Jump to content

17 Mai 2018

CHC yn ymateb i'r Adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Adolygiad Annibynnol terfynol y Fonesig Judith Hackitt o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd un mis ar ddeg ar ôl y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell, yn awgrymu cyfres o argymhellion i wella systemau i sicrhau diogelwch tenantiaid mewn adeiladau uchel. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y prosesau a'r systemau sy'n gysylltiedig â throsolwg o waith adeiladu, adnewyddu a rheoli adeiladau uchel ac nid yw'n rhagnodol am y mathau o ddeunyddiau a ddefnyddir yn y broses. Fodd bynnag, credwn lle mae deunyddiau neu arferion yn ymwneud â chladin ac insiwleiddio adeiladau dros 18m mewn uchder yn anniogel, y dylid gwahardd eu defnydd pellach fel mater o frys.

Rydym yn croesawu'r argymhellion i ddynodi a sicrhau cymhwysedd deiliaid dyletswydd wrth asesu risg tân adeiladau.

Byddai'r mesurau hyn, os y'i gweithredir, yn sicrhau fod gan denantiaid a chyrff gorfodi ddealltwriaeth glir o bwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch tân adeilad ac ail-sefydlu hyder y cynhelir asesiadau risg tân yn drwyadl. Bydd hefyd yn golygu y caiff argymhellion sy'n deillio eu trin mewn ffordd amserol.

Mae'r adroddiad yn argymell sefydlu un Cyd-awdurdod Cymwys (JCA) yn dod â'r Gwasanaethau Tân ac Achub, Awdurdodau Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghyd i roi trosolwg ar adeiladau deg llawr neu uwch. Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu gweithredu, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod y JCA yn addas i'r diben ar draws y Deyrnas Unedig o gofio am statws datganoledig tân ac achub a safonau adeiladu ond statws a gadwyd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Diogelwch tenantiaid yw'r ystyriaeth bwysicaf oll ac mae'r Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladau a Diogelwch Tân a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi fframwaith gadarn ar gyfer cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i barhau i gydweithio i wella diogelwch ar gyfer pobl yn byw mewn adeiladau uchel yng Nghymru. Cytunwn ei bod yn hanfodol fod y diwydiant adeiladu, perchnogion busnes a rheolwyr yn cael eu dal yn atebol am sicrhau fod adeiladau'n ddiogel.

"Rydym yn cefnogi ffocws yr adolygiad ar wella'r holl systemau ar gyfer sicrhau diogelwch mewn adeiladau uchel yn yr hirdymor. Fodd bynnag, fel blaenoriaeth credwn lle dangoswyd fod cladin, insiwleiddio neu arferion yn anniogel ar adeiladau dros 18m y dylid gwahardd eu defnydd pellach."