CHC yn croesawu Astudiaeth Sector ar Lywodraethiant Cymdeithasu Tai a gofrestrodd yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei hadolygiad o lywodraethiant yn y sector cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae'r ymchwil, a gomisiynwyd gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn tanlinellu'r cynnydd sylweddol a wnaeth y sector ar lywodraethiant dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Caiff rhai cymdeithasau yn awr eu hystyried fel "begynau rhagoriaeth", gan fyw ac anadlu diwylliant sy'n cefnogi llywodraethiant da tra gwnaeth eraill newidiadau sylweddol sy'n adlewyrchu eu hymrwymiad i sicrhau llywodraethiant gwell.
Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cydnabod fod y sector yn wynebu nifer o heriau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf - gyda diwygio lles heb fod y lleiaf yn eu plith. I sicrhau fod y sector yn parhau'n 'addas i'r diben' ac y gall gwrdd â'r heriau i ddod, mae'r adroddiad yn awgrymu nad yw hunanfodlonrwydd yn opsiwn ac y bydd angen newid sylweddol mewn rhai Cymdeithasau Tai.
Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Tim Blanch, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC): "Mewn llawer o ffyrdd mae'r Adolygiad Llywodraethiant yn cadarnhau'r hyn a ddeallwn eisoes am lywodraethiant ar draws y sector ac mae'n galonogol fod pob Cymdeithas Tai wedi llofnodi Siarter Llywodraethiant Da CHC.
"Rydym yn rhoi croeso cyffredinol i ganfyddiadau'r adroddiad sydd unwaith eto'n dangos pwysigrwydd gweithredu ar yr argymhellion a gyhoeddwyd yn "Gwerthusiad Interim Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai a gofrestrodd yng Nghymru" a gyhoeddwyd ygan Lywodraeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth ac i ddarllen yr adroddiad llawn ewch i wefan Llywodraeth Cymru http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/sector-study-governance-housing-associations-registered-wales/?lang=cy