Jump to content

17 Mawrth 2020

Cefnogaeth CHC i gymdeithasau tai yn ystod yr achosion Coronafeirws (Covid—19)

Yn dilyn datganiadau gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Phrif Weinidog Cymru ddoe (16/03/2020), fel sefydliad rydym yn rhoi trefniadau ar waith i ymateb i’r achosion Coronafeirws (Covid-19).

Rydym wedi gweithredu fel gweithlu ystwyth ers rhai blynyddoedd ac mae gan ein staff adnoddau llawn i weithio o bell. Yng ngoleuni cyngor ddoe y dylai staff weithio o’u cartrefi lle bynnag sy’n bosibl, byddwn yn cau swyddfeydd CHC o 5pm yfory (18 Mawrth 2020) ymlaen ac yn darparu gwasanaethau o bell, yn cynnwys cael ffonau wedi eu hailgyfeirio i staff perthnasol a rhoi darpariaeth yn ei le ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.

Sicrhau lles ein staff a’n haelodau yw ein blaenoriaeth bennaf oll, ac yn y cyd-destun hwn byddwn yn gohirio ein digwyddiadau a’n cyrsiau hyfforddiant ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae gennym gynllun 12-mis hirdymor i ddarparu gwasanaethau, dylanwadu ar yr agenda gwleidyddol a dweud stori’r sector ar faterion o bwys i gymdeithasau tai Cymru. Bydd ein tîm yn parhau i weithio ar draws nifer o wahanol feysydd, yn neilltuol y rhai y gellir eu cyflawni o bell, ar faterion o flaenoriaeth neu lle mae pwysau amser. Rydym eisiau sicrhau fod gennym adnoddau digonol i gefnogi meysydd blaenoriaethau newydd yng nghyswllt y sefyllfa sy’n esblygu gyda Coronafeirws (Covid-19).

Gallwch weld rhestr o’r holl wahanol feysydd y gweithiwn ynddynt, ac mae manylion cyswllt staff perthnasol ar gael yma.

Rydym wedi creu tudalen arbennig ar y Coronafeirws a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd, a gobeithiwn y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd iawn ac mae’n un na welwyd ei debyg o’r blaen, a gobeithiwn eich bod yn cadw’n iach. Mae croeso i chi gysylltu â’r person perthnasol o’r rhestr staff uchod os oes gennych unrhyw bryderon, materion o gonsyrn neu ymholiadau.