofal dwys i’r newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Nod y gronfa yw codi arian i ddarparu gwasanaethau cymorth emosiynol i rieni sy’n mynd trwy gyfnod anhygoel o anodd, trwy offer arbed bywyd i roi’r cyfle gorau bosib i fabanod a anwyd cyn pryd a rhai sy’n enbyd o wael. Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu cefnogaeth i’r nyrsys a meddygon hynny sy’n rhoi popeth i’r gwaith o ofalu am eu cleifion bach.


Eleni arbedodd y tîm yn Arch Noa fywyd Theo, baban a anwyd pan oedd ei fam Hayley, ein Rheolwr Polisi a Rhaglenni, yn feichiog ers 26 wythnos yn unig. Oherwydd hyn mae’r apêl yn agos iawn at ein calonnau.


Ysgrifennwyd stori Theo, isod, gan Arch Noa.


Fe gwrddon ni’r babi Theo gyntaf ar Ward yr Ynys yn Arch Noa, Ysbyty Plant Cymru. Roedd ei rieni Hayley a Mark yn meddwl fod hwn yn lle ardderchog ond, fel unrhyw rieni eraill, roedden nhw’n mawr obeithio na fyddai Theo yno’n hir. Ond roedd gan Mark a Hayley fwy o reswm na’r rhan fwyaf o fod eisiau dod â’u babi adref. Oherwydd, er ei fod yn fwy na hanner blwydd oed, hyd at yn ddiweddar iawn doedd e erioed wedi bod yno o’r blaen.


Mae Theo’n gwneud yn dda iawn nawr ond fe fu adegau er pan anwyd e nôl ym mis Mawrth, pan oedd Hayley a Mark yn wynebu’r posibilrwydd gwirioneddol na fydden nhw byth yn gadael uned gofal dwys yr ysbyty gyda’u babi.


Ar 20 Mehefin yr oedd Theo i fod i gael ei eni, felly pan ddihunodd Hayley gyda phoenau ar fore o eira ym Mawrth, wnaeth hi ddim hyd yn oed ystyried y gallai fod yn esgor. Ar ôl dim ond 26 wythnos o feichiogrwydd, mae Hayley’n cyfaddef na wyddai ei bod yn bosib cael babi mor gynnar â hynny.


Ar ôl ychydig oriau, doedd y boen ddim yn diflannu, a gan eu bod nhw fel pe’n mynd a dod yn rheolaidd fel cyfangiadau, penderfynodd Hayley a Mark fynd i gael profion yn yr ysbyty. Gwyddai Hayley fod rhywbeth o’i le, ond wnaeth neb o’r tîm meddygol grybwyll y posibilrwydd y gallai hi fod yn esgor, a sicrhawyd Hayley mai’r tebygrwydd oedd mai poenau beichiogrwydd arferol oedd y rhain ac y byddai, mwy na thebyg, yn gallu mynd adref yn gynnar gyda’r nos. Am 5:15 y noson honno, a hithau’n dal ar y ward, teimlodd Hayley y mae’n ei ddisgrifio fel ffrwydrad enfawr wrth i’w dŵr dorri. Rhoddodd staff y ward chwistrelliad i Hayley o’r steroids sy’n cael eu rhoi fel arfer i fenyw mewn beichiogrwydd cynamserol i ddiogelu ysgyfaint ac ymennydd babi, ond roedd hi’n rhy hwyr. Ganwyd Theo 20 munud yn ddiweddarach, fwy na 13 wythnos yn gynnar a phwysau’r un bach yn ddim ond 880g.


Dywed Hayley: “Roeddwn i mewn sioc yn llwyr am yr ychydig funudau hynny ac yn hollol argyhoeddedig na fyddai Theo’n fyw. Doeddwn i ddim wedi bod yn feichiog yn ddigon hir i fynd i ddosbarthiadau na dysgu rhyw lawer am roi genedigaeth a beth i’w ddisgwyl ar ôl cael babi a doedd dim digon o amser wedi bod i neb o’r tim newydd-anedig ddod i siarad gyda ni. Yr unig ganllaw oedd gen i oedd penodau o’r rhaglen One Born Every Minute roeddwn i wedi eu gwylio, ac o hynny roeddwn i’n gwybod fod babanod fel arfer yn llefain pan maen nhw’n dod allan. Pan roddodd e gri fach daeth hynny â gobaith i mi. Dim ond ychydig welais i arno cyn iddyn nhw fynd ag bant, ac rwy’n cofio teimlo braw wrth feddwl beth oedd o’i flaen e. Roedd meddwl amdano mewn poen ac anghysur ac i ffwrdd oddi wrthym ni yn ofnadwy.”


