CHC yn galw am strategaeth sgiliau adeiladu i fynd i’r afael ag argyfwng NEET Cymru
Canfu dadansoddiad newydd gan CHC fod nifer y bobl ifanc a gaiff eu cyfrif yn rhai heb fod mewn cyflogaeth, hyfforddiant nac addysg (NEET) wedi cynyddu i’w lefel uchaf ers 2013.
Dengys data Llywodraeth Cymru fod y nifer o bobl ifanc a gaiff eu cyfrif fel NEET yng Nghymru wedi cynyddu o 38,300 yn y flwyddyn a ddiweddodd yn Rhagfyr 2024 i 56,800 yn y flwyddyn a ddiweddodd yn Rhagfyr 2025 – cynnydd sylweddol o 18,500 (48.3%).
Mae cyfran y bobl ifanc NEET yng Nghymru yn awr yn sylweddol uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig, lle mae’r niferoedd wedi aros yn sefydlog – 17% o gymharu â chyfartaledd o 13% yn y DU.
Tu ôl i’r ystadegau hyn mae pobl ifanc go iawn, sy’n awyddus iawn i adeiladu eu bywydau, a chymdeithasau tai, sydd wedi angori yn eu cymunedau lleol ac sy’n fodlon ac yn barod i ddarparu cyfleoedd nid ond i fyw, ond hefyd i weithio.
Mae CHC felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol ar Sgiliau Adeiladu i alinio cyfleoedd a gynigir gan gymdeithasau tai gyda gallu’r sector Addysg Bellach a’r gadwyn gyflenwi i fynd i’r afael yn syth â’r argyfwng NEET yng Nghymru a hefyd yr argyfwng tai.
Stori Cian
Cafodd swydd Cian Halliday o Ynys Mon, sydd wedi cymhwyso fel peiriannydd, ei dileu oherwydd effaith y pandemig ar gam cynnar a hanfodol yn ei yrfa.
Nid yw Cian ar ben ei hun yn hyn o beth. Canfu’r un dadansoddiad gan CHC mai yng Ngogledd Cymru mae’r gyfradd uchaf yng Nghymru o bobl ifanc heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae Adra, cymdeithas tai sydd â’i phencadlys ym Mangor, yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth mewn adeiladu ac ôl-osod drwy raglen lwyddiannus ac uchel ei pharch Academi Adra.
Ar ôl cael ei gyfeirio at raglen Cymunedau Ymlaen Môn Adra yng Nghaergybi, treuliodd Cian 16 wythnos ar leoliad gwaith ar dâl, yn delio gydag eiddo gwag – adnewyddu eiddo i gael eu hail-osod i’r rhai sy’n chwilio am gartref fforddiadwy.
Cafodd gynnig brentisiaeth fel saer coed wedyn gan Adra, gan fynychu’r coleg am un diwrnod yr wythnos am dair blynedd. Gorffennodd ei brentisiaeth yn ddiweddar ac mae’n awr yn cael ei hyfforddi gyda’r cwmni.
Meddai Cian: “Roeddwn yn credu fod fy ngyrfa mewn peirianneg yn saff ac wedyn fel canlyniad i Covid doedd gen i ddim swydd.
“Roedd hwn yn gyfnod anodd, ond rhoddodd Academi Adra raff bywyd i mi a chyfle i ddysgu sgiliau newydd mewn crefft oedd yn hollol newydd i fi.
“Fe wnaeth hyn baratoi’r ffordd am yrfa mewn adeiladu ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn mae’r dyfodol yn y diwydiant yn ei gynnig i fi.
“Nid yn unig wnes i ddysgu sgiliau newydd drwy hyfforddiant ar y swydd a chymwysterau drwy gwrs coleg ffurfiol, ond bu’n hwb enfawr yn fy hyder.
“Dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny”.
"Rhoddodd Academi Adra linell achub i mi... mae wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn mae'r dyfodol yn ei gynnig."
Dim ond dechrau pethau yw hyn y Cian a hefyd i Academi Adra. Dros y pedair blynedd nesaf mae Adra – drwy Academi Adra a chynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant eraill, yn anelu i gefnogi 700 o breswylwyr a phobl leol i ddatblygu sgiliau, gan gyflwyno hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau, fel adeiladu, lle mae galw uchel.
Dengys gwaith Academi Adra fod cymdeithasau tai a phartneriaethau cymunedol yn gyrru economi Cymru.
Mae Cymru angen mwy o dai cymdeithasol. Er eu bod yn darparu tai cymdeithasol ar y gyfradd uchaf ers 2007, mae’r argyfwng tai yn parhau yn ystyfnig. Dengys yr ystadegau diweddaraf fod dros 10,000 o bobl yn aros mewn llety dros dro, yn cynnwys 2,200 o blant.
Ar yr un pryd mae pobl ifanc yn galw’n daer am gyfleoedd i weithio a hyfforddi mewn sectorau sy’n cynnig twf go iawn a’r cyfle i adeiladu gyrfa yn agos adre.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra,
“Mae Academi Adra yn bendant iawn yn un o’n prosiectau pwysicaf ac mae’n mynd o nerth i nerth.
“Mae’n dangos ein bod ni yn fwy na landlord cymdeithasol. Mae creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i helpu ein pobl i ffynnu yn wirioneddol bwysig ond mae buddion sylweddol i’r economi, busnesau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr CHC,
“Buddsoddi yn ein cartrefi yw’r buddsoddiad gorau y gallwn ei wneud er lles economaidd Cymru.
“Drwy adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd dros y pedair blynedd nesaf, gall cymdeithasau tai gyflenwi dros 14,000 o swyddi y flwyddyn yn ystod y cyfnod adeiladu.
“Drwy sicrhau fod ein nodau tai yn gydnaws â strategaeth sgiliau adeiladu uchelgeisiol, gallwn droi argyfwng cenedlaethol yn don o gyfle i bob cymuned.
“Mae rhoi diwedd ar yr argyfwng tai yn fwy na brics a morter – mae’n ymwneud ag iechyd, swyddi a chyfle.”