CHC yn cyfri’r dyddiau at COP: Mynd â thenantiaid ar y daith tuag at garbon cartref isel
Wrth i ni gyfri’r dyddiau at COP26, mae Bryony Haynes, ein Swyddog Polisi a Materion Allanol, yn ysgrifennu am rôl cymdeithasau tai wrth ymgysylltu gyda thenantiaid ar weithredu ar newid hinsawdd.
Gyda’r toriad o £20 i Gredyd Cynhwysol, ffyrlo ar ben a chynnydd mewn prisiau nwy yn gafael, mae’n deg dweud fod cost byw ar feddyliau llawer o bobl. Mae’n golygu, serch hynny nad yw’r argyfwng hinsawdd bob amser yn flaenllaw ac yn ganolog – hynny yw, os nad ydych yn gymdeithas tai.
Mae gan y sector uchelgais fawr i wneud cartrefi presennol yn effeithiol o ran ynni, ond ni fydd hyn yn bosibl heb gefnogaeth gan breswylwyr. Felly sut mae cymdeithasau tai yn canfod eu ffordd o amgylch cymhlethdodau’r her hon pan mae caledi ariannol yn flaenoriaeth i gynifer o bobl?
Unioni pethau
Ynghyd ٟâ Cynnal Cymru, mae CHC yn rhedeg grŵp Cymuned Ymarfer sy’n canolbwyntio ar brofiadau’r rhai sydd wedi ymgysylltu gyda thenantiaid ar ddatgarboneiddio. Neges fawr yr aethpwyd â hi oddi yno yw deall os oes lefel dda o ymddiriedaeth eisoes yn bodoli rhwng y tenant a’r landlord.
Cyn dechrau sgwrs gyda thenant ar fater trwm datgarboneiddio eu cartref, mae’n bwysig cael yr holl wybodaeth berthnasol am yr hyn sy’n bwysig i’r tenant:
- Pa waith blaenorol gafodd ei wneud ar eu cartref?
- A oedd y tenant yn fodlon gyda’r hyn gafodd ei wneud?
- Yn bwysicaf oll, a oes unrhyw atgyweiriadau ar ôl?
Mae’n bendant nad yw cymdeithasau tai eisiau dechrau’r sgwrs hon ar y droed anghywir. Mae angen i unrhyw atgyweiriadau sydd ar y gweill gael eu gwneud yn gyntaf, neu fod o leiaf mewn lle mwy cadarnhaol nag o’r blaen. Er enghraifft, fe wnaeth Cymdeithas Tai Linc Cymru greu cronfa ddata o atgyweiriadau tenant i ddeall y sefyllfa bresennol cyn blaenoriaethu pa denantiaid i gysylltu â nhw.
Negeseuon holistig a dealladwy
Gan weithio gyda chymdeithasau tai, derbyniodd Grasshopper Communications adborth yn ddiweddar gan grwpiau ffocws preswylwyr yn dangos fod tenantiaid eisiau deall mwy am bob cam o’r daith ôl-osod a sut y bydd yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys lefel yr ymyriad a achosir i’r tenant, yn ogystal â dangos sut olwg fydd ar ddatgarboneiddio. Fideos ac astudiaethau achos fydd y dull hanfodol ar gyfer hyn yn y dyfodol, drwy adeiladu a defnyddio rhwydwaith o denantiaid egnïol, gyda diddordeb sy’n barod i rannu eu profiadau ac agor eu cartrefi. Syniad arall, a awgrymwyd gan Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent yw ‘siop/hyb ail-osod’ leol ar gyfer cyngor ac arddangos popeth gwyrdd ym mhob rhan o’r ardal.
Er y bydd tenantiaid angen cefnogaeth ar sut i weithredu systemau newydd yn effeithiol, mae angen i denantiaid ddeall sut y bydd y broses ôl-osod o fudd i’w llesiant, iechyd a’r amgylchedd yn gyffredinol. Er enghraifft, ffenestri mwy modern, dim drafftiau a system rhwyddach ei reoli. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad oes un dull ‘un maint addas i bawb’ i gymdeithasau tai ar sut i gyfathrebu gyda thenantiaid. Bu Grasshopper Communications a Sero yn cefnogi cymdeithasau tai gyda hyn drwy gynhyrchu pecyn ymgysylltu preswylwyr, sy’n rhoi sylw i ddulliau a gafodd eu treialu a’u profi o gyfathrebu ac mae’n cynnwys esboniadur termau a sut i beidio llethu tenantiaid.
Tan werthu, gor gyflawni
Mae arbed arian ar filiau gwresogi yn un o fanteision allweddol ôl-osod a gaiff ei gyfathrebu i denantiaid yn aml. Fodd bynnag, mae hwn yn un faes lle gall gorwneud neges syml fod yn wrthgynhyrchiol. Mae sefyllfa pob tenant unigol yn wahanol, ac felly dylem fod yn ofalus am wneud datganiadau gor-gyffredinol ar arbedion cost. Mae ennill ymddiriedaeth tenantiaid ac wedyn beidio cyflawni’r hyn a addawyd yn golygu y gall yr wybodaeth gael effaith ton o fewn y gymuned a allai fod yn niweidiol, gallai hyn beryglu’r ymddiriedaeth bresennol ymysg tenantiaid a nodau cyffredinol y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.