“Fe gawson ni fynd i weld Theo ar y ward newydd enedigol ychydig oriau’n ddiweddarach ac ef fy mod i’n dal mewn sioc a thrallod ynglŷn â’r sefyllfa, rwy’n cofio meddwl wrth i ni gerdded i mewn mor anhygoel oedd y lle. Doedd gen i ddim syniad fod y lle hwn yn bodoli ac allwn i ddim credu ei fod mor fawr a modern, a bod y dechnoleg a staff rhyfeddol i gyd yno i gadw’r babanod truan hyn yn fyw. Doeddwn i ddim yn meddwl fod gan fabanod a anwyd mor gynnar â hynny unrhyw obaith.


Rwy’n cofio meddwl fod Theo’n edrych fwy fel ffetws na babi pan welais e gyntaf. Roedd ei groen yn goch ac roedd e tua’r un hyd â blaen fy mraich. Roedd ei lygaid yn dal heb agor. Siaradodd y nyrs wrthym ni am yr holl linellau oedd yn mynd i mewn iddo ac yn ei fonitro. Ar y pwynt hwnnw doedd neb wedi rhoi unrhyw wybodaeth i ni am ei siawns o oroesi, ac felly fe gydion ni yn y gobaith y gallai ddod drwyddi. Dywedodd y nyrs ei fod e’n un o’r babanod cyntaf i ddefnyddio deoryddion newydd sbon o’r enw Baby Leo ac y gallen ni ddewis lliw y goleuadau tu mewn os oedden ni’n dymuno. Rwy’n gwybod fod hyn yn swnio’n dwp, ond fel y digwyddodd hi, rhywbeth mor fach â newid lliw’r goleuadau a chael ei enw fe ar y sgrin oedd agosaf i ni ddod at ddewis dillad iddo fe am amser hir iawn".


Dywedwyd wrth Hayley a Mark fod cyflwr Theo’n sefydlog ac am iddyn nhw i gael rhywfaint o orffwys. Mae Hayley’n cofio’r ddau yn llefain gyda’i gilydd trwy’r nos wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa wawrio arnyn nhw. Mae’n dweud: “Roeddwn i’n teimlo mor euog, yn dal i feddwl mai fy mai i oedd hyn a rhaid ’mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le. Roeddwn i’n dal i ymddiheuro i Mark nad oeddwn wedi gallu cadw Theo’n ddiogel yn lle y dylai fod. Ro’n i’n teimlo mod i wedi gadael y ddau i lawr.”


Arhosodd cyflwr Theo’n sefydlog am ychydig ddyddiau a dechreuodd agor ei lygaid a symud ychydig mwy. Ar y pedwerydd diwrnod penderfynodd y tîm meddygol brofi Theo ar gymorth anadlu ychydig yn llai mewnlifol o’r enw BiPAP. Ond ar ôl ychydig oriau’n unig dechreuodd fynd i drafferth a rhoddwyd e’n ôl ar y gwyntiedydd. Ar yr un diwrnod rhoddwyd y newydd brawychus i Hayley a Mark fod gwaedlif oedd ar ymennydd Theo, oedd wedi ei ddosbarthu’n wreiddiol fel un risg isel, mewn gwirionedd yn un lefel pedwar - y radd gwaedlif mwyaf llym. Wedyn fe gawson nhw’r newyddion enbyd os byddai Theo’n goroesi ei bod hi’n hynod debygol y byddai’n datblygu rhyw ffurf o anabledd. Dros yr wythnosau fe fydden nhw’n monitro’r gwaedu yn ofalus i weld a oedd yn achosi unrhyw chwyddo a fyddai angen llawdriniaeth ymennydd ar unwaith.


