Jump to content

22 Tachwedd 2019

Cefnogaeth allan o ddigartrefedd ac i fywyd newydd

Cefnogaeth allan o ddigartrefedd ac i fywyd newydd
Daeth Gina yn ddigartref ar ôl gadael perthynas lle'r oedd yn cael ei cham-drin. Ar ôl cyfnod anodd iawn, trodd ei bywyd o amgylch pan gafodd gartref drwy Gymdeithas Tai Rhondda a dechrau derbyn cymorth gan eu tîm.


Mae'n rhannu ei stori islaw:


"Wnes i erioed feddwl byth y byddwn yn dod yn ddigartref, ond ar ôl dioddef cam-driniaeth ddomestig am saith mlynedd, dyna'r sefyllfa yr oeddwn ynddi. Y peth anoddaf i fi oedd cyfaddef fy mod angen help a chymorth.


"Pan ddeuais yn ddigartref gyntaf, byddwn yn mynd yn gyson i fy swyddfa tai leol, ond ddaeth dim byd o gynigion am gartref, ac yn fuan roeddwn yn suddo i iselder. Doedd gen i ddim egni ar ôl a dim yn gweld unrhyw bwynt mewn byw.


"Newidiodd pethau i fi pan wnes gais llwyddiannus am dŷ dwy ystafell wely drwy Gymdeithas Tai Rhondda yn amodol ar gyfarfod gyda nhw. Roeddwn mor nerfus a phryderus pan wnes gwrdd gyda Beverley a'i chydweithiwr, ond fe wnaethant i mi deimlo'n gartrefol ac fe wnaethant gymeradwyo fy nghais ar ddiwedd yr ymweliad.


"Roedd fel cael ail gyfle ar ôl bod yn teimlo'n isel am mor hir. Roedd symud i fy nghartref newydd yn brofiad llethol, ond roedd gan Beverley lawer o gydymdeimlad a gwnaeth hi'n glir ei bod ar gael ar unrhyw amser, ynghyd â chefnogaeth gweddill y tîm gwych yng Nghymdeithas Tai Rhondda.


"Oherwydd y symud, a newid dilynol yn fy amgylchiadau, cefais hefyd fy symud i'r Credyd Cynhwysol oedd yn golygu nad oedd gen i unrhyw arian tra mod i'n aros am fy nhaliad cyntaf. Roedd yn gyfnod gwirioneddol anodd, ond unwaith eto roedd Beverley yno yn cynnig cefnogaeth a chyngor, a byddai'n dod â pharseli bwyd i fi o gynllun Grub Hub Rhondda.


"Ni all geiriau ddisgrifio sut mae fy mywyd wedi newid ers i mi symud at Gymdeithas Tai Rhondda. Roeddent yn credu ynof i ac fe wnaethant fy nghefnogi yn ystod yr amser mwyaf anodd yn fy mywyd ac roeddent yn amyneddgar am fy ôl-ddyledion rhent.


"Rwy'n awr yn gwirfoddoli i Cymorth i Fenywod ac yn helpu menywod eraill sydd wedi dioddef o gam-drin domestig, yn yr un ffordd ag y wnaeth Beverley a'i chydweithwyr fy helpu i. Drwy rannu fy stori a sut y gwnes drawsnewid fy mywyd, rwy'n gobeithio y gallaf ysbrydoli eraill."


Rydym yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ostwng yr arhosiad o bump wythnos am y Credyd Cynhwysol i ddim ond ychydig ddyddiau, fel nad yw pobl fel Gina yn cael eu gadael heb arian. I ddarllen mwy am hyn, cliciwch yma.



Rydym wedi treulio blynyddoedd lawer yn ymgyrchu i ddylanwadu ar bolisïau fel y gall pobl fel Gina fyw bywydau hapusach. Gweler ein llinell amser 30 mlynedd yma:





Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).