CCC yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cartrefi da yn ganolog i adferiad yng Nghymru
Yn ein maniffesto Cartref a lansiwyd heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i fuddsoddi mewn 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd dros y pum mlynedd nesaf a rhaglen uchelgeisiol i wneud cartrefi presennol yn fwy effeithiol o ran ynni i gefnogi adferiad Cymru yn dilyn Covid.
Bydd ein cynigion, ynghyd â buddsoddiad hirdymor gan gymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru, yn:
- Cefnogi cymdeithasau tai i barhau i weithredu fel cyflogwyr lleol sylweddol, sy’n cyflogi 10,000 o bobl yn uniongyrchol ar draws Cymru
- Cefnogi 20,000 o swyddi a 6,000 o gyfleoedd hyfforddiant eraill ar draws yr economi ehangach
- Rhoi hwb economaidd £6bn i gymunedau ledled Cymru
- Gwella iechyd y genedl. Gallai uwchraddio cartrefi arwain at 39 y cant yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer anhwylderau cylchrediad ac ysgyfaint.
Mae’r pandemig wedi dangos yn glir bwysigrwydd cartref ac amlygu’r anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl yn byw mewn cartrefi ansawdd gwael. Ni fu lle’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw.
Dengys ein ymchwil bod tai gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn mewn costau triniaeth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, tra bod 155,000 o aelwydydd yn dal i wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru.
Mae buddsoddi mewn cartref hyblyg, cysylltiedig, cynnes a diogel yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau iechyd ac i’r economi yn ei gyfanrwydd – gan gynhyrchu miloedd o swyddi, gostwng pwysau ar y GIG, a chyfrannu at gyd-uchelgais i ostwng allyriadau tai Cymru.
Mae maniffesto Cartref yn rhoi sylw i rai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai yn ymroddedig i weithio wrth ochr Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad drwy rai ymrwymiadau amlwg yn cynnwys:
- Dod â £3bn o fuddsoddiad preifat i Gymru a sicrhau £1bn pellach yn y pum mlynedd nesaf
- Cyfateb pob £1 a fuddsoddir i adeiladu tai cymdeithasol newydd
- Cynyddu gwariant ei aelodau yng Nghymru o 85c i 90c ym mhob punt
- Gweithredu fel cyflogwyr lleol sylweddol, gan gyflogi 10,000 o bobl yn uniongyrchol ledled Cymru
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Bydd yr etholiad y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i ni gyd ddiffinio llwybr Cymru allan o’r heriau a achosodd y pandemig a gallai ei ganlyniad lywio llwybr i ffyniant a iechyd ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Cyn lansio maniffesto Cartref, fe wnaethom gysylltu gyda cannoedd o gydweithwyr o gymdeithasau tai ynghyd â bron 100 o bartneriaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac rydym eisiau gweld y gwaith partneriaeth Cymru-gyfan hwnnw yn parhau ar ôl yr etholiad y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn galw am raglen gytbwys o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad, sy’n gwneud i bob punt weithio’n galed i roi hwb economaidd, yn ogystal â budd i iechyd a llesiant y genedl gyfan a chenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym o ddifrif am ddefnyddio ein sefyllfa unigryw i dyfu lleoedd llewyrchus, iach a chysylltiedig a dyna pam y gwnaethom rai ymrwymiadau pwysig yn y maniffesto i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad. Nawr yw’r amser i gydweithio i wneud iddo ddigwydd.”
Mae’r maniffesto llawn ar gael yma.