Ond wrth i’r oriau fynd heibio, ysgyfaint Theo oedd achos y pryder mwyaf. Cynyddodd dibyniaeth Theo ar ocsigen mor gyflym na allai hyd yn oed y gwyntiedydd ddiwallu ei anghenion. Yr unig ddewis oedd trosglwyddo Theo i osgiliadur - math o gymorth anadlu amledd uchel sy’n cadw’r ysgyfaint yn agored trwy’r adeg. Ond er iddo dderbyn 100% o ocsigen, roedd y lefelau yn ei waed yn brwydro i aros ar 90.


Dywed Hayley: “Mae’r osgiliadur yn frawychus. Mae’n gwneud sŵn erchyll ac oherwydd bod rhaid i chi fod wedi’ch parlysu’n llwyr cyn mynd arno, roedd Theo’n edrych yn annaturiol o lonydd. Dywedodd y meddygon wrthyn ni ei bod nhw’n pryderu’n arw ac oherwydd nad oedd Theo’n gwella gyda hyd yn oed y lefel uchaf bosib o gymorth, yr unig ddewis ar ôl oedd rhoi cynnig ar steroids. Mae’r rhan fwyaf o fabanod sy’n cael eu geni’n gynnar yn cael y cyfle gorau o oroesi trwy roi steroids a chyffuriau eraill iddyn nhw cyn eu geni, yn helpu’r ffetws i aeddfedu, ond chafodd Theo ddim un o’r rhain mewn pryd. Esboniodd y tîm ôl-enedigol fod Theo’n cael trafferth oherwydd na chafodd y cyffuriau mewn pryd. Roedd hyn yn rhwystredig iawn i ni ac roedden ni mor ddiolchgar i’r tîm ôl-enedigol am roi cynnig ar bopeth allen nhw mewn sefyllfa anodd iawn. Rydyn ni’n dragwyddol ddiolchgar am y gofal rhyfeddol roddon nhw i Theo a ni pan oedd e’n aros yn yr uned..”


Trwy drugaredd dechreuodd y cwrs newydd o steroids weithio a thros yr wythnos nesaf symudodd Theo yn ôl ar y gwyntiedydd ac wedyn yn ôl ar y BiPaP.


Ar yr 16eg diwrnod gadawyd i Hayley ddal ei mab am y tro cyntaf un a chafodd Mark ei gwtsh cyntaf y diwrnod wedyn. Roedden nhw wedi cyffroi cymaint ac yn gobeithio efallai bod pethau wedi troi’r gornel. Ond byrhoedlog oedd y gobaith. Pan oedd Mark o hyd yn ei ddal canodd larymau Theo a phlymiodd ei lefelau.


Dywedodd Mark: “Mae peidiwch â phanicio os na fyddwn ni’n panicio yn ymadrodd cyffredin sy’n cael ei glywed ar yr uned gofal dwys ac fel arfer mae’n cysuro rhywun ond y tro hwn fe aethon ni i gyd i banig. Roedd y tîm argyfwng cyfan yno o fewn eiliadau i roi tiwbiau yn Theo a’i roi yn ôl ar y gwyntiedydd eto. Roedd yn amlwg mor ofidus oedd nyrs Theo wedi bod. Dywedodd fod ei gorff bach wedi rhoi popeth yn yr ychydig eiliadau hynny i aros yn fyw.”


Dros yr ychydig oriau nesaf, er gwaetha’r gwyntiedydd a’r steroids, parhaodd cyflwr Theo i ddirywio. Yr unig ddewis ar ôl oedd steroid cryfach, ond rodd hynny’n creu risg o fwy o ddifrod i’r ymennydd.


Dywed Mark: “Yn y bôn roedden nhw’n rhoi dau ddewis i ni - risg uchel o anabledd tymor hir, neu farwolaeth. I ni, y cyfan oedden ni eisiau oedd i’n mab fod yn fyw; fe allen ni ddelio ag unrhyw beth arall. Roedd e’n dangos cymaint o ysbryd ac yn benderfynol o fod yma fel bod rhaid i ni gefnogi’r tîm newyddenedigol oedd yn gwneud popeth allen nhw. Os nad oedd e am ildio, doedden ni ddim chwaith.”


