Jump to content

04 Mawrth 2016

Cannoedd i fynychu rali tai fwyaf Cymru i dynnu'r sylw at dai

Disgwylir i gannoedd o bobl fynychu rali Cartrefi i Gymru a gynhelir yng Nghaerdydd heddiw (4 Mawrth).

Bydd cefnogwyr yn teithio o bob rhan o Gymru i ddweud y dylai tai fod yn fater gwleidyddol allweddol yn etholiadau mis Mai i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cychwyn heddiw am 1pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd gydag areithiau gan sefydliadau megis Youth Cymru, RCN Cymru a'r Eglwys yng Nghymru cyn i ymgyrchwyr orymdeithio i'r Ais yng nghanol dinas Caerdydd.

Nod yr ymgyrch yw rhoi sylw i sut mae'r argyfwng tai yn effeithio mewn gwahanol ffyrdd ar bobl yng Nghymru.

Mae'r argyfwng tai yn effeithio ar Emma Assender, o Gwmbrân. Er iddi brynu ei chartref ei hun pan oedd y farchnad tai yn tyfu'n gyflym, ni allai fynd ymhellach ar ôl i'r dirwasgiad daro. Yn 41 oed, yr unig ddewis oedd ar gael iddi mewn gwirionedd oedd dod yn 'blentyn bwmerang' a dychwelyd i fyw at ei rhieni. Dywedodd: "Rwy'n cefnogi Cartrefi i Gymru oherwydd nad yw bod mewn swydd lawn-amser a thrin fy arian yn gyfrifol yn dal i warantu fy nghartref fy hun i mi. Mae cartref yn ganolog i bopeth sy'n arwain at lesiant da a chymryd rhan weithgar yn y gymuned a chymdeithas. Mae pawb angen cyfle i gael hyn, a dylai tai fod yn fwy fforddiadwy i fwy o bobl."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru ac aelod o Cartrefi i Gymru: "Mae'r argyfwng tai yn fwy nag am dai yn unig - mae'n ymwneud â chartrefi, mae'n ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â chymunedau. Mae cartref yn un o flociau adeiladu mwyaf sylfaenol ond mwyaf hanfodol bywyd ac nid oes digon o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Mae Cartrefi i Gymru yn siarad gydag un llais ac yn galw ar bob gwleidydd i ymrwymo i ddod â'r argyfwng tai i ben ac adeiladu Cymru gryfach.

"Mewn pôl diweddar a gynhaliwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, roedd tai yn chweched ar restr blaenoriaethau etholwyr Cymru cyn etholiadau mis Mai. Y pum blaenoriaeth uchaf oedd Iechyd, Mewnfudo, Economi, Lles ac Addysg - gwyddom fod tai fforddiadwy ansawdd da yn allweddol i'r blaenoriaethau hyn a dyna beth fyddwn yn ei hyrwyddo yn rali Cartrefi i Gymru heddiw."

Ychwanegodd Kevin Howell, Cyfarwyddydd CIH Cymru ac aelod o Cartrefi i Gymru: "Mae'r argyfwng tai yng Nghymru yn dal yn rhy real o lawer. Mae prisiau tai wedi cynyddu gan 16% ers 2008. Mae 152,000 o bobl ifanc 20-34 oed yn dal i fyw gyda'u rhieni, a bu 8,596 o deuluoedd ar y rhestr aros tai ers cyn yr etholiad diwethaf. Bydd rali heddiw yn clywed gan rai o'r bobl y mae'r argyfwng tai yn effeithio arnynt ac mae eu straeon yn thema gyfarwydd ledled Cymru. Mae neges yr ymgyrch yn syml - mae'n galw ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i ymrwymo i gyhoeddi cynllun uchelgeisiol ar gyfer tai fel rhan o'r rhaglen lywodraethu newydd sy'n nodi sut y byddant yn dod â'r argyfwng tai yng Nghymru i ben."

Mae dros fil o bobl wedi cefnogi'r ymgyrch ar-lein ac mae'r cefnogwyr enwog yn cynnwys yr actor Hollywood Michael Sheen, y diddanwr enwog Max Boyce, y digrifwr Rhod Gilbert, y cynhyrchydd ffilm ac actor Jonny Owen a'r actores ac enillydd gwobr BAFTA Vicky McClure.

Arweinir ymgyrch Cartrefi i Gymru gan gynghrair o wyth sefydliad traws-ddaliadaeth - Cartrefi Cymunedol Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Tenantiaid Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl, Sefydliad Brenhinol Cynllunio Tref, Care & Repair Cymru a Shelter Cymru.