Blog Gwadd | Tu Hwnt i’r Argyfwng: Rôl Ehangach ar gyfer Tai Dan Arweiniad y Gymuned yng Nghymru
Mae Tu Hwnt i’r Argyfwng: Integreiddio Tai Dan Arweiniad y Gymuned i System Tai a Digartrefedd Cymru, a lansiwyd yn Un Gynhadledd Tai Fawr Cartrefi Cymunedol Cymru, yn ymchwilio sut y gallai tai dan arweiniad y gymuned gryfhau system tai Cymru a chynnig opsiynau tai sy’n canoli mwy ar y person ar gyfer pobl na chaiff eu hanghenion eu diwallu bob amser drwy’r llwybrau presennol.
Wedi’i lunio gan Joy Kent, mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, yn ogystal â sylwadau mwy na 50 o bobl ar draws y sectorau tai, digartrefedd, gofal, cymorth a chymunedol. Mae’n dangos potensial modelau dan arweiniad y gymuned i gynnig dull gweithredu mwy hyblyg ac ymatebol, gan roi mwy o ddewis, rheolaeth a dylanwad i bobl am ble a sut maent yn byw, gan feithrin y sefydlogrwydd, perthyn a chysylltiadau cymdeithasol sy’n hanfodol i lesiant ac annibyniaeth hirdymor.
Yn bwysig, mae’r adroddiad yn glir nad yw tai dan arweiniad y gymuned yn disodli tai cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd na gwaith awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn hytrach, mae’n dadlau y gall ategu darpariaeth bresennol drwy gyflwyno opsiynau tai, adnoddau a galluedd cymunedol ychwanegol i system sydd dan bwysau. Gallai hyn fod yn neilltuol o werthfawr i bobl sydd mewn risg o fod yn ddigartref, y rhai sy’n gadael lleoliadau sefydliadol neu unigolion sy’n edrych am amgylchedd tai mwy cefnogol gyda gwreiddiau lleol.
Mae’n adroddiad yn dangos potensial modelau dan arweiniad y gymuned i gynnig dull gweithredu mwy hyblyg ac ymatebol, gan roi mwy o ddewis, rheolaeth a dylanwad i bobl am ble a sut maent yn byw, gan feithrin y sefydlogrwydd, perthyn a chysylltiadau cymdeithasol sy’n hanfodol i lesiant ac annibyniaeth hirdymor.
Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn dynodi rhwystrau sylweddol i dwf. Ynghyd â heriau yn ymwneud â chynllunio, sonnir fod argaeledd tir a chyllid, diffyg ymwybyddiaeth ac ymgysylltu anghyson gan bartneriaid statudol allweddol – yn cynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig – yn ffactorau sy’n atal ehangu tai dan arweiniad y gymuned. Geilw’r adroddiad am bartneriaethau cryfach rhwng cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol i helpu datgloi potensial y sector a chreu llwybrau cliriach ar gyfer cydweithio.
Ymysg ei argymhellion mae strategaeth tai genedlaethol dan arweiniad y gymuned, cefnogaeth ymroddedig o fewn awdurdodau lleol, diwygio cynllunio, dulliau cyllido arloesol a fframweithiau partneriaeth cryfach. Ar gyfer LCC, mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfle i weithio gyda chymunedau i ddatblygu dulliau newydd a lleol sy’n rhoi anghenion, dymuniadau a llesiant pobl wrth ganol darpariaeth tai.
Wrth i’r pwysau ar wasanaethau tai barhau, mae Tu Hwnt i’r Argyfwng yn cyflwyno achos cryf dros dai dan arweiniad y gymuned fel rhan o ddull mwy ataliol, sy’n canolbwyntio ar y person – un sy’n grymuso pobl a chymunedau tra’n ategu rôl hanfodol landlordiaid cymdeithasol. Yr her i’n sector yn awr yw symud o ymwybyddiaeth i weithredu. P’un ai drwy bartneriaethau, cyfleoedd tir, cymorth datblygu neu ymgysylltu strategol, mae gan LCC rôl allweddol i’w chwarae wrth greu’r amodau i dai dan arweiniad y gymuned ffynnu.
Cysylltwch â casey.edwards@cwmpas.coop i drafod cyfleoedd neu gael mwy o wybodaeth.