Dechreuodd Theo ar ei gwrs steroids newydd yn fuan wedyn ond erbyn hyn roedd wedi cael ei roi yn ôl ar yr osgiladur ar 100% ocsigen. Er hyn roedd y lefelau yn ei waed yn dal yn beryglus o isel. Ar y pwynt hwn dywedwyd wrth Hayley a Mark nad oedd dim him byd arall y gellid ei wneud i Theo heblaw gweddïo.


Dywed Hayley: “Roedd y noson honno’n erchyll. Roedden ni’n ddarnau. Fe eisteddon ni am oriau yn gwylio’r monitor yn bipio, yn ewyllysio i’r lefelau ocsigen yn ei waed godi, ond wnaeth e ddim codi unwaith uwchben 89%. Yn yr oriau mân fe berswadiodd y cofrestrydd ni i gael rhywfaint o orffwys yn yr ystafell ochr yn yr uned. Roedd y cofrestrydd yn fendigedig ac fe wydden ni bod Theo’n cael y gofal gorau bosib. Arhosodd Mark wrth ochr ei wely tra’r oeddwn innau’n mynd am dipyn o orffwys. Rwy’n cofio Mark yn dod yn ôl i’r ystafell yn yr oriau mân ac roedd yn gas gen i feddwl beth oedd e’n mynd i’w ddweud, ond diolch byth roedd ganddo newydd da, roedd Theo’n dechrau sefydlogi ac roedd yn edrych yn debyg fod y steroids yn dechrau cael effaith mewn pryd o drwch blewyn. Roedd e’n gymaint o ryddhad i ni, ond mae sylweddoli mor agos at farwolaeth oedd e yn hunllef i ni byth wedyn.”


Ond er gwaetha’r cynnydd oedd Theo wedi ei wneud, roedd e’n bell o fod allan o berygl. Methu wnaeth pobl ymgais i leihau ei ddos o steroids ac er iddo symud ymlaen at Bipap, y cymorth anadlu llai mewnwthiol, roedd yn parhau mewn gofal dwys ar ol 13 wythnos ac yn dal yn yr un safle gwely o’r dechrau un. Byddai’r rhan fwyaf o fabanod cynamserol wedi ennill tir a gadael gofal dwys erbyn hyn. Rhybuddiwyd Hayley a Mark hefyd os na fyddai ysgyfaint Theo’n tyfu, o fewn ychydig fisoedd fyddai dim mwy y gellid ei wneud iddo.


Dywed Hayley: “Roedden nhw’n dal i ddweud wrthyn ni mai ‘dim angen tyfu sydd arno’, ond roedd yn datblygu’n hardd, yn ymdopi’n dda iawn â llaeth y fron. Yr hyn oedd yn rhwystredig oedd, er ei fod i’w weld yn tyfu’n gryfach o’r tu allan, fe wydden ni nad oedd ei ysgyfaint yn dal i fyny ac roedd e’n dal yn wan iawn.”


Ychydig cyn y dyddiad pan oedd e i fod i gael ei eni, bu rhaid i Theo gael llawdriniaeth i gywiro cyflwr o’r enw ROP ('Retinopathy of Prematurity') sy’n gallu achosi dallineb mewn babanod wedi eu geni’n gynnar iawn. Er bod Theo wedi datblygu’r ffurf fwyaf llym o’r cyflwr roedd modd ei gywiro’n llwyr trwy lawdriniaeth syml. Mae Hayley’n cofio teimlad mor rhyfedd oedd gwybod y gellid datrys un broblem yn gymharol hawdd ond o ran ysgyfaint Theo, doedd dim mwy y gellid ei wneud.


Yn raddol iawn, fodd bynnag, parhaodd Theo i wella, ac ar ol mynd yn ol ar y gwyntiedydd am gyfnod byr wedi’r driniaeth i’w lygad symudodd yn sydyn trwy’r camau anadlu at CPAP heb fwy o anawsterau mawr. Ar ol bod ar y steroid cryfaf am gyfnod hirach nag a fyddai’n cael ei gynghori fel arfer, swm a ddaeth i gael ei alw fel “dos Theo” gan i tîm meddygol, symudwyd ef i steroid arall a pharhaodd i wneud yn dda. Ar y dyddiad pan oedd i fod i gael ei eni symudodd Theo o’r diwedd i’r Llif Uchel.


