CHC yn ymateb i Reoliadau Safonau’r Gymraeg
Gydag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ymestyn Safonau’r Gymraeg i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig bellach wedi cau, rhoddwn sylw i’r hyn y byddai gweithredu’r safonau hyn yn ei olygu i’r sector.
Gydag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ymestyn Safonau’r Gymraeg i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig bellach wedi cau, rhoddwn sylw i’r hyn y byddai gweithredu’r safonau hyn yn ei olygu i’r sector.
Y Gymraeg yw conglfaen ein diwylliant, hanes a hunaniaeth. Gall defnyddio’r iaith yn rheolaidd gynnig cysylltiadau dyfnach o fewn cymunedau ac ehangu dealltwriaeth o fywyd a diwylliant Cymru.
Mae Safonau’r Gymraeg, a gafodd eu creu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru – gan greu hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg.
Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori’n ddiweddar ar ymestyn y safonau hyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Fel llais cymdeithasau tai yng Nghymru, cefnogwn ddyhead Llywodraeth Cymru i feithrin a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae gan LCC eisoes record gref mewn cefnogi’r Gymraeg, gyda llawer yn darparu gwasanaethu dwyieithog drwy eu Cynlluniau Iaith Gymraeg presennol. Byddai’r rheoliadau yn ychwanegu at y cynnig presennol yma.
Mae ein hymateb yn galw am weithredu’r safonau yn gymesur ac yn hyblyg, gan roi ystyriaeth i alluedd gweithredol LCC ac anghenion tenantiaid.
Er yn croesawu’r rheoliadau ac yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg, mae’n rhaid cydnabod y pwysau ariannol sylweddol y byddai’r safonau yn eu gosod ar y sector.
Yn y pen draw bydd yn rhaid talu am y buddsoddiad gofynnol mewn cyfieithu, seilwaith digidol a systemau TG – ynghyd ag adolygiadau cynhwysfawr o weithgareddau cynllunio gwasanaethau, caffael a gweithgareddau recriwtio – allan o rent tenantiaid os nad oes cyllid a chymorth ychwanegol ar gael. Y risg yw y bydd y safonau yn gwyro buddsoddiad o gartrefi newydd a chartrefi presennol.
Mae ein haelodau, hyd yn oed y rhai sy’n gweithredu mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn gryf, wedi mynegi pryderon am oblygiadau cost ac adnoddau gweithredu’r safonau. Mae partneriaid y sector, yn cynnwys TPAS Cymru, yn codi pryderon tebyg – gan annog fod yn rhaid i’r rheoliadau fod â’u ffocws ar denantiaid, bod yn gymesur a chael eu cefnogi’n ddigonol.
Gan gysylltu’n helaeth gydag aelodau, mae ein hymateb yn galw am weithredu’r safonau yn gymesur ac yn hyblyg, gan roi ystyriaeth i alluedd gweithredol LCC ac anghenion tenantiaid.
Mae ein hymateb yn argymell gwelliannau i’r rheoliadau drafft i helpu sicrhau, pan y’u gweithredir gan Gomisiynydd y Gymraeg, fod y safonau yn ymateb i anghenion amrywiol LCC a’u cymunedau.
Rydym hefyd yn galw am amgylchedd cyllido cefnogol gan y llywodraeth i ateb y safonau hyn, yn ogystal ag amserlen weithredu realistig – gyda llwybrau clir ar gyfer cydymffurfio.
Er amheuon os y gellir cyflawni’r uchelgeisiau hyn, gobeithiwn y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at reoliadau sy’n cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg a hefyd yn galluogi LCC i barhau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer tenantiaid ar draws ystod llawn eu swyddogaethau a’u goblygiadau.