Jump to content

21 Gorffennaf 2017

Cartrefi LoCal ar gyfer pobl leol...




Mae'r diweddaraf yn ein cyfres o flogiau yn canolbwyntio ar ymagweddau arloesol at gyflenwi tai yn canolbwyntio ar y model a ddilynir gan LoCalHomes, rhan o gymdeithas tai Accord, darparydd tai a gofal cymdeithasol, sy'n gweithio yng nghanol Lloegr ac yn rheoli 13,000 o gartrefi fforddiadwy a gofal cymdeithasol i 80,000 o bobl.


Daeth John Bedford, Cyfarwyddwr Prosiect Datblygu, arweinydd hynaws y prosiect, i gwrdd â fi yn Walsall lle mae ffatri LoCal Homes. Dywedodd John fod yr enw LoCal yn gywasgiad o 'Low Carbon Homes Built by Local People for Local Pople'. Mae eu hymagwedd yn un gymdeithasol (mae'r sefydliad wedi cofrestru fel elusen) yn seiliedig ar fodel a welodd Alan Yates, Cyfarwyddydd Gweithredol Adfywio Accord, yn Norwy tra'r oedd yn ymchwilio dulliau modern o adeiladu yn 2004. Mae'r ffatri yn Norwy (https://www.hedalm-anebyhus.no/) wedi cynhyrchu cartrefi ffrâm bren am dros 50 mlynedd a gwnaeth ansawdd a chyflymder eu gwaith argraff ar Accord. Yn dilyn ymweliad gan Accord a chynrychiolwyr cwsmeriaid, archebodd y sefydliad 29 o gartrefi gan y ffatri i ddechrau, gan brofi'r dyfroedd, a chafodd eu synnu gan eu poblogrwydd. Fe wnaethant archebu mwy ond er mwyn ateb y galw mewn modd effeithiol roedd yn glir y byddai angen i Accord atgynhyrchu ymagwedd y Norwyaid. Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Walsall, oedd wedi derbyn grant sylweddol gan Gyngor Walsall i gynhyrchu mwy o swyddi yn eu bwrdeisdref a dan gyfarwyddyd Accord, sefydlodd John a'i dîm ffatri ar gost o tua £870,000 (yn cynnwys peiriannau), a gynhyrchodd ei gartrefi cyntaf yn 2012.


Esboniodd John mai'r weledigaeth ddechreuol oedd cyflenwi rhaglen datblygu'r Gymdeithas ei hun (maent yn awr yn rhoi £15 miliwn y flwyddyn o'u Rhaglenni Cartrefi Fforddiadwy, rhaglen SHG y Deyrnas Unedig, drwy'r ffatri) ond bod y model wedi profi'n boblogaidd iawn ac mae ganddynt bellach gytundebau yn eu lle gyda nifer o wahanol gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i ddarparu cartrefi, gyda rhwng 200-400 o gartrefi wedi’i harchebu ar hyn o bryd. Caiff y ffatri ei modelu i dorri'n wastad hyd yn oed ar lefel cystadleuol isel, felly mae potensial i ysgogi incwm o'u hallbwn a gostwng y gost yr uned yn uchel (er bod John yn awyddus i bwysleisio fod LoCal Homes yn rhedeg ar sail menter gymdeithasol, gydag unrhyw warged yn cael ei roi yn ôl yn y busnes).


Maent yn awr ar y pwynt lle, yn ogystal â chynhyrchu cartrefi, eu bod yn awyddus i gynnig eu gwasanaethau i eraill, fel ymgynghorwyr. Mae'r cysyniad 'Ffatri mewn Blwch' a gynigir gan LoCal Homes yn debygol o fod o gryn ddiddordeb i aelodau CHC. Am ffi, bydd Accord yn sefydlu ffatri i chi, yn cynnwys recriwtio a hyfforddi staff (o fewn ardal y ffatri). Un o elfennau gwirioneddol ddeniadol y dull hwn yw y byddant dros gyfnod yn datblygu rhwydwaith o ffatrïoedd cysylltiedig a all rannu gor-gynhyrchu. Maent wrthi'n trafod y model gyda chonsortiwm yn cynnwys nifer o gymdeithasau tai a'r awdurdod lleol yn ne orllewin Lloegr, gan efallai roi glasbrint ar gyfer sut y gallai aelodau CHC weithio gyda LoCal Homes. Mae John yn awgrymu fod darpar bartneriaid yn ei ystyried fel model mam-long yn cefnogi rhwydwaith o safleoedd cynhyrchu.


Mae'n bwysig nodi nad ydynt yn darparu eitemau gorffenedig yn LoCal Homes: mae eu system panelau (dim modwlar, mae John yn awyddus i bwysleisio) yn cynhyrchu cregyn pren panel caeedig, gyda'r modelau Eco 200 y fersiwn ansawdd uchaf: caiff y cartrefi Eco 200 eu dosbarthu i'r safle mewn paneli caeedig gyda'r insiwleiddiad yn ei le, y cladin allanol wedi'i osod a drysau a fframiau drws allanol wedi'u gosod. Byddai angen i'r datblygydd gaffael contractwr ar gyfer gwaith daear a chwblhau gweddill y cartrefi.