Dywed Mark “Roedd Theo’n cryfhau ac yn fwy ymwybodol erbyn hyn ac roedd yn casáu cael y masg CPAP a phrongiau ar ei wyneb. Roedd wastad yn ceisio’u tynnu i ffwrdd a ninnau’n eistedd yno trwy’r dydd yn eu rhoi nhw’n ôl ar ei wyneb fel y gallai gael yr ocsigen oedd mor gwbl hanfodol iddo. Fe gyrhaeddwyd y pwynt lle’r oedd e’n ddigon agos at sefydlogrwydd iddyn nhw ei drio ar y Llif Uchel, sef pibell yn ei drwyn, a fyddai’n llawer mwy cysurus iddo. Gofynnais i’r tim allen nhw roi treial iddo ar y Llif Uchel, ac fe gytunon nhw i wneud hynny ar ei ‘ddyddiad geni’, a phan gafodd ei osod roedd e'n fwy cysurus yn syth. Roedden nmi mor gyffrous wrth weld mwy o’i wyneb a dechrau ei weld yn gwneud cynnydd”.


Ar ol mwy na 100 diwrnod o ofal dwys, graddiodd Theo i’r uned dibyniaeth uchel, achlysur enfawr i’w fam a’i dad. Fis yn ddiweddarach daeth pen sydyn ar eu llawenydd pan ddaeth galwad o’r uned yn dweud wrthyn nhw am fynd i’r ysbyty ar unwaith i siarad gyda llawfeddyg. Yno fe ddywedwyd wrth Hayley a Mark fod archwiliad ar lymder ei adlifiad wedi datgelu mater gwahanol ac anghysylltiedig. Roedd gan Theo broblem gyda’i goluddion, nad oedd a wnelo ddim â’i eni cynamserol, ond a allai fod yn angheuol. Rhuthrwyd ef i gael llawdriniaeth yn syth ar gyfer amheuaeth o gamdro.


Dywedodd Hayley: “Fedrwn i ddim credu’r hyn oedd y llawfeddyg yn ei ddweud wrthyn ni. Doedd gan Theo ddim symptomau o gwbl sy’n anarferol. Roeddwn i mor drist fodTheo wedi gorfod mynd trwy hyn i gyd. Fe gawson ni ychydig funudau gyda Theo cyn iddyn nhw fynd ag e i lawr ac roeddwn i’n teimlo’i fod yn edrych arnon ni fel petai’n gwybod. Roedd yn dorcalonnus i ni. Diolch byth, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ond wedyn roedd rhaid i ni fynd yn ol i’r uned gofal dwys. Roedd Theo wedi bod mor agos at farwolaeth gymaint o weithiau pan oedden ni yn y rhan honno o’r uned ond roedden ni wedi cau hyn allan o’n meddyliau er mwyn symud ymlaen. Roedd mynd yn ôl yno fel straen wedi trawma, clywed holl synau'r peiriannau, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn delio â hyn. Roedden i yno am wythnos arall tra’r oedd Theo'n gwella o’i lawdriniaeth a thrwy’r adeg roeddwn i’n teimlo’n sâl a phryderus”


“Yr holl adeg pan oedd yn NICU roedden ni bob amser yn ceisio aros yn gadarnhaol ac aros yn gryf er mwyn Theo, ond roedd yna adegau, fel yr achlysur hwn, pan fyddai wedi bod yn help petai rhyw gymorth emosiynol ‘w gael ar yr uned. Roedd gwasanaeth cwnsela ar gael ond byddai rhaid i mi fod wedi teithio ar draws Caerdydd i’w ddefnyddio a doeddwn i ddim yn hoffi gadael erchwyn gwely Theo mor hir â hynny. Dyna pam rwy’n meddwl fod y gwasanaeth cymorth emosiynol newydd sy’n cael ei ariannu gan Bywydau Bach yn syniad mor wych - gwn y bydd yn helpu cannoedd o deuluoedd.”


