Jump to content

08 Gorffennaf 2015

CHC yn ymateb i Gyllideb Haf George Osborne

Cyhoeddodd George Osborne y newidiadau pwysig yma yn ei Gyllideb Haf heddiw:

  • Torri hawl awtomatig i fudd-dal tai ar gyfer rhai 18 i 21 oed o Ebrill 2016.
  • O Ebrill 2016 ymlaen, cyfyngu hawliadau Budd-dal Tai i uchafswm o 4 wythnos
  • Gostwng uchafswm budd-daliadau i £20,000 o £26,000 yng Nghymru
  • Rhewi budd-daliadau oed gwaith am 4 blynedd (mae hyn yn cynnwys credyd treth gwaith a chredyd treth plant)
  • Bydd y cyfraddau ar gyfer y Grŵp Gweithgaredd Cysylltiedig â Gwaith o fewn y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn gyffelyb i'r Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Cyfyngu credyd treth plant (Credyd Cynhwysol) i ddau blentyn o Ebrill 2017 ar gyfer unrhyw hawlwyr newydd a hawlwyr presennol sy'n cael mwy o blant ar ôl 2017. Mae gan 51,000 o deuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru ddau o blant yn barod felly bydd y newid yn effeithio arnynt os oes cânt fwy o blant
  • Rhenti cymdeithasol - Bydd y llywodraeth yn gostwng rhent cymdeithasol yn Lloegr gan 1% y flwyddyn am 4 blynedd o 2016
  • Cyflog Byw Cenedlaethol newydd ar gyfer pobl dros 25 oed fydd yn cyrraedd £9 erbyn 2020

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae Cymru yn economi gyda chyflogau cymharol isel a chroesewir creu cyflog byw cenedlaethol a'r gydnabyddiaeth fod yr isafswm cyflog presennol yn ddigonol. Fodd bynnag, mae lled y diwygiadau llesiant a gyhoeddwyd heddiw'n achosi pryder. Mae'r diwygiadau lles eisoes wedi effeithio'n waeth ar Gymru na gweddill y Deyrnas Unedig. Mae hon yn gyllideb galed i deuluoedd mewn gwaith a phobl ifanc, a chredwn y gall dau neu dri gwahanol newid daro arnynt.

"Drwy ostwng yr Uchafswm Budd-daliadau i £20,000 amcangyfrifwn y gellid effeithio ar fwy na 7,000 o deuluoedd yng Nghymru, gyda 2,240 o bobl yn byw mewn tai cymdeithasol. Gallai uchafswm o £20,000 weld teulu allan o waith o ddau oedolyn a thri o blant yn colli £3,200 y flwyddyn ar gyfartaledd. Mewn llawer rhan o Gymru, ni all teuluoedd dalu rhenti preifat uchel oherwydd yr uchafswm a bydd mwy o alw nag erioed am dai fforddiadwy.

"Gallai penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i orffen yr hawl awtomatig i fudd-dal tai ar gyfer pobl ifanc 18-21 oed yng Nghymru effeithio ar hyd at 4,100 o bobl ifanc. Mae budd-dal tai yn hanfodol i gynifer o bobl ifanc agored i niwed nad oes ganddynt y dewis o ddibynnu ar eu teuluoedd.

"Byddwn yn gweithio gyda'n haelodau a phartneriaid allweddol i hysbysu a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt."

Yn dilyn datganiad i'r wasg heddiw, byddwn yn anfon papur gwybodaeth arbenigol i aelodau gyda mwy o wybodaeth ar effaith y newidiadau ynghyd â'n camau nesaf. Byddwn hefyd yn rhoi'r newidiadau diweddaraf ar dudalen Facebook Mae Budd-daliadau yn Newid.

Gallwch ddarllen geiriad llawn y Gyllideb Haf yma.