CHC yn cyfri’r dyddiau at COP: A ydym yn gwario digon ar ddatgarboneiddio?
Wrth i ni gyfri’r dyddiau at COP26, mae Laura Courtney, ein Pennaeth Polisi a Materion Allanol, yn ymchwilio manteision ariannol datgarboneiddio a phwysigrwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cymdeithasau tai yn arwain y ffordd
Rydym i gyd yn gynyddol ymwybodol o’r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi – ac nid yw cymdeithasau tai yn ddim gwahanol. Gyda COP26 bron yma ac yn gynyddol yn y newyddion, mae magu momentwm a chydnabyddiaeth o’r angen i yrru cynnydd yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu.
Mae Cymru yn ymroddedig i sero-net erbyn 2050, gyda thai cymdeithasol ar lwybr cyflymach fyth, felly ni allwn wastraffu unrhyw amser.
Mae datgarboneiddio ein cartrefi yn fuddsoddiad. Mae’n gwneud synnwyr i bobl, yr economi a’r blaned. Fodd bynnag, nid yw’n rhad. Mae amcangyfrifon diweddar yn gosod cost datgarboneiddio tai cymdeithasol presennol ar rhwng £4-5bn. Mae canfod datrysiad cyllido i ddatgarboneiddio ein cartrefi ac adeiladu cartrefi newydd effeithiol o ran ynni yn flaenoriaeth fawr i gymdeithasau tai Cymru. Cytunodd 96% o gymdeithasau tai a ymatebodd i arolwg CHC y dylai gweithio i sicrhau pecyn cyllid a chymorth cynaliadwy ar gyfer gweithgareddau ôl-osod fod yn brif flaenoriaeth i CHC 2021/22.
Mae gwobr llwyddiant yn enfawr, ond felly hefyd yr heriau
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol erbyn diwedd tymor hwn y Senedd. Mae hon yn uchelgais fawr a heriol, yn arbennig pan gaiff ei hystyried mewn sefyllfa o gynnydd mewn prisiau deunyddiau a chadwyni cyflenwi dan bwysau.
Ac wedyn mae’r her a achosir gan gyflwr presennol stoc tai yng Nghymru. Gwyddom fod dros 150,000 o aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn edrych am ddull ‘profi yn gyntaf, wedyn gwneud’ fydd yn ein helpu i ddeall y mesurau fydd yn dod â chartref mor agos ag sy’n bosibl at EPC A cyn i ni gynyddu maint ein gwaith.
Yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae gennym gyfle i wella ansawdd ein cartrefi ymhellach a darparu cartrefi effeithiol o ran ynni i bobl ar y rhestr aros tai cymdeithasol. Mae swyddi a buddsoddiad yn yr economi sylfaen ar gael, a gall y ffordd y gweithiwn gyda thenantiaid a chymunedau helpu i feithrin ymddiriedaeth a bodlonrwydd.
Beth sydd angen i ni ei wneud yn awr?
Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau annibynnol, dim er elw a gyllidir gan renti fforddiadwy, cyllid grant gan lywodraethau (y Deyrnas Unedig, Cymru a lleol) a benthyca cyllid preifat.
Galwn ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno buddsoddiad cynaliadwy i ariannu gweithgaredd datgarboneiddio. Pecyn ysgogiad £4bn, 10 mlynedd, a gefnogir gan gymysgedd o gyllid cyhoeddus a phreifat, i ôl-osod tai cymdeithasol. Mae hefyd angen i ni sicrhau fod cymdeithasau tai mewn sefyllfa dda i gael cyllid gan fenthycwyr sydd â diddordeb mewn buddsoddiadau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Sylweddolwn fod hwn yn swm mawr ac yn gwestiwn anodd. Dynododd ein Grŵp Gorchwyl a gorffen Cyllido Datgarboneiddio bedair egwyddor y credwn ddylent fod yn sylfaen i syniadau ar gyllido datgarboneiddio:
- Hir-dymor: ffrwd cyllido grant hirdymor y gellir dibynnu arnynt
- Sicr: seiliedig ar Safon Ansawdd Tai Cymru newydd
- Dysgu wedyn gwneud: Rhaglen 10-mlynedd yn seiliedig ar y gwersi o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
- Dull cyllid cymysg: mae angen i ni ystyried opsiynau heb fod ar y fantolen ynghyd â grant
Mae llawer i’w wneud i roi’r egwyddorion hyn ar waith ac mae CHC a chymdeithasau tai yn awyddus i chwarae eu rhan i sicrhau fod y fframwaith cyllido ar gyfer cartrefi effeithiol o ran ynni yn addas, sicr ac yn rhoi’r fframwaith yr ydym ei angen. Mae cyhoeddi Cynllun Cymru Sero Net yn rhoi uchelgais glir i ni. Rydym yn awr yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru i ddeall yn well sut y gallwn gyda’n gilydd roi’r cynllun hwn ar waith.