Fel y digwyddodd pethau, roedd y llawdriniaeth ar goluddion Theo yn fwy o lwyddiant nag y gallai neb fod wedi gobeithio oherwydd ar ôl hynny, heb unrhyw reswm amlwg, daeth ei anadlu yn fwy rhwydd hefyd. Lle unwaith roedd Theo wedi bod angen 100% ocsigen, nawr doedd e ond angen tua 35% oedd yn golygu fod ei ysgyfaint yn gweithio’n llawer mwy effeithlon ar eu pennau eu hunain.


Ac yntau bellach bron yn chwe mis oed, ac yn cael ei adnabod yn annwyl fel Tad-cu yr uned newyddenedigol , roedd Theo wedi gordyfu’r uned honno a chafodd ei symud i ward yr Ynys yn ysbyty’r plant lle y synnodd bawb trwy raddio’n sydyn i’r llif isaf o gymorth anadlu. Dyma’r newyddion gorau bosib i Hayley a Mark gan ei fod yn golygu bod ysgyfaint Theo’n tyfu a datblygu - y darn hanfodol o newyddion maen nhw wedi bod yn dyheu am ei glywed. Mae gan Theo afiechyd ysgyfaint cronig ond ymhen amser, wrth iddo barhau i dyfu, bydd ei ysgyfaint yn cryfhau a bydd angen llai o gymorth ocsigen arno.


Ar 20 Medi, ychydig dros 6 mis ar ol i Hayley a Mark gyrraedd yr ysbyty ar gyfer prawf, o’r diwedd fe gawson nhw fynd â’u babi adref o’r diwedd. Dywed Hayley na all hi fynegi mewn geiriau mor hyfryd oedd gwneud pethau teuluol cyffredin fel mynd am dro a chael cwtsh ar y soffa. .


Fodd bynnag, wedi dim ond 9 diwrnod gartref, trodd cyfog Theo yn lliw tywyll melynwyrdd a gwyddai Hayley a Mark nad oedd hynny’n arwydd da. Rhuthrwyd e’n syth i’r ysbyty lle canfuwyd ei goludd wedi blocio o ganlyniad i feinwe craith ar ôl ei lawdriniaeth flaenorol.


Dywed Hayley: “Roedd bod yn ôl yn yr ysbyty yn ddirdynnol, roedd yn teimlo mor annheg fod ffawd yn rhoi cymaint o rwystrau i Theo mewn bywyd. Y cyfan oedden ni eisiau oedd bod gartre fel teulu ac yntau’n cael ei amddiffyn. Roedden ni’n pryderu cymaint am ei lawdriniaeth gan ein bod yn gwybod y gallai Theo gymryd amser hir i wella ac y byddai angen iddo fynd yn ôl ar y gwyntiedydd. Roedden ni’n pryderu y gallai ei chael yn anodd dod oddi arno, fel oedd wedi digwydd o’r blaen. Roedden ni hefyd yn arswydo wrth feddwl am Theo yn yr ysbyty’r adeg hon o’r flwyddyn oherwydd y risg y gallai ddal annwyd neu ffliw a allai fygwth ei fywyd.”


Roedd y llawdriniaeth i gywiro’r blociad yn llwyddiant ac aed â Theo i PICU ar y gwyntiedydd i wella. Dywedwyd wrth Hayley a Mark ei fod yn sefydlog ac y bydden nhw’n gallu ei gael oddi ar y gwyntiedydd. Fodd bynnag fe ddirywiodd Theo yn sydyn am ddim rheswm amlwg, ac roedd angen lefelau cynyddol o ocsigen a chymorth anadlu. Am ei fod wedi bod ar gymaint o ffurfiau o dawelyddion a phoenladdwyr trwy gydol ei fywyd byr, roedd wedi magu goddefgarwch tuag atynt, a olygai fod rhaid i’r tim ei dawelu’n drwm a’i barlysu ddim ond i sicrhau na fyddai’n symud a gweithio yn erbyn y gwyntiedydd.


