Cartrefi Cymunedol Cymru yn penodi Cyfarwyddydd Polisi newydd
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, wedi penodi Cyfarwyddydd Polisi newydd.
Ar hyn o bryd mae Clarissa Corbisiero-Peters yn Bennaeth Polisi y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol. Yn y swydd yma, mae Clarissa’n gweithio gyda chymdeithasau tai i ddylanwadu ar y llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol eraill ar faterion polisi tai yn cynnwys ailddosbarthu, yr Hawl i Brynu a diwygio lles. Mae Clarissa wedi gweithio’n flaenorol i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chynghorau Hounslow a Birmingham.
Dywedodd Clarissa: “Rwy’n falch iawn i gael fy mhenodi yn Gyfarwyddydd Polisi Cartrefi Cymunedol Cymru. Edrychaf ymlaen at ymuno â thim sydd eisoes yn arwain y sector tai yng Nghymru ac yn cyflawni pethau gwych. Er fy mod yn drist i adael y tim yn y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn creu amgylchedd gweithredu sy’n cefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru i barhau i fuddsoddi yn eu cymunedau a newid bywydau pobl.”
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: “Bydd Clarissa yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r swydd yn ogystal ag angerdd go iawn i roi aelodau yng nghanol ein holl waith. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu i CHC.”
Bydd Clarissa, sy’n hanu o Abertawe, yn arwain tim Polisi a Materion Allanol CHC. Mae CHC yn canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau yn dilyn yr etholiad i sicrhau fod tai’n parhau’n fater allweddol yng Nghymru pan fydd y llywodraeth newydd wedi ei hethol, a bydd gan Clarissa rol ganolog wrth arwain ar y blaenoriaethau hyn.
Bydd Clarissa yn dechrau ei swydd gyda CHC ddechrau mis Gorffennaf.