Canfyddiadau diweddaraf gan y Pecyn Cymorth Budd i'r Gymuned Gwerth Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (15 Mehefin) y canfyddiadau o Becyn Cymorth Buddion Cymunedol Gwerth Cymru.
Y deilliannau allweddol o'r ddyfais mesur a ddychwelwyd yw:
- y sector tai yng Nghymru a ddychwelodd dros 40% o'r holl fesurau;
- mae contractau cymdeithasau tai yn werth dros £273 miliwn;
- ailfuddsoddwyd 83% o hyn yng Nghymru;
- cafodd 461 o bobl dan anfantais eu helpu i gyflogaeth a darparwyd dros 13,000 wythnos o hyfforddiant - nifer llawer uwch nag a ragwelwyd o'r lefel yma o fuddsoddiad*
* Fel canllaw byddai Gwerth Cymru yn ystyried bod cyflawni un swydd a/neu 52 wythnos o hyfforddiant fesul £1 miliwn o wariant contract yn norm. .
Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (15 Mehefin) yn nigwyddiad hanner diwrnod Gweithdy Arfer Da Buddion Cymunedol.
Dywedodd Hayley Macnamara, Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC): "Mae'r canfyddiadau diweddaraf o Becyn Cymorth Buddion Cymunedol Gwerth Cymru yn dangos ymhellach gyfraniad economaidd a chymdeithasol sylweddol cymdeithasau tai Cymru yn ychwanegol a thu hwnt i frics a morter.Mae'r ffigurau'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus cymdeithasau tai i wneud i bob punt fynd ymhellach er budd cymunedau a phobl ar draws Cymru. Dangosodd canfyddiadau blaenorol o adroddiad yr Uned Ymchwil i Economi Cymru sut mae'r sector yn hybu economi Cymru gan fwy na £1bn. Mae'n cyflogi 8,800 o bobl ac am bob un swydd uniongyrchol a ddarperir, caiff bron ddwy swydd eraill eu cefnogi yn economi Cymru - sy'n gyfwerth â thua 23,000 o swyddi yng Nghymru.Buom yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i annog y nifer o becynnau cymorth a ddychwelwyd gan landlordiaid, i roi tystiolaeth bellach o'n heffaith a hoffem ddiolch i'r sector am ei gefnogaeth yn gwneud hyn."
Sut mae'n gweithio yn ymarferol? Mae'r astudiaethau achos a atodir gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Tai Newydd a Cartrefi NPT yn dangos eu dull gweithredu ar gyfer cymalau budd cymunedol.