Jump to content

01 Hydref 2018

CHC yn ymateb i gyhoeddiad cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau ar Gymorth Cynhwysol

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fore heddiw y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyllido Cyngor Ar Bopeth i ddarparu Cymorth Cynhwysol o fis Ebrill 2019.

Cynlluniwyd Cymorth Cynhwysol i gefnogi tenantiaid i baratoi am y Credyd Cynhwysol drwy gynnig cyngor ar lythrennedd digidol a thrin arian, i gynorthwyo gyda throsglwyddo i system ddigidol ac un taliad misol.

Mae gan gymdeithasau tai berthynas agos gyda Cyngor Ar Bopeth, gan weithio mewn partneriaeth i gefnogi tenantiaid sy'n wynebu problemau a achoswyd gan y Credyd Cynhwysol.

Croesawn gyhoeddiad heddiw, fodd bynnag mae rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu Cymorth Cynhwysol i'w tenantiaid ac mae llawer o alw am y cymorth hwnnw lle mae ar gael. Credwn y dylai cyllid Cymorth Cynhwysol gael ei gomisiynu'n agored i alluogi cymdeithasau tai i gael mynediad i gyllid lle mae nhw fyddai yn y sefyllfa orau i gefnogi eu tenantiaid.

Yn gynharach eleni buom yn gweithio gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i newid gwallau sylfaenol gyda'r Credyd Cynhwysol.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni: "Gall hawlio Credyd Cynhwysol godi ofn ar lawer o bobl sydd efallai heb unrhyw brofiad o ddefnyddio cyfrifiadur neu drefnu eu harian ar sail fisol. Mae'n bwysig fod Cymorth Cynhwysol ar gael i hawlwyr pan maent ei angen. Bu'n effeithiol iawn lle mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnig Cymorth Cynhwysol ar hyn o bryd oherwydd y berthynas dda sy'n bodoli eisoes rhwng landlord a thenant. Credwn y dylai'r cyfle i ddarparu'r gwasanaeth fod ar gael i bob cymdeithas tai lle mae hynny'n addas."