CHC yn ymateb i'r adroddiad ar y Credyd Cynhwysol
Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adroddiad Pwyllgor Ymgynghori Nawdd Cymdeithasol (SSAC) ar ôl iddynt graffu ar y rheoliadau ymfudo a reolir ar gyfer y Credyd Cynhwysol. Fel rhan o'r gwaith craffu ar y rheoliadau, fe wnaethant gynnal ymgynghoriad gydag argymhellion ar sut y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal ymfudiad a reolir. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn mwyafrif helaeth yr argymhellion ac yn edrych ar eu gweithredu.
Y prif newidiadau a ddaeth allan o'r adroddiad yw:
- Bydd ymfudo a reolir yn dechrau ym mis Gorffennaf 2019 (dim gyda phrofion yn Ionawr 2019 fel a nodwyd yn flaenorol), gan olygu mai dim ond 10,000 gaiff eu hymfudo cyn 2020.
- Caiff rhai sy'n hawlio budd-daliadau gwaddol sy'n cael eu hymfudo bellach dri mis ar gyfer hawlio Credyd Cynhwysol cyn y daw eu budd-daliadau gwaddol i ben, dim ond un mis a roddid mewn cynlluniau blaenorol.
- Bydd hawlwyr a ymfudir yn awr yn medru diweddaru eu hawliad Credyd Cynhwysol am hyd at un mis os ydynt yn methu'r dyddiad cau i hawlio Credyd Cynhwysol.
Mae'r ymateb i'r adroddiad hefyd yn dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon cynnal trafodaethau pellach ar rannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a chymdeithasau tai er mwyn eu helpu i gefnogi tenantiaid a all fod ar fin cael eu hymfudo.
Mae hyn i gyd yn ychwanegol at gyhoeddiadau'r gyllideb, sef:
- Rhediad ymlaen dwy wythnos ar y Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Cymhorthdal Incwm, a weithredwyd o fis Gorffennaf 2020.
- Gostyngiad yn uchafswm cyfradd Didyniadau Trydydd Parti y gellir eu tynnu o ddyfarniad Credyd Cynhwysol. Gostyngir o 40% o lwfans safonol i 30%, a weithredwyd o fis Hydref 2019.
- Ymestyn y cyfnod ar gyfer adennill blaendaliadau, wedi cynyddu i 16 mis o 12 mis. Gweithredir o fis Hydref 2021
- Cynyddu lwfans gwaith gan £1000.
- Ymestyn y cyfnod o ras 12 mis ar gyfer hawlwyr hunangyflogedig. Gweithredir yn llawn o fis Medi 2020.
Bu CHC yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ac Aelodau Seneddol o bob plaid i amlygu heriau Credyd Cynhwysol ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd ein gwaith ar y maes yma'n parhau wrth i ni gefnogi aelodau drwy'r broses ymfudo a reolir.
Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Rydym yn croesawu'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r cynllun i ymfudo hawlwyr presennol budd-daliadau a chredydau treth i'r Credyd Cynhwysol. Cafodd nifer o welliannau a gynigiwyd gan gymdeithasau tai yng Nghymru eu mabwysiadu, yn cynnwys ymestyn y cyfnod sydd gan bobl i hawlio Credyd Cynhwysol cyn y daw eu budd-daliadau presennol i ben.
“Rydym hefyd yn croesawu ymagwedd fwy pwyllog at ddechrau'r broses ymfudo a reolir, gyda nifer fach o hawlwyr i gael eu trosglwyddo yn y chwe mis cyntaf. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i atal hawlwyr rhag bod ar eu colled yn ariannol yn ystod y broses ymfudo. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod y broses yn llawn addas i'r diben cyn ei gweithredu ym mis Gorffennaf 2019."