Dywed Hayley “Roedd yn gymaint o ryddhad i ni fod y llawdriniaeth wedi mynd yn dda ac yn falch o wybod y gallen ni fod yn mynd adref ymhen ychydig ddyddiau. Ac yna, ddim ond 12 awr yn ddiweddarach, dyma nhw’n dweud wrthyn ni fod ei gorff yn adweithio’n wael iawn i rywbeth ac nad oedden nhw’n deall pam fod ei ysgyfaint angen cymaint o gefnogaeth”.


Ddeuddydd ar ol y llawdriniaeth, am 3.30yb, derbyniodd Hayley a Mark alwad ffôn na fyddai neb byth yn dymuno’i chael. Dywedwyd wrthyn nhw am ddod i PICU ar unwaith.


Dywed Hayley “Dyma ni’n rhedeg. Wydden ni ddim beth oedd wedi digwydd ond rydyn ni’n gwybod trwy brofiad nad yw galwad fel hyn byth yn dda. Roeddwn i’n llefain yn hysteraidd, yn rhedeg, ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydden ni’n cyrraedd yno. Pan gyrhaeddon ni fe welsom tua 20 o bobl o gwmpas gwely Theo yn perfformio CPR. Dyna’r peth mwyaf erchyll welais i yn fy mywyd a bydd yn hunllef i mi weddill fy oes, gweld fy mabi yn wyn a difywyd gan wybod efallai na fyddai’n dod ato’i hun. Dywedodd meddyg wrthym eu bod eisoes wedi bod yn gwneud hyn am 15 munud heb lwyddiant. Ymbiliais arnyn nhw i drio popeth ac ar i Theo ddod yn ôl.”


Wedi 25 munud dechreuodd calon Theo guro eto, ond roedd mewn cyflwr difrifol iawn. Dywedwyd wrth Hayley a Mark fod Theo wedi cael CPR am amser hir iawn a olygai y gallai ei ymennydd fod wedi ei llwgu o ocsigen a bod yna siawns gref iawn y byddai ei ymennydd yn farw. Am ddyddiau, parlyswyd Theo tra’r oedd y tîm yn ceisio’i gadw’n sefydlog a doedd Hayley a Mark ddim yn gwybod a fyddai yntau’n byw trwy hyn.


Dywed Mark “Roedd rhaid i ni eistedd wrth ei ochr heb wybod a oedd e’r un bachgen â’r un oedden ni wedi dod ag e i’r ysbyty, neu a oedd e’n fyw o gwbl. Bob diwrnod fe fydden nhw’n diffodd y parlysu am ychydig oriau i weld a fyddai’n symud ac ymateb. Y tro cyntaf iddyn nhw’i ddiffodd fe gusanais i ei glust ac fe symudodd ei ben draw oddi wrthyf, fel mae’n gwneud bob amser, a rhoddodd hynny gymaint o obaith i mi fe wyddwn wedyn ei fod e’n gwybod ein bod hi yno.”


Ddiwrnod wrth ddiwrnod, gwnaeth Theo welliant gwyrthiol ac ymhen 10 diwrnod yn unig roedd yn ôl ar y llif isel, yn effro, yn gwenu, chwerthin ac yn fe’i hun unwaith eto. Cymerodd bythefnos arall i’w ddyfnu’n llwyddiannus oddi ar ei holl dawelyddion ac o’r diwedd gallodd Hayley a Mark fynd â’u mab adref unwaith eto, ble mae’n dal i ffynnu.


Dywed Hayley “Allwn ni ddim credu ei fod yn dal yn fyw ac rydyn ni’n teimlo mor ffodus ei fod wedi cael yr ail gyfle hwn mewn bywyd. Mae ganddo broblemau o hyd gyda chyfogi a bwydo ac rydyn ni’n gwybod fod ffordd bell o’n blaenau gyda’i ddatblygiad, ond rydyn ni mor ddiolchgar ei fod yn dal gyda ni. Mae’n fachgen mor gryf ac yn gwneud yn wych o gofio’i ddechrau mewn bywyd. Mae e wastad yn ein synnu ni a’r tim meddygol. Waeth beth sy’n cael ei daflu ato, mae’n dod drwyddi a wn i ddim sut mae’n ei wneud e. Rydyn ni wedi treulio mwy na 7 mis yn yr ysbyty eleni sydd wedi bod yn anodd iawn i ni ond rydyn ni'n canfod nerth ohono fe ac mor falch o fod gartre”.


