CCC yn cyhoeddi ymateb i'r Adolygiad Tai Fforddiadwy
Tystiolaeth i'r adolygiad o dai fforddiadwy yn dangos y bydd mwy o hyblygrwydd a chydweithio yn galluogi cymdeithasau tai Cymru i ateb yr uchelgais am gyflenwad
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei ymateb i'r Galwad am Dystiolaeth gan yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru.
Galwodd corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru am yr Adolygiad ym mis Tachwedd i alluogi cymdeithasau tai Cymru i gyflawni ei weledigaeth i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.
Mae ymateb CHC yn cynnwys cyfraniad gan dros 200 o bobl a weithiodd yn y sector tai yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn datgelu nifer o rwystrau i ddiwallu'r angen am dai, yn cynnwys y system cynllunio, prinder sgiliau a'r dull presennol o ddosbarthu grantiau.
Casgliad y corff aelodaeth yw fod angen mwy o hyblygrwydd a chydweithio i alluogi'r sector i gyflawni ei weledigaeth o adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.
Mae CHC wedi dynodi cyfleoedd i gymdeithasau tai uchafu eu potensial i gyflawni'r weledigaeth.
Mae hyn yn cynnwys galw am i gymdeithasau tai gael mwy o hyblygrwydd wrth osod rhenti; mwy o gydweithio i oresgyn prinder sgiliau ac ymestyn capasiti ariannol; cyrff sector cyhoeddus i gynnig mwy o dryloywder ar argaeledd tir a'r potensial i gyrff trosglwyddo stoc adeiladu o leiaf 3,000 o gartrefi ychwanegol drwy sicrwydd hirdymor am eu cyllid.
Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Fe wnaethom alw am yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru er mwyn adeiladu amgylchedd polisi sy'n galluogi cymdeithasau tai i gyflawni gweledigaeth 'Gorwelion Tai' o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb , ac rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi mynd â'r maen i'r wal a mynd ati i gomisiynu'r adolygiad.
“Rydym yn sector gydag uchelgeisiau enfawr, ond nifer o heriau a rhwystrau i'w goresgyn i'w cyflawni. Dengys ymateb y sector i Alwad Dystiolaeth y Panel Annibynnol ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn esblygu ac addasu'r ffordd y gweithiwn neu mae perygl y bydd yr argyfwng tai yn parhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae ein hargymhellion yn anelu bod yn adeiladol ac uchelgeisiol, a chynnig datrysiadau gwirioneddol. Os cânt eu gweithredu, gobeithiwn y byddant yn ein paratoi i fod hyd yn oed yn gryfach a chadarnach fel sector, fel y gallwn ateb y galw am gyflenwad tai a chreu'r cartrefi ansawdd uchel a fforddiadwy mae Cymru eu hangen."
Cyflwynodd nifer o sefydliadau o bob rhan o Gymru dystiolaeth i Banel Annibynnol yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy a gaiff ei gadeirio gan Lynn Pamment, uwch bartner ac Arweinydd Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus PWC.
Caiff casgliadau cynnar y dystiolaeth eu datgelu ym mis Tachwedd yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru, a chyhoeddir yr argymhellion terfynol ym mis Ebrill.