Clarissa Corbisiero: Beth yw ein gobeithion ar gyfer COP?
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae Clarissa Corbisiero, ein Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus ac Allanol / Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi ein gobeithion am y ddwy wythnos nesaf.
Dywedodd John Kerry, enfoi hinsawdd yr Unol Daleithiau, mai uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow yr wythnos nesaf yw’r "gobaith gorau olaf i’r byd gael trefn ar bethau”. Felly sut olwg sydd ar ‘cael trefn ar bethau’ gyda’n gilydd a beth mae’n ei olygu i Gymru a’r sector tai yng Nghymru?
Yn gyntaf, mae’n golygu cael cynllun gweithredu clir. Er fod llawer o bethau anhysbys a fedrai wneud iddi deimlo fod gormod o risg mewn gweithredu, nid yw gwneud dim yn opsiwn. Mae Llywodraeth Cymru newydd gyflwyno ei gweledigaeth drwy ei Chynllun Sero Net. Mae’n dangos sut mae tai yn ganolog i’w huchelgais am ddatgarboneiddio ac edrychwn ymlaen at gyllideb Llywodraeth Cymru lle gobeithiwn y caiff cyllid ei roi yn ei le i sicrhau fod gweledigaeth yn dod yn realaeth.
Yn ail, mae’n rhaid i’r cynllun fod yn addas i drin y realaeth heriol sy’n ein hwynebu. Ni wnaiff chwarae o amgylch yr ymylon y tro pan ystyriwch fod gan Gymru rai o’r stoc tai hynaf a lleiaf thermol effeithiol ym Mhrydain ac Ewrop. Cafodd traean cartrefi Cymru eu codi cyn 1919 ac mae cartrefi yng Nghymru yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir a 15% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr ochr alw. Er gwelliannau mawr, mae 155,000 o aelwydydd yn dal i wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru.
Yn drydydd, mae rhaid i gael trefn ar bethau olygu fod y cynllun wedi ei seilio mewn realaeth ac yn ymarferol. Mae hynny’n golygu cynllun clir, amserlenni ac ymrwymiadau cyllido hirdymor i fynd gyda hynny. Gwyddom y bydd angen buddsoddiad sylweddol ar gyfer datgarboneiddio tai cymdeithasol yng Nghymru, rhwng tua £4-5bn. Fodd bynnag, mae hyn yn fuddsoddiad mewn swyddi, iechyd a’r pwrs cyhoeddus ynghyd â’r effaith ar ein hinsawdd. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl effaith ar fuddsoddiad wrth osod ei chyllideb yn awr a thros y tymor hirach. Rydym angen cyllid hirdymor a chyllid ar ei gyfer os ydym i lwyddo gyda’n gilydd.
Mae cael trefn ar bethau’n golygu fod yn rhaid i ni beidio’r cyfle i ddefnyddio’r buddsoddiad hwn i gefnogi ein pobl a lleoedd drwy greu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddiant. Mae modelu’r CITB yn awgrymu y bydd angen 12,000 o weithwyr cyfwerth ag amser-llawn yng Nghymru erbyn 2028. Mae angen y gweithwyr hyn yn bennaf i sicrhau gwelliannau i adeiladau presennol i ostwng y galw am ynni, gan gynrychioli cynnydd o tua 11% ar faint presennol y gweithlu yng Nghymru. Mae hyn yn amlwg yn ymrwymiad enfawr ond mae’n hanfodol os ydym i gyflawni yr uchelgais a rannwn i ddatgarboneiddio tai Cymru. Mae cymdeithasau yn chwarae eu rhan drwy wario’n lleol i gefnogi busnesau bach a chanolig a chreu cyflogaeth ansawdd da yn lleol. Mae cymdeithasau tai eisoes yn buddsoddi 85c ym mhob punt yng Nghymru ac maent eisiau i hynny gynyddu i 90c ym mhob punt erbyn tymor hwn y Senedd. Bydd gan ddatgarboneiddio cartrefi presennol ran fawr wrth gynyddu’r gyfran honno o wariant lleol, os cawn bethau’n iawn.
Mae cymdeithasau tai eisoes yn adeiladu ar eu gwybodaeth a chysylltiadau i gychwyn arni: mae 26 o ddarparwyr tai cymdeithasol yn cymryd rhan yn Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru lle caiff mwy na 1,700 o gartrefi ledled Cymru eu gwneud yn fwy effeithiol o ran ynni. Mae’r rhaglen Braenaru yn defnyddio cyfuniad o welliannau ffabrig adeiladu, technolegau carbon isel a dim carbon a mesurau rheoli gweithredol deallus, i gynllunio sut i fynd â phob cartref i’w ôl-troed carbon isaf y gall ei gyflawni.
Ond bydd yn anodd cyflawni hyn i gyd os nad yw tenantiaid yn cymryd rhan o’r cychwyn cyntaf. Mae gwaith gan Gynulliad Newid Hinsawdd Blaenau Gwent yn dangos beth fedrir ei wneud. Ffurfiwyd y Cynulliad o bobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent a gwnaeth argymhellion i helpu llunio cynlluniau datgarboneiddio o lefel y gymuned hyd at gymdeithasau tai, busnes, llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol. Un argymhelliad o’r fath oedd ‘Sicrhau fod pob cartref newydd a godir yn cael eu hadeiladu yn defnyddio’r technolegau cynaliadwy diweddaraf, yn cyflogi adeiladwyr lleol ac yn darparu amrywiaeth o fathau llety addas ar gyfer pawb yn cynnwys y digartref/defnydd sengl hyd at deuluoedd mawr’. Syniadau fel hyn, sy’n tarddu yn lleol gyda chefnogaeth leol, sydd â’r cyfle gorau o wrthsefyll prawf amser.
Felly gyda hyn i gyd beth yw fy nymuniad ar gyfer COP26 a thu hwnt?
Wel, mae’n syml: gweledigaeth glir ac un y gellir ei gwireddu a gefnogir gan gynllun realistig i’w gweithredu. Er fod cymdeithasau tai yn barod am yr her ac eisoes yn dangos yr hyn y gallant ei wneud i ostwng carbon ar draws eu busnesau, maen nhw – fel gweddill y byd – yn edrych ar arweinwyr y byd i gymryd camau gweithredu penderfynol yr wythnos nesaf.