Apêl Bywydau Bach


Yn ystod ei amser ar yr uned newyddenedigol, elwodd Theo ar nifer o ddarnau o offer a ariannwyd gan yr Apêl Bywydau Bach. Roedd yn un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio Baby Leo, deorydd o’r radd flaenaf sy’n cael ei gadw ar gyfer y babanod mwyaf difrifol wael. Mae gan y deorydd ystod o nodweddion gan gynnwys cloriannau pwyso mewnol, system wresogi arbennig sy’n cadw tymheredd trwy’r adeg a mecanwaith sy’n caniatáu i wely’r babi gael ei dynnu allan fel y gall rhieni fod yn agos at eu babanod heb iddyn nhw orfod cael eu symud.


Dywed Hayley: “Roedd Theo mor wael ar adegau fel na allai neb, hyd yn oed y tim meddygol, ei symud os nad oedd hynny’n gwbl hanfodol. Doedd mynd ag e i gael ei bwyso ar yr adegau tyngedfennol ddim yn ddewis delfrydol i fabi cynamserol fe e, oherwydd bod eu bwyd, ac yn bwysicach eu meddygaeth, yn cael eu mesur yn ôl eu hunion bwysau. Heb y glorian fewnol byddai wedi bod gymaint anoddach cael popeth yn fanwl gywir.


Roedden ni hefyd yn gallu personoli’r deorydd gyda’i sgrin ddigidol a dewis y lliwiau tu mewn i’r deorydd ar ei gyfer. Dwi’n gwybod nad yw hyn yn swnio’n beth mawr ond dyna'r agosaf ddaethon ni at ddewis dillad iddo am amser hir iawn.”


Mae babanod fel Theo yn gorfod cael profion pelydr-X di-rif i brofi eu prif organau ond yn amlach na hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod y llinell neu diwb sy’n cario ocsigen, meddygaeth neu fwyd wedi eu rhoi i mewn yn iawn i’r gwythiennau bychan a llwybrau anadlu. Mae peiriant pelydr-X newydd yr uned, a ariannwyd gan Sefydliad Morrisons fel rhan o’r Apêl Bywydau Bach yn caniatáu i ddelweddau pelydr-X gael eu cymryd heb symud y babi ac yn rhoi canlyniadau’n ddigidol yn syth bin lle gynt gallai delwedd gymryd hyd at 20 munud i’w phrosesu. I fabanod enbyd o wael po pob eiliad yn hanfodol.


Dywed Hayley: “Allaf i ddim hyd yn oed cofio sawl gwaith y cafodd Theo belydr-X ar yr uned. Bu rhaid i’r tim meddygol symud neu newid y tiwbiau yn aml a phob tro’r oedden nhw’n gwneud hynny roedd angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn union y lle iawn. Bob tro’r oedd Theo cael ei symud roedd ei anghenion ocsigen yn mynd trwy’r to, felly pe bydden nhw wedi gorfod ei symud bob tro roedd e angen Pelydr-X byddai pethau wedi bod yn llawer anoddach. Roedd yna adegau pan oedd rhaid rhoi tiwb i mewn ynddo ac yntau o fewn eiliadau i farwolaeth. Mae’r canlyniadau o’r pelydr-X yn ymddangos yn syth bin a mwy na thebyg wedi arbed ei fywyd fwy nag unwaith.”


Byd y tim yn CHC yn casglu arian ar gyfer Arch Noa dros y flwyddyn nesaf. I gael gwybodaeth am sut gallwh chi gymryd rhan anfonwch e-bost at Clarissa ar Clarissa-Corbisiero-Peters@chcymru.org.uk


Diolch


[gallery ids="http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-11-2.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-11.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-12-2.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-12-3.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-12-4.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-12-5.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-12.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-31-13.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-34-05-2.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-34-05.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-34-06-2.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/PHOTO-2018-11-13-16-34-06.jpg|"]