Mae cost cartref* yn cynnwys cludiant (maent yn pentyrru'n daclus ar ben ei gilydd), dylunio (mae John yn rheoli tîm o benseiri mewnol, Indesign, sy'n defnyddio meddalwedd bwrpasol i gynllunio'r cartrefi), ffenestri, drysau, trawstiau to a chodi. Gellir eu darparu ar gost heb fod yn fwy na chartref ac adeiledig yn draddodiadol, ar lefelau presennol y cynhyrchu (200-300 cartref y flwyddyn), ond oherwydd ansawdd uchel y deunyddiau a ddewiswyd mae LoCal Homes wedi sicrhau effeithiolrwydd thermol o 28% am lai na 5% o bremiwm. Drwy adeiladu'r cartrefi hyn gyda'u tîm gwasanaethau adeiladu eu hunain, mae Accord wedi gostwng costau adeiladu gan 10%, gan adeiladu cartrefi ansawdd uwch ar gost is. Fel gyda phob cynhyrchu ffatri, daw effeithiolrwydd cost gyda chynhyrchiant uwch. Yn hollbwysig, gellir cael morgais llawn ar y cartrefi - gwerthodd Accord 17 ar eu datblygiad cyntaf - a chymeradwyaeth y CML a'r LABC.


Fel y soniwyd, mae ansawdd yn uchel - dywedodd John eu bod bob amser yn gor-beiriannu pob agwedd o'u cynnyrch. Gyda 200mm o insiwleiddiad yn y paneli wal, mae'r cartrefi Eco 200 yn cyflawni gwerth 'U' o tua 0.18 o gymharu â 0.35 dan reoliadau adeiladu presennol y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu biliau gwresogi isel: drwy arbrofi gyda batris yn y cartref, mae tîm John wedi llwyddo i sicrhau bil dau danwydd o £37 y mis ar gyfartaledd ar gyfer teulu o 5 mewn tŷ 3 ystafell wely, 3 llawr. Yn nhermau ymwrthedd tân, mae'r ymateb yn galonogol iawn unwaith eto: cynhaliwyd prawf tân mewn amodau labordy ar system Local Homes. Canfu adroddiad ar y prawf, a gynhaliwyd gan wasanaeth tân Warrington, i'r system berfformio’n dda yn y prawf tân 60 munud a bod y system yn dal i fod yn strwythurol gadarn ar ôl 72 munud. Maent wedi cynhyrchu cartrefi gyda systemau chwistrellu, er nad yw hyn yn safonol, a gallant wneud hynny eto. Yn wir, gall eu proses ddylunio fod yn hyblyg i bron unrhyw angen ('cyhyd nad ydyn nhw eisiau adeiladau crwn') ac nid oes unrhyw lyfr patrwm fel y cyfryw. Yn lle hynny, gall y tîm dylunio mewnol atgynhyrchu'r hyn a wnaethant yn y gorffennol, neu gynhyrchu cynlluniau newydd, fel sydd angen.


Yn ogystal â darparu cynnyrch ansawdd uchod, mae dull LoCal Homes yn golygu datblygiad cyflym ar safle. Maent wedi codi cartref mewn dim ond un diwrnod, er bod hyn yn anarferol - fel arfer bydd tîm yn gweithio ar res o gartrefi ar y pryd, gan sicrhau bod cartrefi'n dâl dŵr mewn dau ddiwrnod fesul cartref ar gyfartaledd. Caiff y cartrefi eu cynhyrchu mewn un diwrnod yn y ffatri hefyd.


Mae'r ffatri yn ofod hynod, wedi'i staffio gan dîm o 12 o weithwyr lleol, sydd meddai John yn gweithredu ar lefel effeitholrwydd uchel iawn (dim ond 3% o'r pren a ddefnyddir a gaiff ei wastraffu). Mae swyddi yn y ffatri yn cynnwys pacio insiwleiddiad Rockwool â llaw, gan olygu y gall y cartrefi sicrhau dwysedd uchel iawn o insiwleiddiad. Gan weithio un shifft, 5 diwrnod yr wythnos, gall y tîm gynhyrchu hyd at 275 o gartrefi y flwyddyn o'r ffatri hon er eu bod yn bwriadu symud ar hyn o bryd, er mwyn cynyddu allbwn o hyd at 1,000 cartref y flwyddyn.


Caiff y rhan fwyaf o'r pren y mae'r ffatri yn ei ddefnyddio ei fewnforio o wledydd Llychlyn am resymau ansawdd (maent yn mynnu lefel lleithder o 19%, sydd yn rhwyddaf ei gyflawni gan ddarparwyr ardystiedig FSC o wledydd Llychlyn) ond mae John yn agored i drafodaethau gyda darparwyr pren yng Nghymru, gan dderbyn fod y driniaeth sydd ei angen i cael pren Cymru i'r un safon yn debygol o ychwanegu at y gost.


Un o uchafbwyntiau'r ymweliad yw taith o stad gyfagos ('Innovation Way') sy'n cynnwys dros 100 cartref a adeiladwyd gan LoCal Homes. Mae'r cartrefi yn ddeniadol, gan ddod mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau, yn cynnwys cartrefi teulu, bloc bychan o fflatiau fforddiadwy a chartrefi wedi’u haddasu ar gyfer pobl anabl. Ymddengys fod cwsmeriaid wrth eu bodd gyda nhw, a dangosir hynny yn y nifer isel sy'n symud ohonynt. Mae lefel y sylw i fanylion yn y cartrefi yn uchel; cafodd un ongl-to neilltuol o anarferol ei hesbonio fel bod yr ongl ar gyfer cael yr effeithiolrwydd uchaf o'r paneli ffotofoltaig sy'n gysylltiedig.


"Nid dyma'r holl ateb i ddarparu cartrefi fforddiadwy", medai John, "ond mae'n 80% o'r datrysiad."


* Cadwyd y gost o'r erthygl hon am resymau masnachol, ond gall LoCal Homes dddatgelu'r gost os gwneir cais.