CHC yn gwahodd ymateb i ddrafft Gynllun Corfforaethol 2019-2022
Bydd ein cynllun corfforaethol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cefnogi cyflenwi ein gweledigaeth Gorwelion Tai o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.
Fel bob amser, ein nod yw eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael, i'ch cefnogi drwy gyfnodau heriol a bod yn llais cryf ar y materion sy'n bwysig i chi.
Bydd ein ymgynghoriad gyda'r sector yn canolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth strategol allweddol ddilynol ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol 2019-22:
- Dylanwadu ar amgylchedd gweithredu ein haelodau
- Dweud stori'r sector
- Darparu gwasanaethau ardderchog i aelodau
- Paratoi aelodau ar gyfer y dyfodol
Fel rhan o'n hymgynghoriad, hoffem eich barn ar y dilynol:
- A ydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol cywir?
- A oes unrhyw beth ar goll?
- A yw'n ddigon uchelgeisiol?
- Beth fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eich sefydliad?
- Sut olwg fydd ar lwyddiant?
- Pa elfen sydd fwyaf cyffrous i chi?
Atebwch y cwestiynau dilynol a'u dychwelyd at Julia Sorribes erbyn 5pm ar 26 Hydref os gwelwch yn dda.
Ymunwch â'n gweminar i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y themâu allweddol yng Nghynllun Corfforaethol 2019-2022 CHC. Bydd y weminar yn gyfle i ofyn cwestiynau, rhoi adborth a dweud eich barn ar waith eich corff aelodaeth.