CHC yn ymateb i’r ystadegau diweddaraf ar dai fforddiadwy
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoedd’r ystadegau diweddaraf ar ddarpariaeth tai fforddiadwy.
Mewn datganiad dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol: “Cafodd 3,643 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol eu cwblhau ledled Cymru yn 2024-25, cynnydd o 12% ar y flwyddyn flaenorol a’r cyfanswm uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2007.”
Gallwch ddod o hyd i'r ystadegau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymunedol Cymru:
Mae ffigurau heddiw yn dangos yr hyn y gall uchelgais a sicrwydd hirdymor ei gyflawni.
Er y blaenwyntoedd heriol olynol sydd wedi ei gwneud yn anos adeiladu cartrefui, o’r pandemig i argyfyngau economaidd olynol, gyda’n gilydd rydym yn cyflenwi 79% yn fwy o gartrefi fforddiadwy nag ar ddechrau tymor y Senedd.
Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud. Mae gormod o bobl yng Nghymru yn dal i fyw mewn cartrefi anfforddiadwy, anaddas neu anniogel. Nid yw'n rhaid iddi fod fel hyn.
Cymdeithasau tai sy’n cyflenwi 74% ‘r holl gartrefi fforddiadwy newydd. Mae data heddiw yn dangos, wrth ochr uchelgais ac ymroddiad gwleidyddol parhaus yn nhymor nesaf y Senedd, bod y sector tai yn barod ac yn medru cyflawni fel fod gan bawb yng Nghymru le diogel a fforddiadwy i’w alw’n gartref.