CCC yn datgelu bod Credyd Cynhwysol yn gwthio tenantiaid cymdeithasau tai Cymru i £2m o ddyled
Mae ffigurau newydd yn dangos fod tenantiaid cymdeithasau tai Cymru sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn gwerth £2.282m o ddyled - cynnydd o 150% ers mis Rhagfyr 2017.
Fe wnaethom gomisiynu ymchwil o bron i 7,000 o bobl sy'n dangos fod ôl-ddyledion rhent cyfartalog tenant sy'n hawlio Credyd Cynhwysol bellach yn £434, wedi codi o £420 ym mis Rhagfyr 2017.
Cafodd y polisi Credyd Cynhwysol, sy'n uno chwe budd-dal mewn un, ei ymestyn i 11% o hawlwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu trosglwyddo 350,000 yn fwy o aelwydydd sy'n hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd i'r Credyd Cynhwysol rhwng mis Gorffennaf 2019 a 2023.
Dengys data a gafwyd gan Opinion Research Service nad oedd 23% o denantiaid sydd ag ôl-ddyledion ar hyn o bryd yn y sefyllfa hon cyn symud i'r Credyd Cynhwysol.
Rydym yn bryderus y gallai'r cynlluniau wthio nifer sylweddol fwy o denantiaid i ddyled os na wneir newidiadau i'r polisi.
Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ohirio ac ailystyried cynlluniau i sicrhau fod y polisi yn addas i'r diben cyn ei ymestyn yn llawn.
Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni:
"Mae effaith Credyd Cynhwysol yn glir er mai dim ond i 11% o'r hawlwyr yng Nghymru mae wedi ei ymestyn ar hyn o bryd. Mae tenantiaid yn cael anhawster clirio ôl-ddyledion rhent a achoswyd gan sioc ariannol ddechreuol hawlio Credyd Cynhwysol, er bod cymdeithasau tai yn gwneud eu gorau i gefnogi tenantiaid gyda chefnogaeth a chyngor ar drefnu arian.”