Beth yw adroddiadau SECR ac ESOS, ac ydych chi yn cydymffurfio?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer Sero Net sy’n gosod polisïau a chynigion ar gyfer datgarboneiddio pob sector o economi’r Deyrnas Unedig i gyrraedd ein targedau sero net erbyn 2050.
Mae sawl dull y gall eich sefydliad eu cymryd i gyrraedd y targed hwn, ond mae’n bwysig gwybod lle i ddechrau a deall y gwahaniaethau yn yr adroddiadau.
Bydd y blog hwn yn amlinellu’r gwahaniaethau allweddol rhwng adroddiadau SECR ac ESOS, yr heriau a all eich wynebu a’r canlyniadau cadarnhaol y gellir eu cyflawni drwy gyfuno’r gofyniad adrodd.
Beth yw adroddiadau ESOS?
Mae’r Cynllun Cyfle Arbedion Ynni (ESOS) yn gynllun asesu ynni gorfodol ar gyfer sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwyso.
Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gweinyddu’r cynllun yn y DU.
Meini Prawf ESOS
Mae ESOS yn weithredol ar gyfer sefydliadau mawr yn y DU. Er ei fod yn effeithio ar nifer fawr o fusnesau, gall hefyd fod yn weithredol i gyrff nid-er-elw a rhai tu allan i’r sector cyhoeddus.
Y meini prawf ar gyfer ESOS Cam 3 oedd:
- Cyflogi 250 neu fwy o bobl
neu
- Trosiant blynyddol o fwy na £44 miliwn a chyfanswm mantolen flynyddol o fwy na £38 miliwn.
Cafodd rhai o’r newidiadau arfaethedig i ESOS Cam 4 eu gohirio, yn cynnwys yr angen i gynnwys sero net a’r trothwyon cymhwyster sy’n alinio gyda SECR. Bwriedir gweithredu rhai newidiadau sy’n cynnwys dileu rhai llwybrau cydymffurfiaeth, cynnwys cynnydd ar ymrwymiadau’r cynllun gweithredu a’r angen roi esboniadau lle na chafodd ymrwymiadau eu cyrraedd. Y dyddiad cydymffurfiaeth ar gyfer Cam 4 yw 5 Rhagfyr 2027.
Asesiadau ESOS
Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n cymhwyso am ESOS lenwi asesiad bob 5 mlynedd sy’n cynnwys cynnal archwiliadau ynni o adeiladau, prosesau diwydiannol a thrafnidiaeth i ddynodi’r potensial ar gyfer gostyngiadau ynni a’r effaith y gall hynny ei gael ar y gwariant ynni blynyddol.
Cynlluniwyd archwiliad ESOS i ddynodi mesurau wedi eu teilwra ac effeithlon o ran cost i alluogi sefydliadau i arbed ynni a dynodi ymarferion cost posibl.
Amcangyfrifir fod yr arbedion o weithredu’r argymhellion yn sylweddol mwy na chostau’r archwiliad.
Crynodeb o Gamau
1. Penderfynu ar eich llwybr(au) i gydymffurfiaeth a phenodi asesydd arweiniol.
2. Cyfrif eich cyfanswm defnydd ynni.
3. Dynodi eich meysydd o ddefnydd ynni sylweddol.
4. Cyfrif eich cymarebau dwysedd ynni.
5. Cynnal unrhyw archwiliadau ynni ESOS angenrheidiol (10% o’r stad).
6. Llenwi adroddiad yr ESOS a’i lofnodi gan gyfarwyddwr.
7. Hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd.
Heriau Posibl am ESOS
Ar gyfer llawer o sefydliadau gellir ystyried ESOS fel straen ychwanegol ar adnoddau a gall sicrhau fod gennych brif asesydd gwybodus, cymwys a phrofiadol ostwng straen.
Dylai cyflwyniad i ESOS fod yn adroddiad ar ddefnydd ynni blynyddol y sefydliad a dynodi newidiadau y gellid eu gwneud i ostwng defnydd, naill ai drwy newid ymddygiad, mesurau rheoli ychwanegol neu fuddsoddiadau cyfalaf.
Mae cynnal archwiliadau adeilad neu safle yn rhan fawr o’r gost i lenwi asesiad ESOS, a gall olygu llawer o deithio ledled y DU ar gyfer sefydliadau cenedlaethol.
