Jump to content

16 Mehefin 2023

Bryony Haynes o CHC ar pam fod adroddiad Pwls Tenantiaid TPAS Cymru yn cefnogi ôl-osod ac effeithiolrwydd ynni

Bryony Haynes o CHC ar pam fod adroddiad Pwls Tenantiaid TPAS Cymru yn cefnogi ôl-osod ac effeithiolrwydd ynni

Yr wythnos hon, mae TPAS Cymru wedi lansio ei Wythnos Sero Net Flynyddol 2023.

Mae Wythnos Sero Net yn rhoi cyfle i’r bobl sy’n gweithio ar draws y sector tai cymdeithasol
yng Nghymru i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu yn yr 20 mlynedd nesaf.

I gychwyn ei drydedd Wythnos Sero Net, lansiodd TPAS ei Adroddiad Pwls Tenantiaid Sero Net, a holodd 700 o denantiaid am effeithlonrwydd ynni, ôl-osod eiddo, ac agweddau at Sero Net.

Roedd y canfyddiadau allweddol o’r arolwg yn cynnwys:

  • Dim ond 20% o denantiaid cymdeithasau tai a ddywedodd eu bod yn gwybod cyfradd effeithlonrwydd ynni eu cartref, mewn cymhariaeth â 23% o denantiaid awdurdodau lleol.
  • Lleihau biliau ynni a chadw rhenti yn isel yw’r pynciau sy’n peri mwyaf o bryder i denantiaid.
  • Dywedodd 78% o denantiaid cymdeithasau tai nad oeddent wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad gan eu landlord am waith Sero Net/datgarboneiddio y gellid eu gwneud.
  • Dywedodd 43% nad oeddent yn meddwl y dylai tenantiaid orfod talu mwy am gartrefi carbon isel.

Yma, mae ein rheolwraig polisi a materion allanol Bryony Haynes, sy’n arbenigo mewn datgarboneiddio yn Cartrefi Cymunedol Cymru, yn trafod pwysigrwydd yr adroddiad hwn a’r hyn y mae’n ei olygu i’r sector tai cymdeithasol.

Pa effaith mae’r adroddiad hwn yn ei gael ar y sector?

Mae’r adroddiad yn offeryn pwysig iawn i ni gael dealltwriaeth werthfawr o sut y mae tenantiaid yn teimlo am ôl-osod yn eu heiddo a sut y bydd hyn yn helpu cymdeithasau tai i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Trwy siarad â thenantiaid a chael eu hadborth gallwn weithio i wneud ôl-osod yn llwyddiant tymor hir.

Beth oeddech chi’n ei deimlo oedd y neges bwysicaf yn yr adroddiad?

Rwy’n meddwl mai’r brif ystyriaeth i’w chymryd o’r adroddiad yw bod cyfathrebu rhwng landlordiaid a thenantiaid yn holl bwysig.

Wrth gwrs mae’n hanfodol i’r sector edrych ar yr adborth hwn, ac addasu sut y mae’n cyfathrebu gyda’i denantiaid i sicrhau eu bod yn derbyn negeseuon pwysig am ôl-osod ac effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.

Mae’r daith tuag at sero net yn gofyn am gydbwysedd ystyriol rhwng cyflawni targedau uchelgeisiol a gwneud hynny yn y modd mwyaf cost effeithiol i landlordiaid a thenantiaid.

Beth nesaf ar ôl yr adroddiad hwn?

Yn unol ag argymhelliad TPAS, byddwn yn parhau ein gwaith o gasglu a rhannu’r gwersi i’r sector i gefnogi cymdeithasau tai yn eu dull o ymwneud ag ôl-osod, a hefyd yn amlygu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector.
Byddwn yn datblygu hyb canolog o wybodaeth i’n haelodau, yn ogystal â threfnu mannau i drafod i staff strategol a thechnegol gysylltu a siarad gyda’i gilydd.

Sut y bydd yr adnodd hwn o fudd i gymdeithasau tai a thenantiaid?

Bydd yr hyb hwn i aelodau ddysgu oddi wrth aelodau yn cyd-fynd ag adnoddau eraill a ddarperir gan bartneriaid a Llywodraeth Cymru. Mwyaf yn y byd y mae’r sector yn ei wybod, y mwyaf o lwybrau y gellir eu harchwilio wrth gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasau tai ar sail o achos i achos, gyda’r tenantiaid.

For media queries please contact media@chcymru.org.uk