Jump to content

15 Mawrth 2019

Brexit yn golygu Brexit?

Brexit yn golygu Brexit?
Felly dyma'r wythnos pan oedd popeth yn ymwneud â Brexit i fod i gael ei benderfynu o'r diwedd a byddem i gyd yn gallu cysgu'n dawel yn ein gwelyau. Heb fod yn annisgwyl efallai, nid dyna ddigwyddodd a chafodd y gwneud penderfyniadau ei ymestyn dros wythnos gynhyrfus, flinderus ac anodd. Fe ddaeth yr un bleidlais a allai fod wedi dod yn dair pleidlais wneud hynny (fel y disgwyliem mewn gwirionedd) wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn cytundeb May, yn erbyn Brexit heb gytundeb (p'un ai yw hynny'n gadael ar 29 Mawrth neu rywbryd arall) ond i gefnogi gofyn i'r Undeb Ewropeaidd am ymestyn Erthygl 50.


Rhag ofn i chi rywsut lwyddo i osgoi'r newyddion, y rhyngrwyd a siarad gydag unrhyw un yr wythnos hon, cafodd cytundeb May ei roi'n ôl ar y bwrdd ddydd Mawrth, ddeufis ar ôl iddo gael ei drechu mewn modd mor llethol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ymddangosai ei bod yn gobeithio y byddai bygythiad bythol-bresennol Dim Cytundeb ynghyd ag ychydig o fân newidiadau am y 'backstop' bondigrybwyll yn ddigon i annog mwy o Aelodau Seneddol i bleidleisio dros ei chytundeb, hyd yn oed os nad i'w chefnogi hi yr oeddent yn pleidleisio ond i wrthwynebu Dim Cytundeb. Gallai hyn fod wedi bod yn wir i ychydig o Aelodau Seneddol, wrth i gytundeb May fethu ychydig yn llai llethol, gan 149 pleidlais, o gymharu gyda 230 yn y bleidlais cyntaf. Mae ychydig dros bythefnos i fynd tan ein bod i adael yr Undeb Ewropeaidd, felly efallai bod hyd yn oed yr Aelodau Seneddol sydd fwyaf ofnus o risg wedi penderfynu betio pob ffordd drwy gefnogi ei chytundeb, rhag ofn mai'r dewis arall go iawn yw Dim Cytundeb.


Mae'r chwarae gemau yr ymddengys iddo fod yn digwydd o amgylch Brexit yn gwneud rhywun yn anesmwyth; mae cymaint ohono'n ymddangos i fod yn seiliedig ar bobl yn gorfod dyfalu beth y credant fydd y canlyniad lleiaf gwael yn hytrach na phleidleisio dros yr hyn maent yn wirioneddol gredu ynddo. Gwn y gall hyn fod yn aml yn wir mewn gwleidyddiaeth, ond mae'n ymddangos yn boenus o glir nawr fod Aelodau Seneddol mor ansicr â'r gweddill ohonom a bod May yn chwarae gêm gymhleth o Llwfrgi.


Gwyddom bellach fod cytundeb Theresa May yn annerbyniol i Aelodau Seneddol, fel gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ond cytunwyd mai ymestyn Erthygl 50 yw'r dewis gorau ar y cam hwn. Fodd bynnag, mae'n anodd eistedd yn gysurus ar ôl y bleidlais i ymestyn Erthygl 50 gan nad ydym ddim pellach ymlaen mewn gwirionedd. Mae'r estyniad yn seiliedig i ddechrau ar gael cytundeb erbyn 20 Mawrth a bydd yr estyniad yn gweithredu fel amser ychwanegol i gadarnhau deddfwriaeth. Os na chytunir ar gytundeb wedyn, rhaid aros i weld beth fydd y cam nesaf. Yn eironig, mae'r penderfyniad am yr estyniad yn awr yn nwylo'r Undeb Ewropeaidd fydd yn gallu penderfynu am ba mor hir, os o gwbl, y bydd yr estyniad. Maent eisoes wedi'i gwneud yn glir na roddir estyniad heb reswm da a bydd angen i'r Senedd ddangos diben yr amser ychwanegol yma os disgwyliant ei gael, felly os nad oes cytundeb wedi'i gytuno efallai y byddant yn fwy amharod i gytuno ar estyniad.


O gofio fod etholiadau'r Undeb Ewropeaidd ym mis Mai, mae'n debygol os yw'r UE yn cynnig estyniad, y bydd naill ai'n fyr iawn (efallai fis yn unig) neu flwyddyn neu ddwy. Ychydig iawn sy'n arfer pleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd (y canran a bleidleisiodd yn y Deyrnas Unedig yn yr etholiadau diwethaf i'r Undeb Ewropeaidd oedd 35.6%) felly mae buddsoddi'r arian mewn cynnal etholiad gan wybod y bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn eu swyddi am gyfnod mor fyr yn wastraff enfawr o arian. Mae'n debygol y byddai'r nifer sy'n pleidleisio yn y Deyrnas Unedig hyd yn oed yn is nag mewn etholiadau blaenorol; mae pobl wedi cael llond bol a gallant weld pa mor ddibwynt yw anfon Aelodau Seneddol Ewropeaidd i eistedd yn Ewrop heb unrhyw fwriad o fod yn rhan o'r senedd honno yn yr hirdymor. Gallai'r estyniad yma gynnig ychydig o oedi i ni, ond yn bwysicaf oll mae angen i Aelodau Seneddol sicrhau nad ydynt yn gorffwys ar eu rhwyfau a mynd ymlaen gyda'r holl waith arall a esgeuluswyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, a gwthio Brexit i gefn eu meddyliau, gan felly olygu ein bod yn union yr un sefyllfa ar ddiwedd yr estyniad.


Bu'n wythnos anodd a byddwn yn dychmygu fod Aelodau Seneddol yn gobeithio am ryw fath o saib yr wythnos nesaf, ond o gofio fod pleidlais arall yn debygol ar gytundeb May, alla'i ddim dychmygu y byddant yn cael y seibiant mae'n nhw'n debygol o fod yn dyheu amdano.