Jump to content

13 Awst 2018

Beth sy'n digwydd yn yr etholiadau yng Nghymru

Beth sy'n digwydd yn yr etholiadau yng Nghymru
Ychydig o dawelwch a ddaeth gwyliau'r haf i'r Cynulliad Cenedlaethol, er mai go brin fod hynny'n syndod o gofio fod ymgyrchoedd ethol arweinwyr yn mynd rhagddynt mewn pedair o'r pleidiau, gydag UKIP y cyntaf i ddychwelyd eu harweinydd.


Ddydd Gwener cafodd Gareth Bennett ei ethol gan UKIP i'w harwain yn y Cynulliad yn dilyn ychydig fisoedd dramatig i arweinyddiaeth UKIP. Disodlwyd Neil Hamilton gan Caroline Jones, ond cyhoeddwyd wedyn y byddai etholiad am yr arweinyddiaeth lle byddai Neil Hamilton yn ceisio adennill ei swydd.


Y blaid nesaf i gyhoeddi eu harweinydd newydd fydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn etholiad arweinyddiaeth a gafodd ei sbarduno gan ymddiswyddiad Andrew RT Davies ym mis Mehefin. I ddechrau credid efallai y penodid Paul Davies yn arweinydd parhaol heb gystadleuaeth ond newidiodd hyn pan gyflwynodd Suzy Davies ei henw gan ddweud y credai y dylai fod etholiad i'r aelodau bleidleisio ynddi. Cyhoeddir canlyniadau'r etholiad ar 6 Medi, gan olygu y bydd yr arweinydd newydd yn ei swydd ar ddechrau tymor newydd y Cynulliad.


Roedd lansiad swyddogol etholiad arweinydd Plaid Cymru mewn digwyddiad i aelodau'r Blaid yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ddydd Mawrth diwethaf, a disgwylir y caiff y pleidleisiau eu cyfrif tua diwedd mis Medi cyn eu cynhadledd ym mis Hydref. Rhaid aros i weld os caiff yr arweinydd presennol Leanne Wood ei disodli gan y naill neu'r llall o'r ymgeiswyr, Adam Price neu Rhun ap Iorwerth, ond mae'n debyg y byddai newid sylweddol o fewn y Blaid os caiff ei threchu. Mae Adam Price wedi awgrymu'n flaenorol y dylid cael dau arweinydd ar y cyd (yn debyg i'r Blaid Werdd) ond gwrthododd Leanne Wood y syniad, ac fel canlyniad mae'n sefyll yn ei herbyn am y swydd. Bu'n eithaf beirniadol o'r blaid yn ddiweddar, gan ddweud fod angen i Blaid Cymru "finiogi ei ffocws" os yw eisiau peidio aros yn ei unfan. Aeth mor bell ag awgrymu newid enw Plaid Cymru i Blaid Cymru Newydd gan ddweud y byddai hyn yn dangos y byddai Plaid Cymru dan ei arweinyddiaeth ef yn blaid dyfodol Cymru. Dywedodd Adam Price y byddai'n rhoi'r un pellter oddi wrth Lafur a'r Ceidwadwyr, tra bod Rhun ap Iorwerth wedi dangos peth parodrwydd i weithio gyda'r Ceidwadwyr. Byddai'r ddau ymgeisydd yn gam i ffwrdd o safle Leanne Wood ar chwith y sbectrwm gwleidyddol, lle bu Plaid Cymru yn brwydro mewn gofod cynyddol lawn yn erbyn Plaid Lafur Jeremy Corbyn.


Mae'r gystadleuaeth i fod yn Arweinydd Llafur Cymru (fydd hefyd yn Brif Weinidog Cymru) yn dal yn ei chamau cynnar ac ni ddisgwylir penodi arweinydd newydd tan fis Rhagfyr. Yr wythnos hon, ar ôl llawer o ddyfalu, penderfynodd Jeremy Miles beidio cyflwyno ei enw, gan gynnig ei gefnogaeth i Mark Drakeford yn lle hynny. Mae hyn yn golygu fod 13 o Aelodau Cynulliad yn cefnogi ymgyrch Drakeford, sylweddol fwy na'r pump sydd ei angen. Mae'n bendant yn ymddangos mai Drakeford yw'r ceffyl blaen yn yr ymgyrch ac mae'n debyg y byddai ei safiad gwleidyddol yn fwy cydnaws gyda Phlaid Lafur Corbyn yn Westminster nag yw Llafur Cymru ar hyn o bryd dan arweinyddiaeth Carwyn Jones.


Yr ymgeisydd arall sydd eisoes yn y ras am y swydd yw Vaughan Gething, sydd newydd sicrhau ei bumed enwebiad gan sicrhau y bydd pleidlais ar gyfer aelodau'r Blaid Lafur. Mae tri Aelod Cynulliad arall wedi cyflwyno eu henwau fel ymgeiswyr, Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies ac Alun Davies, er nad oes neb ohonynt hyd yma wedi llwyddo i sicrhau enwebiadau gan eu cyd Aelodau Cynulliad. Mae chwe Aelod Cynulliad Llafur yn dal heb ddatgan cefnogaeth i unrhyw un o'r ymgeiswyr (neu'n wir gyflwyno eu henwau eu hunain) ac nid yw'n hysbys hyd yma os y bydd unrhyw rai ohonynt yn cynnig eu cefnogaeth i Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies neu Alun Davies.


Ni fyddwn yn hoffi rhagweld sut yr aiff yr etholiadau hyn ond mae cymaint yn y pair yn y Cynulliad (fel llawer o'r maes gwleidyddol ar hyn o bryd) a gallai'r arweinwyr newydd ddod â chwa o awyr iach y bu hir aros amdano yng ngwleidyddiaeth Cymru.