Jump to content

16 Medi 2015

CHC yn ymateb i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - Nid yw Cymdeithasau Tai yn 'rhan o'r sector cyhoeddus'

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi mynegi pryder mawr i'r Prif Weinidog David Cameron gyfeirio at gymdeithasau tai fel 'rhan o'r sector cyhoeddus' yn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiynau gan Jeremy Corbyn, arweinydd newydd y Blaid Lafur, am effaith toriadau i renti cymdeithasol yn Lloegr, gan ddweud eu bod yn arwain at golli swyddi.


Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC:
"Mae polisi tai wedi'i ddatganoli yng Nghymru ac mae cymdeithasau tai yn sefydliadau annibynnol. Rydym yn bendant ddim yn rhan o'r sector cyhoeddus.
Mae ein haelodau'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel rhan o'r bartneriaeth fwyaf llwyddiannus rhwng y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ym Mhrydain ac efallai ar draws Ewrop gyfan.
Rydym wedi adeiladu mwy na 10,000 o gartrefi dros y pum mlynedd ddiwethaf - a chafodd eu chwarter eu darparu heb Grant Tai Cymdeithasol gan y llywodraeth, gan ysgogi cyllid preifat gan ystod eang o ffynonellau. Darparwn dros 150,000 o gartrefi fforddiadwy i bobl Cymru."