Mae casglu data hefyd yn allweddol gan po fwyaf llyfn y broses, y lleiaf o amser y bydd yn ei gymryd i archwilio cyfanswm defnydd ynni y sefydliad ar gyfer y cyfnod adrodd.
Beth yw Adroddiadau SECR?
Cyflwynwyd Adroddiadau Symlach Ynni a Charbon (SECR) eu cyflwyno yn 2019 yn lle’r cynllun Ymrwymiad Gostwng Carbon (CRC).
Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu fod angen i gwmnïau sy’n cymhwyso roi adroddiad ar eu defnydd ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Ei ddiben yw cynyddu’r ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a’i effaith ar y byd. Bydd sefydliadau wedyn yn gwybod am eu allyriadau carbon cyfredol ac effaith eu penderfyniadau.
Beth yw Gofynion SECR?
Mae tua 12,000 o gwmnïau yn y DU yn gymwys am SECR.
Bydd angen i chi gydymffurfio gyda SECR os ydych yn cyflawni 2 o’r 3 maen prawf canlynol:
Trosiant o £36m neu fwy
Mantolen o £18m neu fwy
Cyflogi 250 neu fwy o weithwyr
I gydymffurfio, mae angen i gwmnïau fesur a meintioli eu allyriadau carbon Cwmpas 1 a Chwmpas 2 a defnyddio’r data hwn i gyfrif metrig dwysedd.
Arfer gorau yw cynnwys manylion camau gweithredu gan gwmnïau i ostwng eu metrig dwysedd dros gyfnod, fodd bynnag nid yw hyn yn orfodol.
Nid yw cynnwys allyriadau Cwmpas 3 yn orfodol ond caiff ei ystyried yn arfer gorau lle mae’r data ar gael.
Beth yw Amserlen Cydymffurfiaeth SECR?
Nid oes gan SECR ddyddiad cau pendant. Fodd bynnag, mae angen i gwmnïau sy’n cymhwyso gyflwyno adroddiad SECR sy’n cydymffurfio fel rhan o’u cyfrifon blynyddol.
Mae hyn yn golygu y caiff y ‘dyddiad cau’ ei gysylltu gyda’ch blwyddyn ariannol gyda chwmnïau yn cael hyd at 9 mis i gyflwyno yn dilyn diwedd y flwyddyn.
Pethau i’w hystyried am SECR
Bydd cynnwys carbon ac ansawdd yr ynni a ddefnyddiwch yn newid bob blwyddyn ac mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau.
Gallai’r rhain gynnwys newidiadau i’r tywydd, cynhyrchiant, allbynnau generadur, maint y stad a dylanwadau geo-wleidyddol.
Caiff mwyafrif adroddiadau SECR eu seilio ar amcangyfrif o ddata defnydd, felly mae’n hanfodol darparu adroddiad sy’n defnyddio data a dulliau cyson i gasglu adroddiad blwyddyn ar flwyddyn sy’n rhoi portread cywir o effaith amgylcheddol eich sefydliad.
Felly beth yw’r gwahaniaeth rhwng ESOS a SECR?
Mae gan ESOS a SECR wahanol ddibenion yn ymwneud â gostwng effaith busnes ar yr amgylchedd.
Mae ESOS yn mesur defnydd ynni busnes, gan roi camau defnyddiol i’w ostwng yn eu tasgau dyddiol.
Mae SECR yn cyfrif ôl-troed carbon blynyddol busnes ac yn rhoi cymhariaeth flynyddol.
Beth sy’n debyg?
Mae angen 12 mis o ddata ynni ar gyfer y ddau adroddiad ac mae’n bosibl defnyddio’r un data ar gyfer y ddau adroddiad.
Amdano Utility Aid
Utility Aid yw’r ymgynghorydd ynni mwyaf ar gyfer y sector nid-er-elw. Maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i weddu pob math o adeilad yn cynnwys:
Canfod y contract ynni cywir ar gyfer eich adeilad
Rheoli a Chefnogi Cyfrif
Cynllunio Sero Net
Adroddiadau Carbon ac Archwiliadau ESOS
Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau amgylcheddol gorfodol/gwirfoddol yn cynnwys ESOS, SECR a ESG i sefydliadau yn y trydydd sector. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.