Jump to content

21 Hydref 2015

CHC yn croesawu'r ffigurau tai oddi wrth Llywodraeth Cymru

Mae Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn rhagori ar y targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Dengys ffigurau a gyhoeddir heddiw (21 Hydref) bod cymdeithasau tai wedi cyflenwi 89% o darged Llywodraeth Cymru i ddarparu 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad gyda mwy na blwyddyn i fynd.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae'r ffigurau tai fforddiadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn galonogol iawn. Rydym yn neilltuol yn croesawu’r gydnabyddiaeth o waith caled a llwyddiant cymdeithasau tai Cymru yn eu cyfraniad at y targed o 10,000, a ddaw ar ôl i'n sector wneud cytundeb Cyflenwi Cyflenwad Tai gyda Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni. Mae ymrwymiad ein hadeiladu i adeiladu a darparu cartrefi yn glir a bydd y gwaith yma'n parhau nes byddwn yn cyrraedd y targed, a thu hwnt.

"Mae cymdeithasau tai yn hanfodol i les economaidd a chymdeithasol Cymru - yn darparu 158,000 o gartrefi fforddiadwy, ac yn cefnogi mwy na 20,000 o swyddi yn economi Cymru. Er mwyn i'r sector barhau i ddarparu'r cyfraniad sylweddol yma i'r economi, cyflogaeth, hyfforddiant ac argaeledd cartrefi, mae'r sector angen cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru drwy ei buddsoddiad yn y Grant Tai Cymdeithasol.

"Ar ran ein haelodau, bydd CHC yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi ar gael ledled Cymru a bod pawb yn teimlo manteision ehangach mudiad tai cryf er mwyn dod â' r argyfwng tai i ben ac adeiladu Cymru gryfach. Byddwn yn parhau i hyrwyddo argaeledd cartrefi fforddiadwy gweddus drwy ein hymgyrch Cartrefi i Gymru yn ystod y misoedd nesaf."

Mae datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru ar dai fforddiadwy a'r ystadegau diweddaraf ar gael yma ac yma.