Buddsoddi mewn tai yn gwneud synnwyr busnes yn ôl arweinwyr diwydiant yng Nghymru
Mae rhai o brif arweinwyr busnes Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch Cartrefi i Gymru.
Mae amrywiaeth o arweinwyr busnes Cymru yn cynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, CBI Cymru, ICE Cymru, Pro Stel Engineering a'r Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru wedi ychwanegu eu llais i ymgyrch Cartrefi i Gymru drwy gyfryngau cymdeithasol i gefnogi'r angen am fuddsoddiad parhaus mewn tai.
Prif nod Cartrefi yng Nghymru yw galw am i dai fod yn fater gwleidyddol allweddol cyn yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai. Mae'r ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun uchelgeisiol ar gyfer tai fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu newydd fydd yn nodi sut y byddant yn dod â'r argyfwng tai i ben i Gymru.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a llefarydd Cartrefi i Gymru: "Mae momentwm ymgyrch Cartrefi i Gymru wedi parhau yn dilyn ein rali yng Nghaerdydd fis diwethaf, a roddodd sylw i ganlyniadau argyfwng tai Cymru ar bobl a busnesau o amgylch y wlad. Rydym yn hynod falch fod arweinwyr diwydiant yng Nghymru wedi rhoi eu cefnogaeth i Cartrefi i Gymru. Mae adeiladu cartrefi yn gwneud synnwyr busnes. Mae buddsoddi mewn tai yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth, yn ogystal ag adfywio cymunedau a gwella bywydau pobl. Mae buddsoddiad mewn tai yn creu effaith ton yn yr economi lleol a chenedlaethol, ac mae'r sector tai yn rhoi ysgogiad economaidd hollbwysig i Gymru.
Dywedodd Emma Watkins, Cyfarwyddydd CBI Cymru ac un o gefnogwyr Cartrefi i Gymru: "Nid ydym wedi bod yn adeiladu'r cartrefi newydd mae Cymru eu hangen am ormod o flynyddoedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn prisiau, sy'n tanseilio ein gallu cystadleuol economaidd ac enw da Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddiad. O fonwsau i elusennau, ac o Gymru i San Steffan, mae consensws clir fod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi i fodloni galw, eto'r ydym yn dal heb fod yn adeiladu digon i ddiwallu ein hanghenion. Mae angen gweithredu hyderus ar draws y sbectrwm gwleidyddol i gael y maen i'r wal a chael Cymru i adeiladu."
Wrth edrych yn benodol ar y sector cymdeithasau tai, dywedodd Mr Ropke: "Y llynedd yn unig, fe wnaeth y sector cymdeithasau tai roi £1.1bn yn uniongyrchol i'r economi. Am bob £1 a wariwyd, cadwyd 80 ceiniog yn economi Cymru. Roedd cyfanswm cyfraniad y sector i economi Cymru yn 2015, yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn gyfanswm o £2bn oedd yn cynnwys adeiladu, cynnal a chadw, adfywio, cyflogaeth, nwyddau a gwasanaethau cyflenwyr a llawer mwy. Mae ein sector hefyd yn gyflogwr sylweddol yng Nghymru - mae bron 9,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn tai yng Nghymru ac, am bob un swydd, caiff 1.5 arall eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru."
Ychwanegodd Stuart Ropke: "Nid yw'r argyfwng tai yng Nghymru ynglŷn â thai yn unig - mae ynglŷn â phobl, mae ynglŷn â chymunedau. Rydym wedi adeiladu 9,108 o gartrefi newydd fforddiadwy ers 2011; fodd bynnag, i alw'r galw presennol yng Nghymru, mae angen 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Gwyddom na allwn ddatrys yr argyfwng tai ar ein pen ein hunain a dyna pam y ffurfiwyd cynghrair Cartrefi i Gymru i siarad gydag un llais ac i sicrhau partneriaethau gyda sectorau allweddol eraill megis diwydiant."
Daw cefnogaeth o'r byd busnes ar gyfer ymgyrch Cartrefi i Gymru yn ychwanegol at y miloedd a fu'n bresennol mewn rali yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis, ar-lein a drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae cefnogwyr enwog Cartrefi i Gymru yn cynnwys yr actor Michael Sheen, y diddanwr Max Boyce, y digrifwr Rhod Gilbert, yr actor a'r cynhyrchydd Jonny Owen a'r actores ac enilllydd gobr Bafta, Vicky McClure. Mae sefydliadau eraill sy'n cefnogi'n cynnwys y Coleg Brenhinol Nyrsio, yr Eglwys yng Nghymru a Youth Cymru.
Arweinir ymgyrch Cartrefi i Gymru gan gynghrair o wyth sefydliad traws-daliadaeth - Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Tenantiaid Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl, Sefydliad Brenhinol Cynllunio Tref, Care & Repair Cymru a Shelter Cymru.