Jump to content

15 Medi 2016

CHC yn cynnig mwy i aelodau

Gwelodd heddiw (15 Medi) ben llanw blwyddyn o waith i CHC gyda lansiad dau gynnig newydd a gynhaliwyd yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Y cyntaf i'w lansio oedd statws CHC fel Canolfan Achrededig gydnabyddedig Agored Cymru, a ddilynwyd gan 'Becyn Hyfforddiant' penodol i'r sector.

Cynhaliwyd ymchwil a grwpiau ffocws dros y 12 mis nesaf i gyfeirio ein cynnig newydd i aelodau. Dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Cyfarwyddydd Polisi/Dirprwy Brif Weithredydd CHC: "Bydd y cyfleoedd a lansiwyd heddiw yn ychwanegu gwerth at y gwaith ardderchog mae'n haelodau eisoes yn ei wneud, ac yn galluogi cynnig dysgu gydag achrediad drwy CHC i'n haelodau mewn ffordd ariannol hyfyw."

Mae gan CHC ymroddiad i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau a chydweithio i sicrhau canlyniadau cadarnhol. Dywedodd Rachel Mooney, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Datblygu Busnes Agored Cymru: "Rydym yn hynod falch fod Cartrefi Cymunedol Cymru bellach yn ganolfan gydnabyddedig gyda ni yn Agored Cymru ac edrychwn ymlaen at fedru cynnig achrediad i'w staff, tenantiaid a sefydliadau partner ledled Cymru."

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Adele Harries-Nicholas, Rheolydd Gwasanaethau Aelodau a Datblygu Busnes CHC ar 029 20 674803 neu e-bost yn adele-harries-nicholas@chcymru.org.uk