Jump to content

29 Gorffennaf 2016

Cartrefi Cymunedol Cymru yn cydweithio gyda Smart Energy GB i ledaenu'r gair am fesuryddion deallus

Mae Smart Energy GB, llais cyflwyno mesuryddion deallus ym Mhrydain, wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, corff ymbarél cymdeithasau tai yng Nghymru, i gyrraedd miloedd o denantiaid tai cymdeithasol ar draws Cymru.

Mae deg y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn cartrefi a gaiff eu rheoli gan aelodau Cartrefi Cymunedol Cymru. Bydd y bartneriaeth hon yn galluogi swyddogion tai ledled Cymru i rannu gwybodaeth ar fesuryddion deallus a'u manteision gyda'u tenantiaid.

Caiff pob cartref yng Nghymru a gweddill Prydain Fawr gynnig mesurydd deallus, ar ddim cost ychwanegol, erbyn 2020. Mae mesuryddion deallus yn golygu diwedd i amcangyfrif biliau ac yn dangos i bobl faint o ynni maent yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau, bron iawn mewn amser real. Bydd hyn yn golygu gwneud blaendaliad am ynni yn rhatach ac yn fwy cyfleus.

Bydd Smart Energy GB a Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhoi'r wybodaeth mae swyddogion tai ei hangen i sicrhau y caiff eu tenantiaid eu hysbysu am fesuryddion deallus drwy:

  • Gwybodaeth yng nghylchlythyrau Cartrefi Cymunedol Cymru a negeseuon ar y wefan, a gaiff eu darllen gan fwy na 30,000 o swyddogion tai
  • Sesiynau hyfforddiant i alluogi swyddogion tai i rannu gwybodaeth yn uniongyrchol gyda'u cydweithwyr a'u tenantiaid
  • Cynadleddau a digwyddiadau ar gyfer arweinwyr cymdeithasau tai a staff
  • Gwybodaeth yng nghylchgronau allweddol sector tai Cymru

Dywedodd Sacha Deshmukh, Prif Weithredydd Smart Energy GB: “Caiff mesuryddion deallus eu cynnig i bob aelwyd, yn cynnwys y rhai sy'n rhentu eu cartrefi, erbyn 2020. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod tenantiaid cymdeithasau tai yn gwybod y gallant fanteisio o gyflwyno'r mesuryddion, ynghyd â rhentwyr preifat a pherchnogion tai. Drwy'r bartneriaeth hon gyda Cartrefi Cymunedol Cymru gallwn helpu miloedd o bobl yng Nghymru i hawlio eu mesuryddion deallus a rheoli eu defnydd o nwy a thrydan."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae ein haelodau yn ymroddedig i ddarparu cartrefi cynnes, fforddiadwy i'w tenantiaid a gweithio gyda nhw ar bob agwedd o'u tenantiaethau. Mae'n gyffrous bod yn rhan o bartneriaeth mor rhagweithiol ac edrychwn ymlaen at gefnogi aelodau wrth i fesuryddion deallus gael eu hcyflwyno ar draws Cymru."