Jump to content

20 Medi 2016

CHC yn ymateb i’r Rhaglen Lywodraethu

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi eu Rhaglen Lywodraethu (2016-2021) ac wedi cadarnhau ei tharged uchelgeisiol o gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer tymor presennol y Cynulliad. Mae'r targed yn cynnwys 14,000 o gartrefi fforddiadwy ar rent ac adeiladu 6,000 o gartrefi drwy'r cynllun Cymorth Prynu.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC): "Rydym yn croesawu cadarnhau'r targed hwn ar ôl galw, gyda phartneriaid eraill cynghrair Cartref i Gymru yn y cyfnod cyn yr etholiad, am gynllun uchelgeisiol ar gyfer tai. Fe wnaethom gynnal digwyddiad gyda'r sector a Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant fore heddiw i drafod sut i gyflenwi'r 20,000 o gartrefi ac mae'r sector yn barod am yr her."

"Mae angen i ni yn awr sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn cyfateb ei huchelgais gyda chyllid, ac yn creu amgylchedd polisi i gefnogi gwireddu'r targed, yn cynnwys parhau i ddarparu setliad rhent teg ac os oes ailddosbarthu, sicrhau fod cymdeithasau tai yn dychwelyd i'r sector preifat."

"Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cadarnhau y cyflwynir deddfwriaeth i ddod â'r hawl i brynu i ben yng Nghymru. Cafodd tua 130,000 o dai cyngor eu prynu dan yr Hawl i Brynu ers 1980 a gafodd effaith enfawr ar y cyflenwad o dai fforddiadwy."

"Rydym hefyd yn croesawu parhau'r gefnogaeth ar gyfer gwaith Swyddogion Hwyluso Tai Gwledig. Mae'r arbenigwyr tai annibynnol hyn yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, y Parciau Cenedlaethol a chymunedau gwledig i ddatblygu datrysiadau tai gwledig fforddiadwy. Mae ganddynt rôl sylweddol mewn sicrhau bod cymunedau gwledig yn hyfyw a chynaliadwy drwy oresgyn llawer o'r rhwystrau mewn ardaloedd gwledig, megis dynodi safleoedd priodol ac asesu anghenion lleol.

Edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion am bob un o'r meysydd polisi hyn ac at weithio gyda phartneriaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn.

Gellir gweld y ddogfen lawn 'Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen' yma:
http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-wales-forward-en.pdf