Chwe mis o gytundeb hanesyddol i Gymru
Ychydig dros chwe mis yn ôl llofnododd y Blaid Lafur, sy’n arwain Llywodraeth Cymru, gytundeb cydweithredu hanesyddol tair blynedd gyda Phlaid Cymru. Roedd y cytundeb hwn yn edrych ychydig yn wahanol i gytundebau arferol llywodraethau gyda gwrthbleidiau ac er ei bod yn amlwg iawn nad oedd yn glymblaid, roedd yn ddatganiad uchelgeisiol iawn o werthoedd a bwriadau a gaiff eu rhannu.
I grynhoi, mae’r cytundeb yn gwneud ymrwymiadau penodol mewn 43 maes polisi gwahanol rhai ohonynt o ddiddordeb neilltuol i gymdeithasau tai. Maent yn cynnwys:
- ● Papur Gwyn ar yr hawl i gartrefi digonol a system o renti teg (rheoli rhent) yn y farchnad rhent preifat;
- ● symud ymlaen gydag argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd;
- ● creu cwmni adeiladu cenedlaethol ‘Unnos’ i gynyddu cyflymder a maint datblygu tai cymdeithasol;
- ● dod ag arbenigwyr ynghyd i gefnogi datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol;
- ● rhoi cap ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau;
- ● gweithredu diwygiadau diogelwch adeiladau; a
- ● dechrau gweithredu safonau’r Gymraeg o fewn cymdeithasau tai
Ers cyhoeddi’r cytundeb, rydym wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae’r sgyrsiau hyn wedi dangos ymdeimlad clir o ddiben ac uchelgais a gaiff eu rhannu.
Mae Unnos a’r hawl i gartrefi digonol yn ddau faes o ddiddordeb i’w hystyried ar y cam hwn.
Unnos
Mae Stuart Ropke, ein Prif Weithredwr, yn gobeithio y gall Unnos roi newid sylfaenol hanfodol: “Mae’n dda gweld bod Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd yn deall yr heriau sy’n wynebu’r sector wrth i ni chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng tai a hefyd yr argyfwng hinsawdd.
“Os yw Unnos i lwyddo, mae angen i ni roi’r grym a’r ysgogiad iddo fod yn drawsnewidiol.”
Bu CHC yn gweithio gyda’r sector i ddechrau adeiladu llais ar y cyd o sut y gallai corff hyd braich fel Unnos edrych. Rydym wedi trafod yr adnoddau a’r egni strategol fyddai eu hangen i’w gwneud yn haws adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, carbon isel yn gyflym mewn ffordd sy’n gyfrifol i’r amgylchedd ac yn creu lleoedd gwych i fyw ynddynt ar gyfer cymunedau ledled Cymru. Mae aelodau hefyd yn glir na ddylai ddyblygu gweithgareddau neu swyddogaethau sydd eisoes yn digwydd, na chreu rhwystrau biwrocrataidd ychwanegol.
Yr hawl i gartref digonol
Mae CHC hefyd wedi medru cynnal trafodaethau rhwng cymdeithasau tai ac ymgyrch Cefnogi’r Bil, sy’n cefnogi datblygu hawl i gartref digonol yng nghyfraith Cymru. Dywedodd Alicja Zalesinska, Prif Swyddog Gweithredol Tai Pawb, wrthym fod partneriaid yr ymgyrch – Shelter Cymru a CIH Cymru – wrth eu bodd gyda’r ymrwymiad sydd yn y Cytundeb Gweithredu i gyhoeddi Papur Gwyn.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid drwy gydol yr ymgyrch ac yn ystod ein hymchwil i gost a budd hawl i gartref digonol, rydym wedi gwahodd cynrychiolwyr landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymchwilio sut y gallai hyn newid y tirlun tai yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf,” meddai Alicja wrthym.
“Rydym yn falch iawn gyda’r ymgysylltu cadarnhaol o’r sector, yn cynnwys trafodaeth am adnoddau, cyflenwad, atal a diweddu digartrefedd a sicrhau y caiff y cartrefi cywir eu hadeiladu yn y lleoedd cywir.”
Wrth edrych i’r dyfodol, mae gan yr ymgyrch gynllun clir i lywio datblygiad y Papur Gwyn arfaethedig. Ychwanegodd Alicja, “Gan adeiladu ar gam gyntaf ein hymchwil – a edrychodd ar gymharwyr rhyngwladol a chanfod y gall Cymru arwain y ffordd yn ei hymagwedd at gartref fel hawl dynol – byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau’r ail gam ddiwedd mis Medi. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gost-budd cyflwyno’r hawl i gartref digonol yng Nghymru a’r arbedion y gellid eu gwneud mewn sectorau a meysydd polisi eraill.
“Rydym yn ymroddedig i ddialog parhaus a phwrpasol gyda’r holl randdeiliaid i helpu llunio’r Papur Gwyn a sicrhau fod gan bawb yng Nghymru hawl i gartref da.”
Camau nesaf
Pan lofnodwyd y cytundeb gweithredu i ddechrau, roedd yn rhwydd ystyried fod ei faint a’i uchelgais yn llethol. Fodd bynnag, mae’r cynnydd a wnaed mewn ychydig dros chwe mis yn rhoi arwydd llawer cliriach i ni o’r newid go iawn y gallwn ei ddisgwyl dros oes tair blynedd y cytundeb. Disgwyliwn y bydd y chwe mis nesaf yn cynnwys mwy fyth o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a thrafodaeth.